Yn galw ar bawb sy’n dwlu ar fwyd! Ddydd Sadwrn a dydd Sul (2 a 3 Medi) bydd gŵyl fwyd The Great British Food Festival yn dychwelyd i Barc Margam ac eleni bydd y rhai sy’n mynd i’r ŵyl yn dathlu’r gorau o fwyd a diod – a byddant hefyd yn gallu cefnogi Hosbis Plant Tŷ Hafan.

Dywedodd Emily Hancock, Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata The Great British Food Festival: “Eleni rydyn ni hefyd yn falch o gefnogi hosbis plant Tŷ Hafan a’r gwaith gwych y maen nhw’n ei wneud wrth ofalu am deuluoedd plant â chyflyrau sy’n byrhau eu bywydau yn ne Cymru.”

Dywedodd Shelley Kirkham, Uwch Swyddog Codi Arian Tŷ Hafan: “Rydyn ni’n falch iawn ac yn ddiolchgar iawn o gael The Great British Food Festival yn cefnogi Hosbis Plant Tŷ Hafan eleni.

“Mae’n costio mwy na £5.2m i ni bob blwyddyn i ddarparu gofal a chymorth hanfodol i blant sydd â chyflyrau sy’n byrhau eu bywydau a’u teuluoedd yng Nghymru ac mae’r costau hyn ond yn codi oherwydd yr argyfwng costau byw parhaus. Rydyn ni’n gobeithio y bydd pawb yn cael amser gwych yn The Great British Food Festival dros y penwythnos ac rydyn ni’n diolch i bawb am eu cefnogaeth sy’n newid bywydau.”

Mae The Great British Food Festival yn arddangos amrywiaeth eang o ddanteithion rhyngwladol, pob un yn cynrychioli blasau unigryw gwahanol rannau o’r byd, yn dathlu amrywiaeth gyfoethog y bwyd ac yn rhoi sylw i ddoniau cogyddion angerddol a chrefftwyr bwyd.

Bydd yr atyniadau’n cynnwys sesiynau arddangos coginio byw a sgyrsiau bwyd gyda chogyddion enwog ac mae’r ŵyl yn cynnig rhywbeth i’r teulu cyfan. Mae’r gweithgareddau i blant yn cynnwys paentio wynebau, reidiau ffair a dosbarthiadau coginio ar gyfer darpar gogyddion bach, ac mae digon o gyfleoedd i siopa ar gyfer oedolion ym marchnad fwyd a chrefft artisan yr ŵyl.

Bydd The Great British Food Festival yn cael ei chynnal o 10am tan 5pm ar y ddau ddiwrnod ac mae modd prynu tocynnau yma: https://greatbritishfoodfestival.com/margam-park/