Daeth miloedd o redwyr i Ynys y Barri ddydd Sul ar gyfer Ras 10K ABP Ynys y Barri 2023, wrth i’r tywydd ansefydlog yn ddiweddar glirio gan adael awyr las a heulwen.

Aeth y ras 10K â rhedwyr ar daith o amgylch golygfeydd y dref gydag uchafbwyntiau yn cynnwys Bae Whitmore, Parc Romilly, y Knap a Watch House Bay. Roedd dros 3,200 o redwyr wedi cofrestru i gymryd rhan yn y rasys 10K a’r rasys iau, a Lily Partridge, Shaun Antell a Ron Price oedd yn fuddugol yn y ras elitaidd.

Gwnaeth Lily Partridge gipio teitl y menywod yn hyderus gyda record cwrs newydd o 34:32. Hon oedd ail fuddugoliaeth yr haf i’r aelod o’r Birchfield Harriers, yn dilyn buddugoliaeth yn ras 10K Ogi Porthcawl fis diwethaf:

“Rwy’n hoffi dod i Gymru i rasio ac roedd yn wych cael buddugoliaeth arall. Roedd y cwrs yn anodd. Cefais fy rhybuddio ei fod yn fryniog, ond allwch chi byth bod yn siŵr. Roedd yn llwybr hyfryd. Dydw i ddim wedi bod i’r Barri o’r blaen ond mae’n lleoliad gwych ac yn braf bod wrth y môr. Roedd llwyth o bobl allan ac o gwmpas y cwrs felly roedd awyrgylch dda iawn.”

Enillydd 2022, Olivia Tsim sy’n hanu o Bontypridd oedd yn ail ar 37:18, gyda’r athletwr AC o Lanfair-ym-Muallt a’r Cyffiniau, Donna Morris ychydig ar ei hôl hi ar 37:42.

Yn ras y dynion Shaun Antell, a ddaeth yn ail yn 10K Ogi Porthcawl yn ddiweddar, oedd yn fuddugol. Croesodd yr athletwr o Bideford AC y llinell ar 30:46, cyn Dan Hamilton sy’n hanu o Bontypridd (30:52) ac enillydd 2022 ras 10K ABP Ynys y Barri 2022, Adam Bowden (31:03).

“Rwy’n gweithio fel postmon ac roeddwn i allan yn y glaw ddoe, felly roedd croeso i’r heulwen – ond roedd y gwynt heddiw yn anodd. Doeddwn i byth yn teimlo fel ei fod y tu ôl i mi, felly roeddwn i’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i rythm. Roedd gennym ni grŵp da ar y dechrau, aeth Dan Hamilton amdani, felly roedd yn rhaid i mi geisio aros gydag ef. Roedd e’n gweithio’n galed ac yn gosod y cyflymder, ond llwyddais yn y pen draw i gael bwlch ac roedd hwnnw’n ddigon i ennill.

“Mae’r dorf wir yn fy annog i. Rwyf i bob amser wedi bod eisiau rhedeg ras 10K ABP Ynys y Barri, felly roedd yn wych dod i rasio o’r diwedd. Byddaf i ‘nôl yng Nghymru ar gyfer ras CDF 10K fis Medi”.

Ron Price, sy’n cymryd rhan yn rheolaidd yn rasys Run 4 Wales, aeth â’r teitl cadair olwyn mewn amser o 47:24.

Cafodd y digwyddiad ei gefnogi unwaith eto gan y prif noddwr Associated British Ports (ABP) gyda hosbis plant Tŷ Hafan yn brif elusen. Roedd llawer o’r rhedwyr 10K, gan gynnwys Ross McCabe, a gollodd ei frawd iau Finn i diwmor ar yr ymennydd yn 2018, yn codi arian i gefnogi’u gwaith i roi gofal a chysur i blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd ledled Cymru.

