Mae rasys hwyl elusennol gyda gwahaniaeth yn dod i dde Cymru ym mis Hydref. Bydd cyfres o Rasys Tywyll elusennol bwganllyd yn cael eu trefnu gan Hosbis Plant Tŷ Hafan, sy’n rhoi gofal a chymorth arbenigol i blant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd.

Mae’r digwyddiadau cael eu noddi gan Gymdeithas Adeiladu Principality a ddewisodd Tŷ Hafan i fod yn un o’u partneriaid elusennol ochr yn ochr â Hosbis Plant Tŷ Gobaith sy’n gweithredu yn y gogledd. Mae Principality wedi addo rhoi arian cyfatebol i’r elusen ar gyfer yr holl ddigwyddiadau hyd at gyfanswm o £50,000.

Bydd y rasys yn cael eu cynnal yn hwyr yn y prynhawn mewn 4 gwahanol leoliad, gan ddechrau yn Ynys y Barri ar 13 Hydref, Bae Abertawe ar 14 Hydref, Castell Cil-y-coed ar 21 Hydref a’r digwyddiad olaf yn cael ei gynnal yng Nghastell Cyfarthfa ar 28 Hydref.

Bydd y rasys cwbl hygyrch yn amrywio rhwng 2.5km a 3.5km, sy’n golygu y gall pawb gymryd rhan, ac wrth gwrs, rydyn ni’n annog gwisgoedd ffansi. Gallwch archebu lle nawr am £10 i oedolion a £5 i blant.

Dywedodd James Davies-Hale, Pennaeth Codi Arian Tŷ Hafan: “Rydyn ni mor gyffrous i lansio ein digwyddiadau codi arian Rasys Tywyll newydd dros yr hydref. Mae’r rasys hwyl hyn wedi’u cynllunio i’r teulu cyfan wisgo gwisg ffansi, dod at ei gilydd a chael noson wych mewn lleoliadau anhygoel o amgylch de Cymru. A thrwy gydol yr amser byddwch chi’n helpu i godi arian hanfodol i gefnogi gwaith Tŷ Hafan gyda phlant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd sy’n byw yn ardaloedd pob Ras Dywyll, a thu hwnt.

“Mae addewid y Principality i roi arian cyfatebol at yr hyn y byddwn ni’n ei godi hyd at £50,000 ar gyfer y pedair ras hyn yn wych, rydyn ni’n ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth barhaus. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn gymhelliant enfawr i’n cefnogwyr – hirsefydlog a newydd – i wisgo gwisgo ffansi, a chodi cymaint o arian ag y gallan nhw i ni oherwydd, diolch i’n ffrindiau yn Principality, bydd beth bynnag sy’n cael ei godi ganddyn nhw’n cael ei ddyblu. Pwy na fyddai wrth eu bodd â hynny?”

Dywedodd Tony Smith, Prif Swyddog Llywodraethu Cymdeithas Adeiladu Principality: “Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi tîm Tŷ Hafan wrth iddyn nhw greu’r digwyddiadau cyffrous hyn. Rydyn ni’n gwybod bod yr awyrgylch yn mynd i fod yn anhygoel, ac fel arfer bydd teimlad teuluol gwych i’r dathliadau. Mae’r cyd-destun ariannol presennol yn golygu bod rhoddion yn bwysicach nag erioed i gynnal y gwasanaethau hanfodol y mae Tŷ Hafan yn eu darparu ar gyfer y plant a’r teuluoedd y maen nhw’n eu cefnogi, ac rydyn yn falch o roi arian cyfatebol ar gyfer pob rhodd yn y digwyddiadau hyn ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gymryd rhan.”

I gofrestru ewch i: www.tyhafan.org/darkrun/