Sbotolau ar… Jemma ein Nyrs Glinigol Gofal Newydd-anedig Arbenigol
Yn ein rhifyn diwethaf, gwnaethom egluro ein bod ni wedi gweld cynnydd mewn atgyfeiriadau o Unedau Gofal Dwys Newydd-anedig.
Gyda datblygiadau meddygol yn golygu bod babanod sy’n cael eu geni’n gynamserol iawn neu sydd â chyflyrau iechyd cymhleth yn byw’n hirach, ynghyd â’r ymwybyddiaeth gynyddol o’r dewisiadau pan ddaw babi i ddiwedd ei oes, roedd angen creu rôl newydd yn benodol ar gyfer cymorth gofal lliniarol i fabanod yn Tŷ Hafan.
Nawr, mae Jemma King wedi ymuno â thîm Tŷ Hafan yn rôl newydd Nyrs Glinigol Gofal Newydd-anedig Arbenigol.
Gall gweithio gyda babanod fod yn wahanol iawn i weithio gyda phlant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau, ac mae’r rôl newydd hon yn rhychwantu sawl maes. Mae Jemma yn cynnig cymorth cyn-geni i rieni sy’n darganfod bod dyfodol eu baban yn ansicr yn ystod beichiogrwydd ac mae hi’n gallu mynychu apwyntiadau gyda nhw i’w helpu nhw i ddeall problemau iechyd eu baban yn well.
Mae Jemma hefyd yn helpu gyda ‘chynllunio cyfochrog’, sy’n cefnogi teuluoedd i ystyried yr hyn maen nhw ei eisiau pe bai eu babi’n marw, ond hefyd cael cynllun yn ei le fel bod y teulu yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i fynd â’u babi adref os ydyn nhw’n goroesi.
Esboniodd Jemma:
“Mae Tŷ Hafan yn rhoi mwy o hyblygrwydd i deuluoedd sy’n wynebu gofal diwedd oes gyda’u babi. Er bod ysbytai yn cynnig gofal a chymorth clinigol gwych, mae’n dal i fod yn amgylchedd clinigol.
“Yn Nhŷ Hafan, mae llawer o ganolbwyntio ar amser o ansawdd a chreu atgofion. Mae rhai teuluoedd wedi mynd â’u babi allan i’r gerddi, sy’n edrych dros y môr, i farw yn eu breichiau mewn lleoliad heddychlon – nid yw’r math hwnnw o hyblygrwydd ar gael yn unman arall.”
Croeso i’r tîm, Jemma.
Dau brosiect ailddatblygu allweddol yn dechrau
Hefyd yn ein rhifyn diwethaf, gwnaethon ni ddweud wrthych chi am ein cynlluniau i ailddatblygu’n pwll hydrotherapi a’n noddfa. Roedd angen i ni sicrhau cyllid ar gyfer y prosiectau hyn, ac rydyn ni wrth ein bodd yn dweud wrthych fod yr arian sydd ei angen arnon ni gennym ni erbyn hyn, diolch i gefnogwyr hael!
Mae gwaith ar y ddau brosiect wedi dechrau erbyn hyn, sy’n golygu, yn fuan iawn, y bydd teuluoedd yn gallu defnyddio’r mannau ar flaen y gad mwy hygyrch hyn.
Gan gyflwyno… Gwirfoddolwyr Cymorth i Deuluoedd
Yn dilyn cyllid gan Sefydliad Hodge, rydyn ni wedi dechrau cyflwyno Gwirfoddolwyr Cymorth i Deuluoedd fel rhan o brosiect peilot ym Mae Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Mae’r gwirfoddolwyr hyn yn helpu yng nghartrefi a chymunedau’r teuluoedd yr ydyn ni’n eu cefnogi. Maen nhw’n ymgymryd â thasgau sylfaenol DIY, siopa, gyrru a gwaith tŷ i leihau rhywfaint ar y pwysau ar deuluoedd sydd eisoes yn ymdopi â llawer iawn.
Rhan allweddol o’r prosiect hwn yw Debbie Allison, ein Rheolwr Gwirfoddolwyr Cymorth i Deuluoedd. Esboniodd Debbie:
“Gall cael gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi’n dda, sydd wedi’u recriwtio’n dda mewn cartrefi a chymunedau fod yn fanteisiol iawn. Mae hi fel cwtsh cynnes yn y gymuned, gan ddod ag ychydig o Dŷ Hafan i mewn i’r cartref i leddfu pwysau ac ynysigrwydd cymdeithasol.”
O un bwrdd i’r llall!
Aeth y Bwrdd Ieuenctid i ddiwrnod cwrdd i ffwrdd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ym mis Tachwedd ac roedd yn ddiwrnod gwych.
Rhoddodd yr Ymddiriedolwyr gyfres o bynciau i’r Bwrdd Ieuenctid i’w hymchwilio, yn seiliedig ar sut y mae modd gwella Tŷ Hafan i bobl ifanc. Yna cyflwynodd y Bwrdd Ieuenctid eu canfyddiadau.
Gwnaeth y bobl ifanc gyflwyniad hyderus a phwerus yn amlinellu eu syniadau a’u barn o ran datblygu’r sefydliad gyda llond trol o angerdd. Cafodd eu hagwedd a’u haeddfedrwydd eu canmol gan holl aelodau’r Bwrdd.
Gwaith gwych!