Mae’n 10am ddydd Sul 26 Tachwedd ac mae apêl codi arian ‘Pan Fydd Eich Byd yn Dod i Stop’ Tŷ Hafan nawr yn fyw.

Bydd pob ceiniog a roddir rhwng nawr a 10pm ddydd Mawrth 28 Tachwedd yn cael ei dyblu mewn gwerthdiolch i arian cyfatebol.

Hefyd, bydd yr holl werthiant a rhoddion ariannol a roddir yn unrhyw un o’n 18 o siopau Tŷ Hafan rhwng dydd Sadwrn 25 Tachwedd a dydd Mawrth 28 Tachwedd yn cael eu dyblu fel rhan o’n hapêl ‘Pan Fydd Eich Byd yn Dod i Stop’.  

Ein targed yw codi £350,000 er mwyn gallu parhau i ddarparu gofal a chymorth hanfodol i deuluoedd fel y teulu Morris o Rydaman.

Felly, os ydych chi’n bwriadu clirio eich cypyrddau cyn y Nadolig beth am alw heibio i’ch siop Tŷ Hafan agosaf, rhoi eich eitemau diangen a chasglu bargeinion ar gyfer y Nadolig ar yr un pryd.

Gallwch gyfrannu yma hefyd
https://www.charityextra.com/whenyourworldstops 

Neu ffoniwch ein Tîm Gofal Cefnogwyr ar 02920 532 255 neu anfonwch e-bost atynt ar supportercare@tyhafan.org 

Meddai John Lowes, Pennaeth Codi Arian Tŷ Hafan: “Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth! Ein nod yw codi £350,000 mewn dim ond 60 awr a bydd pob un sy’n cyfrannu i’r apêl neu sy’n ei chefnogi mewn unrhyw ffordd posibl yn gwneud gwahaniaeth enfawr.”