“Tan hydref 2017, roedd Thomas yn fachgen wyth oed arferol,” meddai ei dad James Meacham, o’r Coed Duon. “Roedd yn ffit iawn, yn astudio karate, roedd yn ddeallus, yn ddarllenwr brwd o David Walliams i Harry Potter, yn geek Star Wars llwyr ac yn ddoniol iawn. Roedd yn plentyn arferol.

“Pan ddechreuodd y flwyddyn ysgol newydd y mis Medi hwnnw, dechreuodd Sarah a fi sylwi ar rai newidiadau ynddo, newidiadau ymddygiadol a chorfforol oedd yn gwbl wahanol i’w gymeriad arferol. Yna, ym mis Ionawr 2018, cafodd Thomas ddau ffit mawr gartref. Ar ôl cael ambiwlans â golau glas i’r ysbyty a phrofion amrywiol, cawsom ddiagnosis o Adrenoleukodstrophy (ALD).

“Anhwylder genetig ar yr ymennydd ydyw sy’n brin iawn ac sydd ond yn effeithio ar fechgyn. Mae ALD yn dinistrio craidd allanol amddiffynnol y nerfau yn yr ymennydd, sy’n golygu bod yr holl resymu, swyddogaeth echddygol a phopeth y mae eich corff yn ei wneud yn cael ei golli yn y pen draw. O fewn chwe wythnos o gael y diagnosis roedd Thomas yn ddall a bu farw ar 2 Mehefin 2019, dim ond 18 mis yn ddiweddarach.

“Pan fyddwch chi’n cael diagnosis terfynol i blentyn a oedd yn ffit ac yn iach cyn hynny, mae’n swnio fel ystrydeb ond yn llythrennol doedden ni ddim yn gwybod ble i droi. Yna cawsom wybod am hosbis plant Tŷ Hafan. Roeddem ni’n ofnus i ddechrau. Roeddem ni’n meddwl mai lle mae plant sâl iawn yn mynd i farw oedd e. Allem ni ddim fod wedi bod yn fwy anghywir.

“Tŷ Hafan yw’r lle mwyaf cadarnhaol, dyrchafol ac ysbrydoledig y byddwch chi’n ymweld ag ef erioed.

“O’n hymweliad cyntaf pan oedd Thomas yn gallu mwynhau’r ardal chwarae awyr agored i’n hymweliad diwethaf pan fu farw, roedd y gofal, y tosturi a’r  gefnogaeth a gawsom ni i gyd gan Tŷ Hafan o’r radd flaenaf. Fe wnaethon nhw hyd yn oed ddarllen iddo a rhoi Star Wars ymlaen yn ei ystafell ar ôl iddo farw. Ni allaf ddweud mewn geiriau pa mor galonogol oedd hynny fel rhiant.

“Rydyn ni’n dal i gael galwadau ac ymweliadau gan ein gweithiwr cymorth i deuluoedd, ac maen nhw wedi sefydlu sesiynau therapi chwarae yn yr ysgol i helpu ein merch naw oed Ella i ddelio â’i galar.

“Mae fy ngwraig, Sarah, a minnau yn dal i gael gwahoddiadau i sesiynau therapi ategol yn yr hosbis, ac, i mi, mae cefnogaeth grŵp y tadau yn unigryw ac yn amhrisiadwy. Yn aml gall edrych fel tynnu coes ond mae’n lle diogel i dadau sydd yn yr un sefyllfa ofnadwy i siarad yn rhydd ac yn eofn.

“Pryd bynnag roedd Thomas yn Nhŷ Hafan roeddem bob amser yn teimlo y gallem ni ymlacio fel teulu a rhoi amser a sylw mawr ei angen i Ella. Rwy’n credu y byddai pob rhiant Tŷ Hafan yn dweud bod yr hosbis wedi chwarae rhan gadarnhaol enfawr yn eu bywydau.

“Dwi wir ddim yn gwybod lle fydden ni heb Tŷ Hafan.”