Mae’n Wythnos Gofal Hosbis pan fyddwn yn cydnabod ac yn dathlu gwaith hosbisau ledled Cymru, a’r DU. 

Un o ddim ond dwy hosbis i blant yng Nghymru yw Hosbis Plant Tŷ Hafan, y llall yw Tŷ Gobaith yn y gogledd. Mae gwasanaethau y ddwy hosbis ar gael ledled Cymru yn rhad ac am ddim i unrhyw deulu mewn angen.

Dyma rai ffeithiau allweddol am hosbis Tŷ Hafan a’n gwaith:

  • Ar hyn o bryd, rydym yn cefnogi 352 o blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd
  • Ers i ni agor ein drysau am y tro cyntaf yn 1999, rydym wedi cefnogi 1,051 o blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd yng Nghymru
  • Ystyr ‘byrhau bywyd’ yw nad oes disgwyl i’r plentyn neu’r person ifanc fyw y tu hwnt i 18 mlwydd oed.
  • Oed cyfartalog y plant a atgyfeiriwyd atom yn ystod y 12 mis diwethaf yw dim ond un mlwydd oed.
  • Rydym yn darparu gofal lliniarol arbenigol i gefnogi anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol ac ysbrydol pob aelod o’r teulu. O gael diagnosis i brofedigaeth, rydym yno ar gyfer y teulu cyfan cyhyd a’u bod ein hangen ni.
  • Mae’r rhan fwyaf o’n gwaith yn ymwneud ag “ansawdd bywyd” yn hytrach na “diwedd bywyd”. Ein nod yw “gwneud bywyd byr yn fywyd llawn”.
  • Rydym yn cynnig gofal diwedd oes i deuluoedd, a chefnogaeth i’r teuluoedd, therapi cyflenwol, therapi cerddoriaeth a chyfleoedd chwarae allgymorth yn yr hosbis ac yng nghartref y teulu.
  • Gellir atgyfeirio plentyn a’i deulu atom ar adeg y diagnosis a gallwn roi gofal a chefnogaeth trwy gydol cyflwr y plentyn, sy’n gallu para am flynyddoedd.
  • Mae gan y plant a’r bobl ifanc sy’n defnyddio ein gwasanaethau ystod eang o gyflyrau, llawer ohonynt ag anghenion meddygol dwys a chymhleth. Mae rhai o’r cyflyrau mor brin nid oes ganddynt enw hyd yn oed.
  • Mae’n costio tua £5.6 miliwn bob blwyddyn (tua £15,275 y dydd) i ddarparu ein gwasanaethau gofal i blant a phobl ifanc â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd, yn ein hosbis yn Sili, yn ymyl Caerdydd, ac mewn cartrefi a lleoliadau cymunedol ledled Cymru.
  • Rhoddion hael gan y cyhoedd yng Nghymru a thu hwnt sy’n talu am 88% o’n costau gofalu, drwy amrywiaeth o weithgareddau codi arian – gan gynnwys digwyddiadau cymunedol a chorfforaethol, rhoddion mewn ewyllys a’n gweithgareddau masnachol gan gynnwys ein loteri a’n siopau. Mae gweddill yr arian ar gyfer ein costau gofalu yn dod o ffynonellau stadudol yng Nghymru.

I wybod mwy am Tŷ Hafan a sut y gallwch gefnogi ein gwaith yn ystod #WythnosGofalHosbis a thu hwnt cliciwch yma i ddarllen y rhifyn diweddaraf o’n cylchgrawn Cwtsh.