Efallai y bydd hi’n amser mynd ‘nôl i’r ysgol yn fuan, ond dydy hynny ddim yn golygu bod hwyl yr haf drosodd. Ar ôl ei ohirio o’i ddyddiad gwreiddiol ym mis Gorffennaf oherwydd gwyntoedd cryf a glaw mawr annhymhorol, bydd Diwrnod Hwyl i’r Teulu blynyddol Tŷ Hafan nawr yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 9 Medi ac mae’n addo bod yn ddiwrnod gwych.

Bydd gweithgareddau’n cael eu cynnal rhwng 12 canol dydd a 5pm ar diroedd hyfryd hosbis Tŷ Hafan ar Heol Hayes, CF64 5XX a’r diwrnod yn cael ei noddi yn garedig gan Cabot.

Mae mynediad yn £2 y pen, a phlant dan ddwy oed am ddim, sy’n golygu bod Diwrnod Hwyl i’r Teulu Tŷ Hafan yn ddiwrnod allan fforddiadwy iawn.

Bydd yr atyniadau yn cynnwys:
• Hen geir a ‘supercars’
• Cerddoriaeth fyw
• Mochyn rhost, pysgod a sglodion, paninis a mwy o werthwyr bwyd
• Stondinau crefftau, gemwaith, dillad a stondinau cacennau
• Gemau a gweithgareddau am ddim
• Cystadleuaeth campfa fach

Yn ogystal â hyn, mae disgwyl i deithiau o amgylch adeilad hosbis Tŷ Hafan fod ar gael ar y diwrnod, yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

Bydd ymwelwyr sy’n cael y cyfle i gael taith o amgylch yr hosbis yn cael cyfle i weld ble mae’r arian sy’n cael ei godi dros yr elusen yn mynd: yn syth i’r gwasanaethau hanfodol y mae Tŷ Hafan yn eu darparu ar gyfer plant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd.

Gallwch chi archebu eich tocynnau Diwrnod Hwyl i’r Teulu Tŷ Hafan Yma Nawr..

Neu ffoniwch Dîm Gofal Cefnogwyr Tŷ Hafan ar 02920 532 255 neu anfonwch e-bost at supportercare@tyhafan.org

Gall y bobl a archebodd docynnau ar gyfer y dyddiad gwreiddiol ar 15 Gorffennaf ddefnyddio’r rheiny i gael mynediad heb unrhyw dâl ychwanegol.

Dywedodd James Davies-Hale, Pennaeth Codi Arian: “Mae’n costio £5.2 miliwn y flwyddyn i Tŷ Hafan ddarparu gofal a chymorth hanfodol i blant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd yn ein hosbis ac mewn cartrefi a chymunedau ledled Cymru, ac mae llai nag 20% yn dod o ffynonellau statudol. Hynny yw, heb garedigrwydd anhygoel, menter a haelioni’r cyhoedd yng Nghymru, ni fydden ni’n gallu gwneud yr hyn yr ydyn ni’n ei wneud.

“Felly beth bynnag arall mae pobl wedi cynllunio ar gyfer dechrau mis Medi, byddwn yn annog cymaint ohonyn nhw â phosibl i ddod i Tŷ Hafan ddydd Sadwrn Medi 9fed ar gyfer yr hyn sy’n addo bod yn ddiwrnod allan gwych a thrwy gydol yr amser byddwch chi’n helpu rhai o’r plant mwyaf agored i niwed yng Nghymru yn y broses.”