Siarad â rhywun 

Rydym yn darparu amrywiaeth o gefnogaeth emosiynol arbenigol i aelodau unigol a theuluoedd cyfan cyhyd ag y bydd ei angen.   

Gall y gefnogaeth arbenigol hon gael effaith hynod gadarnhaol ar iechyd meddwl a lles, yn ogystal â’r ffordd y mae teulu’n gweithredu. 

Siarad â rhywun

Rydym ni yma ich helpu chi

Os hoffech chi neu aelod o’ch teulu fanteisio ar unrhyw un o’r gwasanaethau cefnogaeth emosiynol yr ydym ni’n ei darparu, peidiwch ag oedi, cysylltwch â’n tîm cymorth i deuluoedd ar 02920 532200 neu ar familysupport@tyhafan.org 

Rydym ni yma i chi 24 awr y dydd, 365 diwrnod o’r flwyddyn, i helpu gydag unrhyw fater neu bryder yr ydych chi’n ei wynebu. 

Cefnogaeth emosiynol i’ch holl deulu

Cefnogaeth i blant â salwch sy’n byrhau bywyd

Rydym ni’n deall y gall plentyn neu berson ifanc sydd â salwch sy’n byrhau bywyd gael trafferth ag emosiynau anodd a theimlo’n unig. Yn Tŷ Hafan, rydym ni’n darparu amrywiaeth o gefnogaeth i helpu plant a phobl ifanc i weithio drwy eu teimladau.  

Tîm cymorth i deuluoedd

Gall ein tîm ymroddedig weithio gyda phlentyn neu berson ifanc i ddeall eu hanghenion emosiynol a’u helpu i gael y gefnogaeth gywir.

Therapi chwarae

Rydym ni’n cynnig sesiynau unigol cyfrinachol gyda’n therapydd chwarae i helpu plentyn i fynegi sut mae’n teimlo.

Cefnogaeth gan gyfoedion

Rydym ni’n trefnu digwyddiadau a gweithgareddau i helpu’r plant yr ydym ni’n gofalu amdanynt gefnogi ei gilydd.

Grŵp Facebook

Mae cyfle i bobl ifanc dros 13 oed gysylltu ar-lein a helpu’i gilydd.

Siarad â rhywun

Cefnogaeth i rieni a gofalwyr

Efallai y bydd rhiant neu ofalwr plentyn sydd â salwch sy’n byrhau bywyd yn ei chael hi’n anodd rhannu sut maen nhw’n teimlo. Ond gallai siarad â rhywun y tu allan i’ch teulu neu gyda pherson sy’n mynd drwy amgylchiadau anodd fod yn help mawr.

Tîm cefnogi teuluoedd

Gall ein tîm ymroddedig weithio gyda rhiant neu ofalwr i ddeall eu hanghenion emosiynol a’u helpu nhw i gael y gefnogaeth gywir.

Grŵp cefnogi rhieni a gofalwyr

Rydym ni’n cynnal amrywiaeth o grwpiau cyfeillgar yn ein hosbis a lleoliadau cymunedol sy’n helpu rhieni a gofalwyr i rannu eu profiadau a chefnogi ei gilydd.

Grŵp cefnogi mamau

Rhannwch straeon, profiadau a chwerthin yn ein grwpiau ar gyfer mamau sydd wedi’u lleoli ledled Cymru.

Grŵp cefnogi Tadau

Dewch i gwrdd a sgwrsio â thadau eraill yn eich cymuned neu wrth wneud gweithgaredd, fel grwpiau cerdded a sgwrsio neu chwarae pêl-droed.

Grŵp Facebook

Cyfle i rieni a gofalwyr gysylltu ar-lein a chefnogi ei gilydd.

Siarad â rhywun

Cefnogi teuluoedd 

Gall gofalu am blentyn sydd â salwch syn byrhau bywyd gael effaith enfawr ar les ac iechyd meddwl teulu. Rydym ni yma i wneud yn siŵr bod teuluoedd yn cael yr holl gefnogaeth emosiynol sydd ei hangen arnyn nhw er mwyn iddyn nhw gael ansawdd bywyd da. 

Tîm cefnogi teuluoedd

Gall ein tîm ymroddedig weithio gydach teulu ich helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch chi fel uned gyfan ac yn unigol. 

Digwyddiadau teuluol 

Rydym nin trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn i helpu teuluoedd Tŷ Hafan i gwrdd a chefnogi ei gilydd ac i deimlon llai unig. 

