Cefais i fy ngeni gyda nifer o broblemau meddygol, gan gynnwys clefyd cronig yr arennau ac anghysondeb cymhleth y cloaca, ond cefais i gyfle i fyw.

Gwnaeth y meddygon a’r staff gwych yn Ysbyty Great Ormond Street ac Ysbyty Athrofaol Cymru ofalu amdanaf i am flwyddyn nes i ofalwyr maeth fynd â fi adref.

Gorfod i fy ngofalwyr fy wynebu i’n cael llwyth o driniaeth feddygol, yn enwedig pan gefais i drawsblaniad aren yn bedair oed.

Ar ôl 12 diwrnod dychrynllyd yn yr uned dibyniaeth fawr, deffrodd fy aren newydd! Roedd hwn yn ddechrau newydd yn fy mywyd i, ond roedd llawer mwy o lawdriniaeth ac adegau brawychus i ddod.

Roeddwn i’n fwy abl ar ôl y llawdriniaeth trawsblannu, felly cefais i ganiatâd i deithio. Rydw i wedi bod i Awstralia, Gwlad Thai, Sbaen a Phortiwgal. Awstralia yw fy hoff le. Y flwyddyn nesaf, rydw i’n mynd i Disney World yn Florida, ac rwy’n edrych ymlaen at yr antur.

Rydw i ym mlwyddyn 7. Roedd dechrau ysgol newydd yn dipyn o her, ond rwyf i wedi ymgartrefu nawr ac rwy’n mwynhau’r gwahanol wersi. Hanes yw fy hoff wers yn yr ysgol. Fy hobïau yw chwarae Xbox, Fortnite a Roblox, ac rwy’n hoffi darlunio, ac rwy’n un da am wneud hynny.

Rydw i ar Fwrdd Ieuenctid Tŷ Hafan. Rydyn ni’n trafod materion sy’n ymwneud ag anabledd a materion cymdeithasol. Rydyn ni wedi bod yn Amgueddfa Caerdydd yn ddiweddar i edrych ar y materion sy’n effeithio ar bobl anabl yno, ac i dynnu sylw at newidiadau a fyddai o fudd i’r rhai ag anableddau.

Rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau yn Tŷ Hafan ac rwy’n edrych ymlaen at wneud llawer mwy. Bydd fy nhaith ar hyd llwybr bywyd yn codi heriau, ond gadewch i ni barhau’n bositif! Amdani!