“Fy enw i yw Susan ac rwy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda fy nau fab, Tyler, 16 a Marshall sy’n 13 oed.
“Mae Tyler yn fachgen arferol yn ei arddegau ond mae bywyd yn wahanol iawn i’w frawd bach.
“Ganwyd Marshall yn ar ôl beichiogrwydd llawn ac ar ôl ei genedigaeth arferol. Roeddwn i’n 21 oed. Nid tan ei fod yn chwe mis oed ac yn yr ysbyty’n cael triniaeth am niwmonia y dechreuwyd gofyn cwestiynau am ei iechyd.
“Ro’n i wedi mynd adref i gael cawod a chael ambell i ddilledyn glân a thra o’n i ffwrdd roedd nyrs wedi ei olchi – ac wedi sylwi bod ganddo grymedd yng ngwaelod ei gefn. Awgrymodd y dylai meddyg edrych arno.
“Daliodd y meddyg ysgrifbin o flaen llygaid Marshall a doedd ei lygaid ddim yn ei dilyn.
“Mae’n rhaid bod y meddyg hwnnw’n gwybod beth oedd yn chwilio amdano oherwydd gwnaeth anfon i ffwrdd am brofion ar unwaith.
“Bythefnos yn ddiweddarach cawsom wybod bod gan Marshall Syndrom Sanfilippo ac y byddai’n datblygu fel arfer nes ei fod tua pum mlwydd oed, yna byddai’n dechrau dirywio. Yn y pen draw, byddai’n colli ei holl alluoedd ac yn dioddef o ffitiau a dementia. Dywedwyd wrthyf bryd hynny na fyddai Marshall yn byw holl flynyddoedd ei arddegau, mwy na thebyg.
“Er i mi glywed y meddyg yn dweud hynny wrtha i, dydw i ddim yn meddwl fy mod wedi ei dderbyn am gyfnod.
“Yn yr achos hwn, ni wnaeth Marshall siarad erioed ac ni fu byth allan o gewynnau. Pan oedd yn fach byddai’n rhedeg yn wyllt o gwmpas y tŷ fel tarw gyda’i ben i lawr. Chefais i ddim help gan dad y bechgyn (roedden ni’n dal gyda’n gilydd bryd hynny). Erbyn hyn, prin y mae fy mhlant yn ei weld o gwbl.
“Ar ôl yr wythnosau cyntaf ar ôl diagnosis Marshall, dechreuais grio llawer ac yna ceisiais anghofio amdano. Roedd yn rhaid i fi. Oherwydd fel arall, byddech chi’n crio’n barhaus.
“Mae’n rhaid i chi ei gymryd un dydd ar y tro.
“Roedd hi’n haws pan oedd Marshall yn fabi. Mae’n fachgen mawr ac yn dal am ei oedran. Nawr ei fod yn ei arddegau nid yw’n gallu cerdded o gwbl ac mae bron yn gyfan gwbl yn cael ei fwydo trwy diwb. Rwyf wedi dechrau defnyddio teclyn i’w godi yn y tŷ gan ei fod wedi mynd yn rhy drwm i’w godi fel arall. Dydy e byth wedi siarad, fel y cyfryw, ond roedd yn arfer dweud ychydig o eiriau. Erbyn hyn, dydy e ddim yn gallu dweud dim.
“Roeddwn i newydd wahanu gyda’u tad pan gysylltodd fy mam â Tŷ Hafan am gefnogaeth allgymorth. Roedd Marshall yn ddwy oed ar y pryd. Dechreuon ni ddefnyddio Tŷ Hafan ar gyfer seibiant pan oedd yn bump oed.
“Mae Marshall wastad wrth ei fodd yn Tŷ Hafan. Mae bob amser yn hapus yn yr hosbis. Mae’n caru’r bobl. Mae wrth ei fodd â’r newid yn yr amgylchedd. Mae’n mwynhau gweithgareddau nawr, ond mae’n syrthio i gysgu cryn dipyn. Mae’n blino’n gyflym iawn. Mae’n caru’r menywod serch hynny – mae’n fachgen yn ei arddegau!
