Volunteering FAQs

Oes gennych chi gwestiwn am wirfoddoli ar gyfer TÅ· Hafan? Rydym wedi rhoi atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir i ni.  

Volunteering FAQs
A yw gwirfoddoli’n ddiogel, o ystyried y pandemig Covid-19 diweddar?
Rydym yn parhau i adolygu ein holl arferion gwirfoddoli yn unol â chanllawiau'r llywodraeth. Mae hyn yn lleihau'r risg o ledaenu'r feirws cymaint â phosibl a diogelu ein gwirfoddolwyr, ein gweithwyr, ein cwsmeriaid ein siopau, ein contractwyr a’n hymwelwyr.
Beth sy’n digwydd ar ôl i mi wneud cais i wirfoddoli?
Byddwn yn edrych ar eich cais ac fe fydd aelod o'n tîm Gwirfoddoli'n cysylltu i drefnu sgwrs anffurfiol.
Pa ddogfennau y mae angen i mi eu darparu cyn i mi ddechrau fy swyddogaeth?
Rhaid i bob gwirfoddolwr ddangos prawf o'i hunaniaeth wrth wneud cais. Ar gyfer rhai swyddogaethau efallai bydd angen i chi ddarparu dogfennau ychwanegol, er enghraifft, os oes angen i chi basio gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y swyddogaeth yr ydych wedi’i dewis. Fe gysylltwn â chi i roi gwybod i chi beth yn union sydd ei angen arnom. 
Am ba hyd y mae angen i mi ymrwymo i wirfoddoli?
Byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw amser y gallwch chi ei roi. Efallai y byddwch yn gwirfoddoli am ddwy awr yr wythnos yn unig neu ar gyfer digwyddiadau unigol, neu efallai y byddwch yn rhoi mwy o'ch amser. Mae wir yn dibynnu ar eich amgylchiadau chi a pha swyddogaeth sy'n iawn i chi.
A gaf i ddewis beth fyddaf yn ei wneud?
Cewch wneud cais am unrhyw swyddogaeth. Neu gallwch gysylltu â'n tîm Gwirfoddoli a byddwn yn trafod eich diddordebau a'n holl swyddogaethau gyda chi, i ganfod beth sy’n ymddangos yn addas i chi. 
Rwy’n derbyn budd-daliadau. A allai fy ngwaith gwirfoddol effeithio arnyn nhw?
Yn gyffredinol, gallwch wirfoddoli a chael treuliau a'ch budd-daliadau, cyn belled â'ch bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau perthnasol.   Ond y peth gorau i'w wneud yw siarad â chynghorydd yn eich Canolfan Byd Gwaith a rhoi gwybod iddyn nhw eich bod chi'n ystyried gwirfoddoli. Gallwch hefyd ddod o hyd i ganllawiau ar wirfoddoli a hawlio budd-daliadau ar gov.uk 
Oes angen i mi fod o oedran penodol i wirfoddoli?
Am resymau yswiriant, rydym yn derbyn gwirfoddolwyr dros 16 oed yn unig yn ein siopau a dros 18 oed yn ein swyddfeydd ac yn ein hosbis.
Beth fydd yn digwydd ar fy niwrnod cyntaf?
Mae ein gwirfoddolwyr i gyd yn dilyn cwrs cynefino ar gyfer Tŷ Hafan a'u swyddogaethau gwirfoddoli penodol. Bydd popeth arall y byddwch chi'n ei wneud ar eich diwrnod cyntaf yn dibynnu ar eich swyddogaeth. Ond fel arfer byddwch yn cwrdd â'ch cydweithwyr a chael eich cyflwyno gan bwyll i'r hyn y byddwch yn ei wneud wrth i chi symud ymlaen.
A fyddaf i’n cael hyfforddiant ar gyfer fy swyddogaeth?
Byddwch. Mae angen elfen o hyfforddiant ar gyfer pob swyddogaeth. Ond bydd faint o hyfforddiant y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar eich swyddogaeth. Er enghraifft, byddwch yn cael hyfforddiant hirach, mwy cynhwysfawr os ydych chi'n mynd i fod yn rhoi cymorth uniongyrchol i blant a theuluoedd yn ein hosbis.
Beth os na fyddaf yn clywed dim ar ôl i mi holi am swyddogaeth neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnaf?
Cysylltwch ar unwaith â’n tîm gwirfoddoli drwy e-bost, volunteering@tyhafan.org neu ffoniwch 029 2053 2254. Weithiau mae negeseuon e-bost yn mynd i’r ffolder sothach neu fe rifau ffôn yn cael eu nodi’n anghywir.
Beth os newidiaf fy meddwl am wirfoddoli?
