Mae Cymdeithas Adeiladu Principality wedi cyhoeddi ei bod wedi adnewyddu ei phartneriaeth elusennol gyda Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith, Hosbisau Plant Cymru, am flwyddyn arall.
Cyhoeddwyd am y tro cyntaf mai’r ddwy elusen sy’n darparu gofal lliniarol a diwedd oes rhagorol i blant, a chefnogaeth i’w teuluoedd, fyddai partneriaid elusennol Principality yn 2022. Ers hynny, mae’r gymdeithas adeiladu, ei staff a’i haelodau, wedi rhoi dros £250,000 i’r ddwy elusen, drwy weithgareddau codi arian amrywiol.
I nodi ymestyn y bartneriaeth mae Principality wedi rhoi rhodd o £10,000 i bob elusen, a fydd yn eu galluogi i ddarparu cymorth ychwanegol i deuluoedd sy’n cael eu cefnogi gan yr hosbisau ar hyn o bryd ac sy’n cael trafferth yn sgil yr argyfwng costau byw, yn enwedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn.
Dywedodd Tony Smith, Prif Swyddog Effaith a Llywodraethu Cymdeithas Adeiladu Principality: “Rydym yn falch iawn o barhau â’n partneriaeth elusennol gyda Hosbisau Plant Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith sy’n gwneud gwaith anhygoel wrth ofalu am blant a’u teuluoedd ar yr adegau anoddaf. Gwyddom fod hon wedi bod yn flwyddyn arbennig o heriol i’r elusennau yn ariannol, wrth iddyn nhw barhau i ddarparu eu gwasanaethau mewn amgylchiadau cynyddol heriol o ran costau. Rydym yn falch o ymestyn ein cefnogaeth ac yn gobeithio y bydd ein rhodd ddiweddaraf yn helpu i greu atgofion gwerthfawr i’r teuluoedd y maen nhw’n eu cefnogi y Nadolig hwn.”
Dywedodd Maria Timon Samra, Prif Weithredwr Tŷ Hafan, “Rydym yn hynod falch bod Cymdeithas Adeiladu Principality wedi penderfynu ymestyn ei phartneriaeth elusennol gyda Tŷ Hafan, a’n chwaer elusen Tŷ Gobaith am flwyddyn arall, gan roi’r cyfle i ni barhau i godi arian y mae mawr ei angen.
“Daw’r newyddion hyn wrth i ni ddechrau ar ein 25ain flwyddyn a bydd yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth i fod yno ar gyfer pob plentyn a theulu sydd angen ein cefnogaeth pan fyddan nhw’n wynebu’r annirnadwy.
“Rydym yn hynod ddiolchgar am ymdrechion gwych cydweithwyr, aelodau a chwsmeriaid Principality ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gyflawni mwy gyda’n gilydd dros y flwyddyn nesaf, ac at greu etifeddiaeth barhaol o’r bartneriaeth Cymru Gyfan falch hon.”
Yn y llun isod, James Harper, Rheolwr Effaith Gymdeithasol gyda Chymdeithas Adeiladu Principality, Dylan y Ddraig, a Maria Timon Samra, Prif Weithredwr Hosbis Plant Tŷ Hafan.