Roedd Matthew a Micaela yn 21 oed pan gawson nhw eu bachgen bach, Cai.

Heb fawr o dro, trodd y llawenydd o fod yn rhieni tro cyntaf yn dotio ar eu babi at ofn a thorcalon pan aeth Cai yn ddifrifol wael pan oedd ond ychydig wythnosau oed.

Fe wnaeth ataliad ar y galon ei adael gydag anafiadau helaeth iโ€™r ymennydd a pharlys yr ymennydd. Cafodd Matthew a Micaela wybod am y newyddion dirdynnol mai dim ond diwrnod oedd gan eu babi i fyw.

Ond goroesodd Cai y diwrnod canlynol. Ac ynaโ€™r nesaf, aโ€™r nesaf. Er ei fod ef dal yn sรขl iawn, roedd Matthew a Micaela yn hapus ac yn ddiolchgar bod eu babiโ€™n fyw.

Ond trodd eu rhyddhad yn fwy o drychineb. Cafodd Cai ddiagnosis o gyflwr hynod brin, anwelladwy, syndrom Vici, a olygai y byddai ei fywyd yn fyr.

Dywedodd y tรฎm meddygol a oedd yn gofalu am Cai na fyddaiโ€™n byw y tu hwnt i ddwy flwydd oed, ac y byddaiโ€™n bywโ€™r blynyddoedd byr hynny gyda heriau corfforol dwys. Gydaโ€™i calonnauโ€™n ddarnau, fe wnaethon nhw alaru am y bywyd yr oedden nhw wediโ€™i ragweld gydaโ€™i mab.

Roedd bywyd yn mynd i fod yn wahanol iawn iโ€™r teulu ifanc yma. Yn lle mynd รข Cai i ymarfer pรชl-droed ar benwythnosau, roedden nhwโ€™n byw bywyd o ansicrwydd wrth ymyl ei wely yn yr ysbyty.

Fe wnaeth tรฎm meddygol Cai, gynnig atgyfeiriad iddyn nhw i Tลท Hafan, ond roedd y syniad o Cai yn mynd i hosbis iโ€™w weld mor derfynol ac nid oedd Matthew a Micaela yn barod i ddweud ffarwรฉl.

Pan ddaethon nhw i ymweld รขโ€™r hosbis, roedd hiโ€™n wahanol iawn iโ€™r hyn yr oedden nhw wediโ€™i disgwyl. Roedd hiโ€™n gynnes, yn llachar ac yn gartrefol, yn llawn gwenu a chwerthin. Roedden nhwโ€™n teimlo ar unwaith ei fod yn lle diogel a chyfeillgar, yn llawn cariad a bywyd.

Ond nid oedd amser i brosesuโ€™r hyn a oedd yn digwydd. Trodd yr wythnosau yn fisoedd, ac roedd yn rhaid iddyn nhw fyw am bob diwrnod.

Roedd y pwysau ariannol aโ€™r cyfyngiadau amser a ddaeth yn sgil gofalu am Cai lawn amser yn golygu eu bod nhw braidd yn ymdopi a goroesi. Ond roedden nhwโ€™n gwybod bod Tลท Hafan yno iddyn nhw bob cam oโ€™r ffordd.

Hyd yn oed drwyโ€™r holl ddyddiau tywyll, byddai Cai yn dod รข heulwen.

Roedd ef bob amser yn fachgen bach hapus, yn llawn cymeriad. Dangosodd ddewrder mawr drwy gydol ei daith. Roedd ganddoโ€™r wรชn fwyaf heintus ac, ar hyd ei oes, fe heriodd yr anfanteision a gafodd eu pentyrru yn ei erbyn.

Pan ddaeth yr amser i ddweud ffarwรฉl, roedd Matthew a Micaela yn gwybod eu bod nhw eisiau i Cai farwโ€™n heddychlon yn Tลท Hafan. Y foment y daeth ef i mewn iโ€™r hosbis, agorodd ei lygaid. Roedd ef rywle lleโ€™r oedd eโ€™n teimloโ€™n ddiogel.

Roedd Matthew a Micaela yn adnabod eu bachgen bach, ac roedden nhwโ€™n gwybod mai dyna fyddai ei eiliadau olaf ef. Nid oedd ef erioed wedi bod mor wael รข hynny oโ€™r blaen. Roedd ei weld ef felly yn fwy poenus hyd yn oed naโ€™r ffaith na fyddai yma mwyach.

Bu farw Cai pan oedd yn 11 oed. Roedd ei farwolaeth yn heddychol. Nid oedd unrhyw frwydro. Nid oedd yn ofnadwy. Syrthiodd i gysgu ym mreichiau ei dad ac ni ddeffrodd.

Roedd cariad oโ€™i amgylch ym mhobman, a phan fu farw, nid oedd Matthew a Micaela yn teimloโ€™n unig yn eu galar. Roedden nhwโ€™n teimlo bod staff Tลท Hafan wedi colli Cai, hefyd. Gwnaeth yr emosiwn, y gefnogaeth aโ€™r cariad y dangosodd aelodau oโ€™r staff iddyn nhw ddod รข chysur mawr.

Oherwydd eich haelioni yr oedd yn bosibl i fi fod yno i Matt, Micaela a Cai trwy gydol bywyd, Cai, ei farwolaeth a thu hwnt.

Ond mae mwy o waith iโ€™w wneud. Dim ond gyda rhoddion y byddwn niโ€™n gallu cyrraedd pob teulu yng Nghymru sydd ein hangen ni. Rhowch help llaw i ni i wneud y Gymru honnoโ€™n wirionedd.