Mae popeth yn iawn os newidiwch eich meddwl am fod yn wirfoddolwr tra byddwch yn gwirfoddoli gyda ni. Ond cysylltwch â ni ar volunteering@tyhafan.org ynghylch hyn, fel y gallwn ddiweddaru ein cofnodion a rhoi gwybod i’ch rheolwr llinell neu gydlynydd.   Hefyd, efallai nad yw eich swyddogaeth bresennol yn gwbl addas i chi, ond efallai bydd swyddogaeth wirfoddoli arall yn Tŷ Hafan yn gwbl addas. Byddem yn hapus i drafod swyddogaethau addas eraill a allai fod ar gael. 
A fyddwch chi’n rhoi geirda i mi pan fyddaf yn gadael?
Ar ôl i chi fod yn gwirfoddoli gyda ni am dri mis, byddwn yn fwy na pharod i roi geirda i chi.
Ni fyddaf yn gallu gwirfoddoli bob wythnos neu weithiau bydd cyfnodau hir pryd na allaf i wirfoddoli? A gaf i wneud cais serch hynny?
Wrth gwrs. Mae gennym ni ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli nad ydyn nhw angen ymrwymiad rheolaidd gennych chi. Pan fyddwch yn gwneud cais i wirfoddoli, byddwn yn gofyn i chi pryd fyddwch ar gael a'r oriau sydd orau gennych chi y gellir eu newid ar unrhyw adeg. 
A gaf i wneud cais i wirfoddoli yn fy siop TÅ· Hafan leol?
Cewch wrth gwrs. Galwch i mewn neu ffoniwch eich siop leol a siaradwch â'r rheolwr yno. Bydd yn fwy na pharod i ateb eich cwestiynau a chael sgwrs anffurfiol gyda chi.
A gaf i wirfoddoli os oes gennyf euogfarn droseddol?
Ystyriwn bob cais yn deg ac yn gyfartal. Fodd bynnag, mae'n bwysig eich bod yn dweud wrthym yn syth am unrhyw euogfarnau a gewch chi yn ystod eich cyfnod yn gwirfoddoli ar gyfer TÅ· Hafan.
A gaf i wirfoddoli os oes gennyf unrhyw anghenion ychwanegol?
Rhowch wybod os oes gennych unrhyw gyflyrau iechyd neu anghenion ychwanegol y mae angen i ni wybod amdanyn nhw a allai gael effaith ar eich gwaith gwirfoddol. Yna cawn weld sut y gallwn ni eich cefnogi orau i'ch helpu chi i gyflawni eich swyddogaeth.   Gallwch ddarparu'r wybodaeth hon yn y blwch 'gwybodaeth ychwanegol' ar ein ffurflen gais, neu gallwch drafod eich anghenion gyda ni, er enghraifft, pan fyddwn yn cysylltu â chi ar ôl i chi wneud cais am y tro cyntaf. 
Beth os ydw i’n byw y tu allan i’r DU ac eisiau gwirfoddoli? 
Os ydych yn ymweld â’r DU ar wyliau ac os hoffech wirfoddoli yn ystod eich arhosiad cewch wirfoddoli gyda ni am uchafswm o 30 diwrnod. Wrth wneud cais, rhowch eich cyfeiriad yn DU yn y maes ‘Cyfeiriad’ ar ein ffurflen gais ar-lein  Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol sy’n astudio yn y DU, cewch wirfoddoli yn ystod y cyfnod yr ydych wedi cofrestru gyda phrifysgol yn y DU. Rhowch eich cyfeiriad yn y DU yn y maes ‘Cyfeiriad’ ar y ffurflen gais ar-lein.  Os oes gennych gyfyngiadau ar eich fisa sy’n eich atal rhag gwirfoddoli yn y DU, yna yn anffodus ni allwn gynnig cyfle i chi wirfoddoli. Nid ydym yn gallu noddi ceisiadau fisa.  
A gaf i wneud cais am sawl swyddogaeth?
Cewch, fe gewch chi wneud cais am sawl swyddogaeth a’u cyflawni, fel gwirfoddoli mewn siop a gwirfoddoli mewn digwyddiad. Golyga hyn efallai y bydd mwy nag un person yn cysylltu â chi ar ôl i chi wneud eich ymholiad cychwynnol.
Roeddwn i’n arfer bod yn wirfoddolwr TÅ· Hafan ond yna gadewais. A gaf i wirfoddoli eto?
Rydym yn gwybod bod sawl rheswm pam y mae gwirfoddolwr yn penderfynu gadael ac yna’n ddiweddarach yn dymuno dychwelyd. Os felly, cysylltwch â ni drwy e-bost, volunteering@tyhafan.org neu ffoniwch 029 2053 2254. Yna gallwn drafod eich amgylchiadau personol a pha swyddogaeth yr hoffech i ni ei hystyried ar eich cyfer.
