Stori Cameron
Pan oedd ond dau ddiwrnod oed, cafodd Cameron ei frysio i ofal arbennig. Ar un adeg stopiodd anadlu. Roedd yn amser pryderus i Aimee a oedd yn fam am y tro cyntaf, ond ar ôl nifer o brofion, cawsant eu hanfon adref. Erbyn yr oedd yn 6 mis oed, roedd ymweliadau â’r ysbyty yn digwydd yn aml gan fod Cameron wedi dechrau tagu ac roedd yn cael problemau ar y frest. Yn 11 mis oed, doedd Cameron ddim yn gallu eistedd i fyny, nid oedd yn gallu dal ei ben i fyny ac roedd yn methu cerrig milltir datblygiadol. Gofynnwyd am sgan MRI i ddod o hyd i atebion.
Roedd yn amser ofnadwy. Roeddwn i mor bryderus.

“Roeddwn i’n gwybod bod rhywbeth o’i le o’r eiliad y cafodd ei eni, ond ar ôl profion yn yr uned gofal arbennig cawsom ein hanfon adref. Fel mam newydd roedd yn achosi llawer iawn o straen. Roeddwn i’n amau fy hun oherwydd mai ef oedd fy mhlentyn cyntaf. Er hynny, roeddwn i’n gwybod bod rhywbeth ddim yn iawn. Am flwyddyn gyntaf ei fywyd, treuliodd fwy o amser yn yr ysbyty nag allan ohono. Roedd yn amser ofnadwy. Roeddwn i mor bryderus”
“Un diwrnod, pan oedd Cam yn 16 mis oed, aethon ni am apwyntiad pediatrig arall. Ond y tro hwn cawsom ni ein galw i mewn i ystafell ar wahân i gwrdd â’r ymgynghorydd. Roeddwn i’n gwybod bod rhywbeth o’i le go iawn. Dyna pryd y cawsom y newyddion mwyaf dinistriol – roedd gan fy mhlentyn bach gwerthfawr Syndrom Joubert, clefyd genetig prin. Roedd yn teimlo fel bod fy mhen wedi ffrwydro; roedd yn anodd deall beth fyddai hyn yn ei olygu”
“Ac yna cawsom ein hanfon adref. Ni roddwyd unrhyw wybodaeth i ni na’n cyfeirio at unrhyw wasanaethau cymorth. Roeddwn i mor ddryslyd. Roedd mor annisgwyl. Rwy’n cofio eu bod nhw wedi dweud ‘edrychwch ar Facebook a gweld a oes unrhyw grwpiau cymorth ar gael’. Roeddwn i’n syfrdan.”
Mae’n dibynnu arnaf 24/7
“Nid yw Cam yn gallu siarad. Mae ganddo broblemau gyda’i gydbwysedd a’i anadlu. Nid yw’n gallu gwisgo na bwydo ei hun. Mae’n dibynnu arnaf 24/7”.
“Roeddwn i’n gyson yn poeni ac yn bryderus, bob amser wedi blino. Roedd fy mywyd yn gylch o bryder – byddwn i’n mynd i gysgu yn bryderus ac yn deffro’n bryderus. Roeddwn i’n teimlo mor unig. Yna tarodd Covid, a gwnaeth y cyfnod clo bopeth 100% yn waeth. Roedd angen help arnaf; doeddwn i ddim yn gwybod ble i droi.”
“Roeddwn i wedi clywed am Tŷ Hafan, ond roedd y gair ‘hosbis’ yn fy nychryn i. Roeddwn i’n meddwl mai dim ond ar gyfer gofal diwedd oes oedd e. Doeddwn i ddim yn sylweddoli y gallen nhw fy helpu i a fy nheulu. Nid oedd neb erioed wedi esbonio’r gefnogaeth maen nhw’n ei chynnig nac wedi awgrymu i mi gysylltu â nhw. Y tro cyntaf i mi ddod yma, roedd yn teimlo fel bod pwysau enfawr yn cael ei godi oddi ar fy ysgwyddau. Mae’r enw Tŷ Hafan yn berffaith oherwydd ei fod yn hafan ddiogel go iawn.”
Rhoi heddiw