Cefnogaeth i frodyr a chwiorydd 

Rydym nin gwybod y gallai brodyr a chwiorydd plentyn sydd â chyflwr syn byrhau bywyd golli cyfleoedd, bod â chyfrifoldebau ychwanegol, a theimlon unig. Rydym nin darparu cefnogaeth arbenigol i frodyr a chwiorydd i’w helpu nhw i deimlon well yn emosiynol, a chael hwyl.  

Tîm cefnogi teuluoedd

Gallwn ni gynnig sesiynau cyfrinachol, unigol gyda’n gweithiwr cefnogi brodyr a chwiorydd neu, petai eu hangen, therapydd chwarae. Mae hyn yn rhoi cyfle i frawd neu chwaer sgwrsio am deimladau y gallan nhw fod yn eu hwynebu ac ymdrin â nhw.

Amser gyda rhieni

Rydym ni’n helpu brodyr a chwiorydd i dreulio amser o ansawdd gyda’u mam a’u tad, a all fod o fudd mawr i’w hiechyd meddwl a’u lles.

Grwpiau cefnogi

Rydym ni’n trefnu amrywiaeth o grwpiau cefnogi sy’n addas i oedran ar gyfer brodyr a chwiorydd i’w helpu nhw i gwrdd â ffrindiau newydd, magu hyder a gwella eu lles emosiynol.

Diwrnodau profedigaeth

Rydym ni’n cynnal diwrnodau profedigaeth i frodyr a chwiorydd yn unig i’w helpu nhw i siarad am farwolaeth brawd neu chwaer ac ymdopi â hyn.

Maen cŵl sgwrsio â rhywun syn gwybod beth rydych chin mynd trwyddo. Rydw i wir yn hoffi treulio amser gyda fy ffrind ac maer ddau ohonom nin dwlu ar y Den!

- Rhys, sy’n byw gyda nychdod cyhyrol Duchenne

Mae Iwan yn cael mynd i sesiynau chwarae a chwrdd â brodyr a chwiorydd eraill. Mae Tŷ Hafan yn trefnu mynd ag ef i nofio, ac maen nhw weithiaun mynd ir sinema, rhywbeth na allwn ni ei wneud. Mae en mwynhaur cyfan ac mae ef wedi gwneud ffrindiau da iawn yno.

- Julie

Rydw i wedi bod yn rhan o grŵp y tadau ers haf diwethaf ac rydym ni wedi dod yn grŵp clos ond eto’n agored iawn. Dydyn ni ddim yn eistedd mewn cylch yn siarad am ein teimladau. Does dim rhaid. Mae bob un ohonom ni yn rhannu dealltwriaeth ac yn cael cysur yn y grŵp.

- Brad

Mae cwnsela wedi fy helpu i fynegir ffordd rwy’n teimlo i fy rhieni. Rydw i wedi dioddef llawer o orbryder ac ofnau am fod yn y tŷ ar ben fy hun oherwydd nid wyf in gallu symud cystal nawr.

Rydym nin cael y cyfle i fanteisio ar gefnogaeth deuluol, ac mae fy ngŵr a fi yn cael cwnsela nawr, drwyr hosbis. Mae fy ngŵr fel petain mynd iw gragen llawer or amser, ond mae ganddyn nhwr ffordd arbennig yma. Maen nhw jyst yn deall. Maen nhwn deall popeth.

Mae cwrdd â theuluoedd eraill o fudd. Maen rhoi cyfleoedd i chi rannu a pheidio teimlo mor unig

Maer gefnogaeth deuluol ar gefnogaeth i frodyr a chwiorydd yn help mawr. Maen rhoi amser teuluol ac amser fel cwpl i ni. Cyfle i siarad â rhywun syn deall, syn gallu esbonio pethau ac syn deall yr ofn.

Felly, mae hi mor bwysig i nid yn unig ein plant ond i ni fel rhieni, ein priodas, ac i frodyr a chwiorydd hefyd.

Ty Hafan - Home Page

Cefnogaeth ymarferol

O gael gafael ar offer, i ddod o hyd i ysgol, i hawlio cymorth ariannol, gallwn roi cefnogaeth ymarferol arbenigol i chi syn gwneud pethaun symlach ac syn gwella ansawdd bywyd eich teulu. 

Cymorth profedigaeth

We understand that grief is different for everyone. That’s why we offer tailored bereavement support to individuals and whole families for however long it’s needed.