A gaf i ddewis pa faes neu ddigwyddiad y byddaf yn gwirfoddoli ynddo?
Cewch, mae gennym gyfleoedd mewn sawl cymuned ac mewn amrywiaeth eang o ddigwyddiadau. Cewch ragor o wybodaeth ynghylch ble mae swyddogaethau ar gael ar ein tudalen swyddi gwag ar hyn o bryd, neu gallwch gysylltu â ni drwy e-bost, volunteering@tyhafan.org neu ffoniwch 029 2053 2254 i drafod eich anghenion penodol.
Os dechreuaf fy swyddogaeth ac yna’n penderfynu nad wyf yn ei hoffi, a gaf i newid swyddogaeth?
Wrth gwrs. Os ydych chi eisiau rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol, gadewch i ni wybod, ac fe allwn drafod swyddogaethau addas eraill a allai fod ar gael.
A gaf i wirfoddoli gyda ffrind?
Cewch, cyn belled â bod eich ceisiadau’n llwyddiannus a bod swyddogaethau addas ar gael ar yr un pryd yn y cyfnod y mae’r ddau ohonoch yn ei ystyried ar gyfer gwirfoddoli.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng gwirfoddoli a phrofiad gwaith yn Tŷ Hafan?
Mae profiad gwaith yn Tŷ Hafan ar gael yn ein siopau ac yn ein swyddfeydd yn unig. Fel arfer mae ar gyfer pobl sy’n dechrau ar lwybr gyrfa neu sydd eisiau gwneud rhywbeth i wella eu gyrfa bresennol. Fel arfer mae profiad gwaith yn ddi-dâl ac am gyfnod penodol. Fel rheol mae gwirfoddoli ar gyfer Tŷ Hafan yn fwy hyblyg na phrofiad gwaith oherwydd mae’n ymwneud â rhoi eich amser pryd bynnag y gallwch chi. Gallwch hefyd wneud ystod ehangach o swyddogaethau fel gwirfoddolwr. Fel yn achos profiad gwaith, ni fyddwch yn cael tâl, ond efallai y cewch dreuliau yn dibynnu ar eich swyddogaeth. 
Hoffwn i wirfoddoli ond nid wyf yn siŵr os fydd gennyf y sgiliau iawn?
Peidiwch â phoeni. Rydym ni'n ffyddiog bod gennym swyddogaeth i chi a fydd yn addas o ran eich diddordebau a'ch sgiliau. Hefyd, cofiwch na fydd disgwyl i chi wneud unrhyw dasg heb hyfforddiant a chefnogaeth lawn.
Ydych chi’n gofyn am eirdaon?
Os ydych chi eisiau gwirfoddoli yn rheolaidd ar gyfer TÅ· Hafan, byddwn yn gofyn i chi roi manylion dau ganolwr. Ond nid oes angen geirdaon arnom os ydych chi'n penderfynu gwirfoddoli mewn digwyddiadau unigol neu os ydych chi'n wirfoddolwr partner corfforaethol.
A fydd angen i mi gael gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)?
Rydym wedi ymrwymo i ofalu am yr holl bobl rydym yn eu cefnogi a'n gweithwyr a'n gwirfoddolwyr, yn ogystal â Tŷ Hafan yn gyffredinol. Dyma pam y mae angen i ni weithiau gynnal gwiriadau DBS ar gyfer rhai o'n swyddogaethau, er enghraifft, y rhai sydd wedi'u lleoli yn ein hosbis.  Edrychwch ar y disgrifiad o swyddogaeth gwirfoddolwr y mae gennych ddiddordeb ynddi i weld a oes angen gwiriad DBS. 
Rwy’n ffoadur. A gaf i wirfoddoli?
Cewch. Caiff pawb sydd â statws ffoadur yn y DU wirfoddoli gyda Tŷ Hafan a chefnogi ein gwaith.
Rwy’n geisiwr lloches. A gaf i wirfoddoli?
Cewch. Os ydych chi’n gwneud cais am loches yn y DU, cewch wirfoddoli gyda Tŷ Hafan.
Mae gennyf anabledd. A gaf i wirfoddoli gyda TÅ· Hafan?
Cewch. Rydym yn ffyddiog y bydd gennym, swyddogaeth i chi. Gadewch i ni wybod am eich anabledd a’ch anghenion pan fyddwch yn gwneud cais ar-lein, neu siaradwch â ni ac fe ddechreuwn ni edrych i weld sut  y gallwn eich cefnogi orau i fod yn wirfoddolwr.