Mae’r actor adnabyddus o Gymru, Huw Davies yn paratoi i gerdded bron i 500 milltir ar draws gogledd Sbaen yn ddiweddarach y mis hwn er cof am ei nai a thad i un, Rhys Tom, a fu farw’n annisgwyl yn gynharach eleni yn 31 oed. 

Nod Huw, sydd hefyd yn cael ei adnabod dan ei enw llwyfan Ifan Huw Dafydd, yw codi £10,000 ar gyfer dwy elusen Gymreig; Hosbis Plant Tŷ Hafan a Sefydliad Jac Lewis, sy’n hybu iechyd meddwl da, yn codi ymwybyddiaeth o hunanladdiad ac yn cefnogi perthnasau a ffrindiau mewn profedigaeth.

Bu farw Rhys Tom, neu ‘Twm’ fel yr oedd yn cael ei adnabod gan ei deulu a’i ffrindiau, o Landysul, ar 28 Mawrth, bedair wythnos yn unig cyn yr oedd i fod i redeg Marathon Llundain ar gyfer Tŷ Hafan er cof am un o’i ffrindiau o ddyddiau ei blentyndod, a gafodd ei gefnogi gan yr elusen.

Mae Huw, 69 oed, o Gaerdydd, y mae ei waith actio’n cynnwys Y Golau, The Crown, Sam Tân, Gavin and Stacey a Pobl y Cwm, nawr yn paratoi i ymgymryd â phererindod Camino de Frances, taith 475 milltir / 764km ar draws y Pyreneau, gwastadeddau a chefn gwlad agored o St Jean-Pied-De-Port yn ne-orllewin Ffrainc i Santiago de Compostela yng ngogledd-orllewin Sbaen.

Meddai Huw: “Roedd fy nai Rhys Tom, yr oedd pawb yn ei alw’n Twm, yn mynd i redeg Marathon Llundain eleni. Roedd wedi addo codi arian ar gyfer Tŷ Hafan, yr hosbis i blant, er cof am ei ffrind ysgol.

“Wnaeth Twm byth redeg y marathon.

“Ar 28 Mawrth 2023 collodd ein teulu un o’i gymeriadau lliwgar. Mab, brawd, ewythr, darpar ŵr a thad i Celyn fach. Roedd yn chwaraewr rygbi, yn bencampwr bocsio dros Gymru, yn rhedwr marathon. Roedd awr yn ei gwmni yn eich bywiogi – y wên, y direidi, y tynnu coes. Y wên yna a’r fflach o ddrygioni yn ei lygad – fe fyddan nhw’n aros gyda fi am oes.

“Yn 31 oed, roedd Twm yn llawer rhy ifanc ac yn rhy werthfawr o lawer i’n gadael ni.

“Yn 69 oed, mae fy nyddiau rhedeg i y tu ôl i mi, ond rwy’n bwriadu gwneud yn siŵr bod addewid Twm i Tŷ Hafan yn cael ei gadw. Fis Awst a mis Medi byddaf yn cerdded Camino Frances ar draws Gogledd Sbaen i Santiago de Compostela – 764 kms.

“Rwy’n gobeithio codi ymwybyddiaeth ac arian i elusen arall. Mae Sefydliad Jac Lewis yn helpu teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth yn sgil hunanladdiad.

“Ceredigion sydd â’r gyfradd hunanladdiad uchaf yn y DU – 20.1 ar gyfer pob 100,000 o bobl, o gymharu â 10.1!

“Helpwch fi i wireddu addewid Twm drwy fy noddi i. Bydd pob ceiniog yn helpu plant a’u rhieni ar adeg hynod o drist. Diolch.”

Dywedodd Shelley Kirkham, Uwch Swyddog Gweithredol Codi Arian Tŷ Hafan: “Rydyn ni’n ddiolchgar dros ben i Huw am ymgymryd â’r sialens enfawr hon i ni a Sefydliad Jac Lewis. Does dim llawer o arian gan neb i’w sbario y dyddiau hyn, ond rwy’n gwybod y byddwn yn gwerthfawrogi beth bynnag y gallwch ei fforddio. Dymunwn yn dda i Huw ar gyfer ei daith ac edrychwn ymlaen at ei ddilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.”

Dywedodd Anthony Rees, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Sefydliad Jac Lewis: “Mae Sefydliad Jac Lewis yn ddiolchgar iawn i Huw am ddewis yr elusen ar gyfer yr her enfawr hon, fydd o fudd i gymaint o bobl sy’n gysylltiedig â’r ddwy elusen. Roeddwn i’n adnabod Rhys Tom yn bersonol pan oedd yn ymgymryd â’i Brentisiaeth Gwaith Coed ar y Cyd â CCTAL flynyddoedd lawer yn ôl. Pob lwc Huw a diolch yn fawr am dy ymdrech a’r cyfraniad i’r elusennau.”

Hyd yn hyn mae Huw wedi codi mwy na £5,000 o’i darged o £10,000. I gyfrannu ewch i: https://www.peoplesfundraising.com/fundraising/twm

Huw Davies on a training walk holds up a QR code