“Dyw Tyler ddim yn siarad am Marshall a’r hyn mae’n mynd drwyddo ryw lawer. Dydy e ddim yn agor i fyny. Rwy’n gwybod ei fod yn effeithio arno. Roedd yn arfer bod yn rhan o grŵp brodyr a chwiorydd Tŷ Hafan, ond dydw i ddim yn meddwl ei bod hi’n cŵl iddo wneud hynny bellach. Rwy’n credu ei fod dan ddylanwad ei ffrindiau.
“Mae Tŷ Hafan yn achubiaeth i ni. Rydyn ni wedi cael ambell ymweliad argyfwng – adegau pan mae Marshall wedi bod yn effro am ddyddiau diddiwedd. Yna bydd yn sgrechian yn gyson. Pan fydd yn mynd i Tŷ Hafan, gall Marshall a minnau gael seibiant ac rwy’n gwybod ei fod yn cael gofal da.
“Dydw i ddim yn siŵr sut fydda i’n delio pan ddaw’r amser i ni golli Marshall. Galla’ i dychmygu fy mywyd hebddo nawr. Mae e gyda fi drwy’r amser. Mae fel rhan ychwanegol o fy nghorff.
“O’n i wastad yn dychmygu pe na bai gan Marshall y cyflwr yma – y byddai’n blentyn trafferthus yn ei arddegau. Roedd e’n arfer bod yn eithaf digrif. Byddai wedi bod yn drafferth ond byddai wedi bod yn ddoniol hefyd.
“Mae colli symudedd Marshall a cholli ei allu i fwyta wedi digwydd yn gyflym iawn, ers mis Gorffennaf mewn gwirionedd. Roedd arbenigwyr bob amser wedi dweud wrthyf y byddai’n raddol, ond dydy hynny ddim yn wir am Marshall. Roedd bob amser yn dwlu ar ei fwyd. Byddai’n gwneud unrhyw beth i gael bwyd. Nawr nid yw’n gallu llyncu. Mae hyd yn oed bwyd wedi’i gymysgu yn achosi iddo ei boeri a’i dagu. Mae hynny’n drist iawn oherwydd roedd yn mwynhau ei fwyd.
“Mae hefyd yn mynd trwy rai nosweithiau lle nad yw’n cysgu o gwbl. Rydw i a fy nyweddi wedi blino’n lân. Mae’n haws yn ystod y tymor gan y gallwn ddal i fyny â chwsg, ond yn llawer anoddach yn ystod yr haf. Roedd yn rhaid i ni geisio cael rhywfaint o orffwys pan oedd Marshall yn gorffwys – y rhan fwyaf o’r amser, byddwn i’n mynd o gwmpas fel ‘zombie’.
“Prognosis Marshall yw na fydd, yn ôl pob tebyg, yn goroesi blynyddoedd ei arddegau.
“Rwy’n rhan o grŵp o rieni sydd â phlant Sanfilippo ac mae rhai achosion lle mae plant yn tyfu i fod yn eu 20au hwyr. Felly gobeithio y bydd Marshall yn un o’r rhai mwy ffodus fydd yn byw am fwy o amser na’r hyn a ragwelir. Y cyfan y gallwch ei wneud yw gobeithio.
“Mae tipyn o adegau wedi bod pan dwi wedi teimlo mod i methu ymdopi bellach – a’r cyfan yn ormod i fi. Felly dwi’n ffonio Tŷ Hafan ac maen nhw’n cael Marshall i mewn cyn gynted â phosib.
“Mae Tŷ Hafan yn lle gwych sy’n rhoi lle i blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd fwynhau eu hamser.
“Mae hefyd yn rhoi llawer o gefnogaeth i deuluoedd na fydden nhw o bosibl yn gallu ymdopi hebddo.”