Roedd ABP yn falch iawn o roi rhodd i rieni Finn, Jo a Lee McCabe, a ddechreuodd y ras yn swyddogol ac a wnaeth hefyd ddal y tâp ar y diwedd, fel arwydd o’u cefnogaeth barhaus i Dŷ Hafan. Bydd y cwpl o’r Barri, sydd i’w gweld yn y llun isod gyda Jenna Lewis, eu mab Ross McCabe, a Helen Thomas o ABP, yn mwynhau noson yng Ngwesty’r St Brides Spa yn Sir Benfro trwy garedigrwydd ABP i ddiolch am eu holl gefnogaeth a’u cymorth i godi proffil yr elusen yn y cyfnod cyn penwythnos y ras.

Dywedodd Helen Thomas, Pennaeth Eiddo ar gyfer Phorthladdoedd Môr Cymru a Byrion ABP: “Mae ABP yn falch iawn o fod yn gysylltiedig â digwyddiad mor gadarnhaol i Ynys y Barri, sy’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi gwaith anhygoel hosbis plant Tŷ Hafan. Roedd y niferoedd a ddaeth eleni yn wych, llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran, a diolch yn fawr iawn i bawb a wirfoddolodd eu hamser i helpu i wneud iddo ddigwydd.”

Dywedodd Jenna Lewis, Cyfarwyddwr Cynhyrchu Incwm Tŷ Hafan: “Mae ras 10K ABP Ynys y Barri eleni wedi bod yn llwyddiant ysgubol i Hosbis Plant Tŷ Hafan a hoffwn i ddiolch i bawb yn Y Barri a thu hwnt sydd wedi cefnogi’r digwyddiad hwn ym mhob ffordd.

“Mae’n rhaid sôn yn arbennig am Jo a Lee McCabe sydd wedi rhannu mor ddewr sut mae Tŷ Hafan wedi bod yno i’r teulu cyfan ers i’w mab ieuengaf, Finn, gael diagnosis o diwmor ar yr ymennydd nad oedd modd ei drin yn 2017, a bu farw yn ein hosbis yn Sili lai na 12 mis yn ddiweddarach.

“Diolch yn fawr hefyd i frawd mawr Finn, Ross McCabe, a gefnogodd Jo a Lee nid yn unig wrth wneud y fideo hyrwyddo ar gyfer y digwyddiad hwn, ond sydd hefyd newydd orffen y ras i Tŷ Hafan am y trydydd tro. Mae dros 100 o bobl wedi rhedeg dros Tŷ Hafan yn y digwyddiad eleni. Hoffem ni ddweud diolch yn fawr iawn a da iawn i chi gyd.

“Yn olaf, hoffwn i ddweud diolch yn fawr iawn i’n cydweithwyr yn Run4Wales sydd wedi’n cefnogi ni yn ystod ein pum mlynedd fel prif bartner elusennol ar gyfer y digwyddiad hwn ac i noddwyr Associated British Ports.”

Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan Run 4 Wales (R4W), y tîm y tu ôl i Hanner Marathon Principality Caerdydd. Hwn oedd y pedwerydd o bum digwyddiad 10K a gafodd ei drefnu gan R4W yn 2023, gyda ras CDF 10K ar y calendr nesaf ac yn dychwelyd i brifddinas Cymru ddydd Sul 3 Medi.

Roedd Prif Weithredwr R4W, Matt Newman, wrth ei fodd gyda llwyddiant y ras:

“Gan fy mod i wedi fy ngeni a fy magu yn y Barri, mae hi bob amser yn arbennig gweld miloedd o redwyr yn dod i’r dref ar gyfer ras 10K ABP Ynys y Barri. Mae’r gefnogaeth heddiw wedi bod yn hollol wych felly mae hi wedi bod yn benwythnos pleserus iawn. Diolch i ABP am eu cefnogaeth barhaus fel Noddwr y Teitl, yn ogystal â’r holl bartneriaid a rhanddeiliaid eraill sy’n helpu i ddod â’r digwyddiad yn fyw gan gynnwys Tŷ Hafan, Brecon Carreg, HIGH5, Ford Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Bro Morgannwg”.

 

ABP Barry Island 10K group shot