Mae Seth Burke, bachgen ysgol pedair ar ddeg oed o Gaerdydd, wedi bod yn defnyddio Tŷ Hafan am y chwe blynedd diwethaf. Ganwyd Seth, sy’n ddisgybl yn Ysgol St Cyres, gyda Dystroffi Cyhyrol Duchenne (DMD), cyflwr sy’n gwaethygu, sy’n golygu nad yw ei gyhyrau mor gryf â rhai plant nad oes ganddynt DMD.
“Ar ddechrau’r cyfnod clo cyntaf fe dorrais i fy ffêr,” meddai Seth. “Roeddwn i yn ein hen dŷ, mewn cast, ac dydw i heb sefyll ar fy nhraed mor hir nawr fel na allaf wneud hynny mwyach.”
Mae gan Seth, sy’n byw yn Ninas Powys gyda’i fam a’i dad, Lisa a John, a’i frodyr iau Reggie, 12 oed, ac Elias 7 oed, gadair bŵer, y mae’n dwlu arni.
“Mae’n llawer cyflymach na cherdded. Hefyd, galla’ i fynd o gwmpas yr ysgol yn hawdd iawn ac rwy’n dda iawn am redeg bysedd traed drosodd!” meddai Seth.
Mae Seth yn defnyddio Tŷ Hafan am seibiannau byr, yn aml gyda’i ffrindiau Cody a David, sydd hefyd â DMD.
“Mae’n brofiad gwahanol i ni,” meddai Seth. “Fe allwn ni fynd yn flin am y grisiau gyda’n gilydd.
“Ond mewn gwirionedd mae Tŷ Hafan yn fan lle galla’ i fynd o gwmpas yn hawdd a chael hwyl. Mae yna ystafell gelf, ynghyd â’r Den, sy’n ystafell gemau cyfrifiadurol, ac mae’r pwll yn anhygoel. Mae’r cinio rhost yn flasus iawn a’r ddiod lemon yw’r gorau yn y byd.
“Mae’r staff hefyd yn wych – maen nhw’n chwarae cuddio gyda fi. Y tro cyntaf i mi fynd yno – fe wnes i guddio mor dda, doedden nhw ddim yn gwybod ble roeddwn i, a bu bron iddyn nhw alw’r heddlu! Nawr mae’n rhaid i ni ddefnyddio gair cod rhag ofn na allan nhw ddod o hyd i fi!”
Dywed ei fam, Lisa: “Mae Tŷ Hafan yn achubiaeth lwyr. Mae Seth yn cael y pecyn gofal llawn ar gyfer y penwythnos cyfan ac nid oes rhaid i ni boeni am unrhyw beth. Hefyd, gall Seth gwrdd â’i ffrindiau sy’n ymdopi â phethau tebyg i Seth.
“Yn ogystal â hyn mae gan Tŷ Hafan y grŵp Super Sibs sy’n adnodd gwych i Reggie. Ac mae Grŵp Sgowtiaid Tŷ Hafan hefyd yn wych. Mae’n ffordd o allu gwneud pethau arferol – gwneud popeth yn hawdd iddo.
“Yn bendant, dylai pobl gefnogi Tŷ Hafan.”
Ers mis Tachwedd 2021 mae Seth hefyd wedi bod yn Aelod o’r Senedd Ieuenctid gan gynrychioli Tŷ Hafan.
“Dwi mor falch o fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru – a hyd yn oed yn fwy balch o fod yr Aelod cyntaf o Senedd Ieuenctid Cymru sydd mewn cadair olwyn ac sydd â DMD,” meddai.
“Rydw i eisiau bod yn llais cryf i blant eraill fel fi, i blant eraill sy’n defnyddio cadeiriau olwyn ac ar gyfer hosbisau plant, a’r teuluoedd a’r ffrindiau hynny sy’n mynd yr un cam ychwanegol hwnnw i sicrhau bod modd cyflawni unrhyw beth.”
Cliciwch yma i ddilyn Seth ar ei ffrwd Twitter.