Mae Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd yn rhan allweddol o’n Tîm Llesiant ac Allgymorth i Deuluoedd. Yn ogystal â gweithio yn yr hosbis, maen nhw’n gweithio mewn cymunedau lleol yng Nghymru i sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth arbenigol sydd ei angen arnyn nhw, lle bynnag y mae ei angen arnyn nhw.

Fe wnaethon ni siarad ag Amy, Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd yn Tŷ Hafan, i ddysgu mwy am ei rôl hanfodol.

“Mae Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd yn gweithio gyda theuluoedd i gefnogi eu llesiant emosiynol. Gallai hynny fod yn hirdymor, neu nes iddyn nhw ddechrau cael cwnsela,” mae Amy yn esbonio.

Rydyn ni’n gweithio unigol gyda theuluoedd ac mewn grwpiau, gan gynnal llawer o ddigwyddiadau yn yr hosbis ac mewn cymunedau lleol.

“Mae’r digwyddiadau yn amrywiol iawn. Gallan nhw ganolbwyntio’n benodol ar famau, tadau neu frodyr a chwiorydd, neu gallan nhw fod ar gyfer teuluoedd cyfan. Mae gan bob aelod o’r teulu anghenion cymorth gwahanol, felly rydyn ni’n gweithio’n galed i roi cymorth penodol i bawb.

Amy, Emma and Dan

“Mae fy nghydweithwyr Emily, Dan a Kelly-Jo a minnau yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod pawb sy’n manteisio ar wasanaethau Tŷ Hafan yn cael gwasanaeth cyfartal.

“Mae gwaith Emily a minnau yn y gymuned wedi’i rannu’n ddaearyddol fel y gallwn ni sicrhau bod pob ardal yn cael gwasanaeth cyfartal. Mae hyn yn bwysig iawn i’n teuluoedd mewn cymunedau gwledig. Mae digwyddiadau Tŷ Hafan yn cael eu hysgogi gan yr hyn y mae teuluoedd eisiau ei wneud.

Rydyn ni’n cynnal diwrnodau sba, boreau coffi a chyfleoedd i gwrdd am sgwrs mewn amrywiaeth o ardaloedd. Rydyn ni wedi sylwi bod rhai teuluoedd eisiau gwneud mwy o weithgareddau anturus, felly aeth criw o famau i daflu bwyelli’n ddiweddar ac roedd yn lot o hwyl!

Mae Amy’n egluro: “Rwyf i wrth fy modd yn cael grŵp mawr o bobl at ei gilydd. Mae’n helpu pobl i gysylltu. Yn y digwyddiadau hyn, gall teuluoedd ddarganfod eu bod yn byw ond ychydig i lawr y ffordd oddi wrth ei gilydd, neu fod eu plant yn mynd i’r un ysgol. Mae’r digwyddiadau hyn yn helpu teuluoedd i wneud eu cysylltiadau eu hunain a dod o hyd i system gymorth yn agos at ble maen nhw’n byw.

Mae amser unigol gyda theuluoedd yn hanfodol hefyd. Mae siarad â pherson rheolaidd a dibynadwy y maen nhw’n gwybod ei fod yn deall eu profiadau yn gallu bod o gymorth mawr i lesiant y teulu.

“Mae Kelly-Jo yn cynnig cefnogaeth i frodyr a chwiorydd yn bennaf, mae Dan yn cynnig cefnogaeth i dadau yn bennaf ac mae Emily yn cynnig cefnogaeth i famau a theuluoedd cyfan yn bennaf.”

Amy and Kelly-Jo

Mae ein Hybiau Cymunedol hefyd yn rhan fawr o’r hyn yr ydyn ni’n ei wneud. Maen nhw’n mynd â gwasanaethau Tŷ Hafan i gymunedau lleol yng Nghymru fel y gallwn ni gyrraedd cymaint o deuluoedd â phosibl.

“Mae llawer yn digwydd yn y Canolfannau Cymunedol! Rôl y Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd yw sicrhau bod teuluoedd yn gallu cysylltu ag eraill a gwneud ffrindiau yn eu cymunedau lleol. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy sicrhau bod y teulu cyfan yn cael cymaint o hwyl â phosibl, yn ogystal â bod yn glust i wrando.”

Mae ein Tîm Therapïau Cyflenwol yn mynd i Hybiau Cymunedol i roi triniaethau ymlaciol i deuluoedd, fel tylino, ac mae crefftau a chwarae therapiwtig yn nodweddion pwysig y digwyddiadau cymunedol misol hyn.”

“Mae cymorth profedigaeth a chreu atgofion yn rhan fawr o fy swydd i hefyd,” mae Amy’n ychwanegu. “Pan ddaw plentyn atom ni ar gyfer gofal diwedd oes, rwy’n helpu teuluoedd i greu atgofion gwerthfawr gyda’u plentyn drwy weithgareddau fel gwneud castiau llaw, creu canfasau artistig gyda phrintiau llaw ac arbed cudynnau o wallt.

“Mae fy nyddiau i wir yn amrywiol. Gallaf fod yn cynnal digwyddiad yn y bore ac, yr un diwrnod, efallai y bydd angen i mi helpu Ymarferydd Cymorth i Deuluoedd gyda chreu atgofion.

“Rwyf i wrth fy modd â phob agwedd ar fy ngwaith. Roeddwn i bob tro yn gwybod fy mod i eisiau helpu pobl a dechreuais i wirfoddoli gyda phlant ag anghenion cymhleth o oedran ifanc. Rwy’n ddiolchgar iawn i weithio rhywle sy’n teimlo fel fy lle i am byth.

“Gallwn ni gael diwrnodau anodd iawn yn Tŷ Hafan, ond mae yna gymaint mwy na thristwch.

Mae pethau anhygoel yn digwydd yn Tŷ Hafan. Nid dim ond lle ble mae plant yn dod i farw ydyw – mae’n lle i wneud yr atgofion prydferthaf fel teulu. Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu ni i wneud bywyd byr iawn yn fywyd hapus iawn.