Mae cefnogwyr hael Tŷ Hafan ledled Cymru a thu hwnt wedi helpu’r elusen hosbis i blant i godi dros £500,000 mewn dim ond 60 awr!

Targed gwreiddiol apêl Tŷ Hafan “Pan Ddaw Eich Byd i Stop. Ry’n Ni Yno!” oedd codi £350,000. Fodd bynnag, cyflawnwyd hynny erbyn 3.15pm brynhawn Mawrth ac wrth i roddion barhau i gyrraedd yn ystod y saith awr olaf, y cyfanswm terfynol a godwyd am 10pm ar 28 Tachwedd oedd £523,847.

Dywedodd Sara Morris, mam yr efeilliaid Alfi a Besi, a oedd wrth wraidd yr apêl hon: “Wyth mlynedd yn ôl gwnaethom ni addewid i fachgen arbennig iawn y byddai pob penderfyniad y byddem ni’n ei wneud mewn bywyd yn ei wneud yn falch.

“Pan gysylltodd Tŷ Hafan â ni ychydig fisoedd yn ôl a gofyn i ni fod yn deulu Tŷ Hafan eleni, doedd e’ ddim yn benderfyniad hawdd i’w wneud. I lawer mae wedi bod yn wyth mlynedd hir ers i Alfi farw ond i ni mae’n teimlo fel ddoe. Er ein bod wedi dod yn bell fydd y creithiau a’r boen byth yn diflannu i’n teulu ni. Mae colli plentyn yn boen sy’n annisgrifiadwy.

“Gwnaethom ymgymryd â’r her hon oherwydd bod Tŷ Hafan yn achubiaeth i ni ac roeddem am roi rhywbeth yn ôl i geisio cefnogi cymaint o deuluoedd sydd yn yr un sefyllfa â ni.”

Gwnaeth Sara, ei gŵr, Jason a Besi eu merch 10 oed o Rydaman, serennu yn fideo apêl Tŷ Hafan, gan adrodd hanes sut y cefnogodd Tŷ Hafan nhw pan gafodd Alfi ddiagnosis o Syndrom Marfan Newyddenedigol, hyd at ei farwolaeth ar Fawrth y Cyntaf, 2015, yn ddim ond 22 mis oed, cefnogaeth sy’n parhau hyd heddiw.

“Mae’r cwpwl o wythnosau diwethaf wedi bod yn her,” meddai Sara. “Rydyn ni wedi chwerthin ochr yn ochr â llawer o ddagrau. Rydyn ni wedi tynnu ein hunain allan o’n sefyllfa gysurus yn llwyr ac wedi gwthio ein hunain trwy lawer o heriau.

“Mae Besi-Jane wedi bod yn chwaer falch iawn ac rydym yn rhyfeddu at ei chryfder a’i chyflawniadau.

“Mae’r canlyniad wedi bod yn syfrdanol. Mae dweud ein bod ni wedi cyrraedd dros hanner miliwn i Tŷ Hafan yn hollol anhygoel!

Ac mae hyn i gyd oherwydd ein teulu, ffrindiau, cymuned, busnesau ac ysgolion anhygoel ledled Cymru. Byddwn ni’n ddiolchgar am byth ac rwy’n siŵr mai seren Alfi yw’r un fwyaf disglair yn yr awyr ar ôl neithiwr.”

Dywedodd John Lowes, Pennaeth Codi Arian Tŷ Hafan: “Rydyn ni wedi ein syfrdanu gan y gefnogaeth yr ydym wedi’i chael ledled Cymru a thu hwnt. Pobl yn cyfrannu, yn rhannu, yn ein helpu i godi ymwybyddiaeth o’n hapêl, mae’r cyfan wedi bod yn wych.

“Rydyn ni’n ddiolchgar tu hwnt i bawb. Rydyn ni’n gwybod bod hwn yn dal i fod yn gyfnod anodd iawn i lawer o bobl ar hyn o bryd ond mae cyhoedd Cymru wedi bod yno i ni eto.

“Mae hefyd wedi bod yn fraint enfawr i ni gydweithio mor agos gyda’r teulu Morris anhygoel o Rydaman a rannodd eu stori mor ddewr â ni. Mae Sara, Jason a Besi a’n tîm cyfan wedi gweithio’n galed iawn i wneud cyfiawnder ag Alfi fel bod ei etifeddiaeth yn parhau.

“Ac i unrhyw un sydd wedi colli’r apêl gyda’r arian cyfatebol, ond a hoffai roi, peidiwch â phoeni. Bydd eich rhodd yn dal i gael effaith enfawr. Bydd unrhyw rodd i Tŷ Hafan ar unrhyw adeg o hyn ymlaen yn helpu plant sy’n ddifrifol wael yng Nghymru.”

Cefnogwyd yr apêl gan Lysgenhadon Tŷ Hafan, Leigh Halfpenny a Michael Sheen, a rhannodd y ddau stori’r teulu ar eu ffrydiau cyfryngau cymdeithasol. Ymhlith cefnogwyr enwog eraill Tŷ Hafan a rannodd yr ymgyrch hon hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’u dilynwyr mae’r dyfarnwr rygbi a’r ffermwr Nigel Owens, y cogydd Stephen Terry, yr actorion Matthew Rhys a Huw Davies, mewnwr y Dreigiau, Rhodri Williams, a chyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru a’r Gweilch, Shane Williams.

Ar hyn o bryd mae Tŷ Hafan yn darparu gofal a chymorth hanfodol i 352 o blant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd yn ei hosbis yn Sili ac mewn cartrefi a chymunedau ledled de, canolbarth a gorllewin Cymru.

Mae’n costio £5.6 miliwn y flwyddyn i Tŷ Hafan ddarparu ei lefelau presennol o ofal a chymorth, a dangosodd adroddiad a gyhoeddwyd yn gynharach eleni fod y galw yn saethu i fyny am ofal lliniarol plant yng Nghymru gydag 1 o bob 172 o blant a anwyd yn y wlad angen y gwasanaethau a ddarperir gan Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith ar ryw adeg yn eu bywydau.

I gyfrannu ewch i: www.tyhafan.org/whenyourworldstops