Mae grŵp o dadau Tŷ Hafan a ffrindiau gwrywaidd wedi cyhoeddi eu her codi arian ddiweddaraf i’r hosbis – beicio, heicio a rhwyfo hyd Cymru mewn dim ond pedwar diwrnod. 

Her#BikeBoatBoot yw’r drydedd her eithafol y mae’r grŵp wedi ymgymryd â hi dan arweiniad Paul Fears, un o dadau’r hosbis sydd wedi wynebu profedigaeth.

Yn 2018, aeth y tîm i’r afael â her 5in55, gan gerdded pob un o bum copa cenedlaethol a 3-copa Cymru mewn dim ond 52 awr, gan godi mwy na £40,000 yn y broses. I gydnabod y cyflawniad, cafodd aelodau’r tîm eu coroni’n godwyr arian Just Giving y flwyddyn.

Yn 2022, mewn her wedi’i hoedi oherwydd y pandemig, gwnaeth y tîm ymgymryd â Her 10nTaff, gan ddringo’r pum mynydd uchaf yng ngogledd Cymru, yna’r pum mynydd uchaf yn ne Cymru, cyn beicio, oddi ar y ffordd, o Aberhonddu i Gaerdydd. Cafodd yr her 10nTaf ei chwblhau mewn ychydig dros 55 awr, gan godi mwy na £42,000.

Wrth ddilyn llwybr arfaethedig y grŵp o’r gogledd i’r de bydd y tîm yn ymgymryd â llwybrau beicio oddi ar y ffordd, llwybrau heicio mynydd, a cheufadu ar hyd Llyn Tegid. Amcangyfrifir bod y pellter dros 200 milltir, a bydd y tîm yn dringo bron i 18,000 troedfedd.

“Mae ein her 2024 yn driathlon Cymru eithafol ac unigryw iawn,” meddai Paul, ac mae’n anoddach ac yn hirach nag unrhyw her flaenorol yr ydyn ni wedi ymgymryd â hi.”

Mae staff yr hosbis a noddwyr allweddol yn ymuno â thadau ac aelodau eraill o deuluoedd plant sy’n cael eu cefnogi gan Tŷ Hafan ar yr her eithafol hon. Ar hyn o bryd, mae 13 aelod o’r tîm: Anthony Boggis, Chris Thomas, Dan Forbes, Gareth Jenkins, Georgie Fear, James Meacham, Jason Foster, Laurence Morgan, Lee Morgan, Lloyd Davies, Matthew Evans, Patrick Lord a Paul Fears.
Dywedodd Paul, “Mae llawer o’r tadau sy’n cymryd rhan wedi colli plant, ac mae teuluoedd eraill yn dal i dderbyn gofal a chymorth gan Tŷ Hafan. Mae ymgymryd â’r her yn ymwneud cymaint â heriau iechyd meddwl dynion ag y mae’n ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o’r hosbis ac arian ar ei chyfer.

Mae llawer o sôn yn y cyfryngau nad yw dynion yn siarad, ac mae’r her BikeBoatBoot yn rhoi cyfle i grŵp o dadau ac ewythrod fod gyda’i gilydd a chefnogi ei gilydd yn ystod yr wythnosau lawer o hyfforddiant sy’n arwain at yr her a’r digwyddiad ei hun.

“Pan gollais i fy mab ym mis Chwefror 2023 aeth fy myd i gyd ar chwâl, yn llythrennol. Doeddwn i ddim yn gallu teimlo dim byd ac yn dal i fod felly.

“Fel teulu rydyn ni wedi cael cefnogaeth anhygoel gan Tŷ Hafan, ond fel tad dw i wedi cael cefnogaeth anhygoel gan dadau eraill. Gallaf siarad â nhw am bethau nad oes neb eisiau eu trafod. Mae’r gefnogaeth honno wedi bod, ac yn dal i fod, yn werthfawr. Dydw i ddim yn siŵr beth fyddwn i wedi’i wneud hebddo.

“Mae Convey Law, The Conveyancing Foundation, Bunting a The Events Room eisoes wedi cytuno’n garedig i gefnogi’n her,” ychwanega Paul, “ac mae amrywiaeth o gyfleoedd nawdd eraill ar gael o hyd ar gyfer logos ar yr holl ddillad hyfforddi a digwyddiad. Rwy’n gofyn i bobl gysylltu â mi drwy ein gwefan https://5in55.co.uk/ i drafod cyfleoedd.”