Mae ail gais cynllunio ar gyfer man storio wedi’i gyflwyno yn ddiweddar i Gyngor Bro Morgannwg gan berchennog y darn o dir sydd yn union rhwng Tŷ Hafan a Choleg Beechwood. 

Mae’r cais hwn ar gyfer ardal 0.98 hectar mewn maint i ddarparu man storio ar gyfer nifer o garafanau a chartrefi modur. Cliciwch yma i weld y cais cynllunio hwn yn llawn.

Cliciwch yma os hoffech nodi sylw neu wrthwynebiad i’r cais hwn.

Ddydd Llun 25 Medi aeth aelodau o grŵp ymgyrchu annibynnol ‘Diogelu Heddwch Tŷ Hafan’, a sefydlwyd ac a arweinir gan grŵp o rieni ac aelodau o deuluoedd sydd wedi cael profedigaeth, i gwrdd ag Arweinydd Cyngor y Fro, Lis Burnett, cyn cyfarfod llawn y cyngor y prynhawn hwnnw i gyflwyo’r ddeiseb ‘Dweud Na!!! i Sefydlu Parc Gwyliau wrth ymyl Tŷ Hafan a Choleg Beechwood’.

Sefydlwyd y ddeiseb hon, sydd bellach â 14,000 o lofnodion, gan Karen Maidment, y bu farw ei hŵyr Jayden, yn 10 mis oed. Gofalwyd am Jayden gan Tŷ Hafan ac mae Karen a’i theulu yn parhau i gael eu cefnogi gan yr hosbis i blant.

Bydd cyfarfod nesaf Pwyllgor Cynllunio Bro Morgannwg yn cael ei gynnal ddydd Iau 26 Hydref am 4pm. Cliciwch yma am ragor o fanylion am y cyfarfod hwn.

The proximity of Ty Hafan, Mr Danter's land and Beechwood College