Ers i ni ddechrau cefnogi teuluoedd yn 1999, mae Tŷ Hafan wedi cefnogi 1,097 o blant a theuluoedd drwy fywyd, marwolaeth a thu hwnt. Wrth i ni fyfyrio ar y 25 mlynedd diwethaf, rydym yn cydnabod faint sydd wedi’i gyflawni, ond hefyd faint mwy sydd i’w wneud.

Gwnaeth adroddiad Plant yng Nghymru y Mae Angen Gofal Lliniarol Arnyn Nhw: Tueddiadau o ran y Nifer o Achosion a’r Cymhlethdodau, a gomisiynwyd ar y cyd â Llywodraeth Cymru ac a gyhoeddwyd y llynedd, ganfod fod nifer y plant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd yng Nghymru wedi cynyddu o chwarter rhwng 2009 a 2019, ac mae cymhlethdodau’r cyflyrau y mae’r plant hynny’n byw gyda nhw yn parhau i gynyddu.

Mae hynny’n golygu bod teuluoedd 1 o bob 172 o blant yng Nghymru yn wynebu’r hyn sydd y tu hwnt i’r dychymyg: disgwylir i’w plant farw yn ystod plentyndod.

Yn bwysicach i Tŷ Hafan, dangosodd yr ymchwil am bob 1 plentyn a theulu yng Nghymru y gallwn eu cefnogi, mae 9 arall na allwn eu cyrraedd eto. Mae hynny’n filoedd o deuluoedd sy’n byw bob dydd gan wybod y bydd bywyd eu plentyn yn fyr, ac maen nhw’n ei wynebu heb unrhyw gefnogaeth hosbis na gofal lliniarol.

Unig. Ofnus. Ynysig.

Dyna pam mae’r 25 mlynedd nesaf mor bwysig.

Ein huchelgais yw, pan fydd bywyd plentyn yn fyr, na ddylai unrhyw deulu orfod ei fyw ar ei ben ei hun. Heddiw, mae gormod o deuluoedd yn byw ar eu pennau eu hunain.

Mae hon yn uchelgais enfawr. Mae’n golygu bod yn rhaid i ni ail-drefnu ein gwasanaethau fel bod gan bob teulu fynediad at y gofal cywir, ar yr adeg gywir, yn y lle cywir, wedi’i ddarparu gan y person cywir.

Mae’n rhaid i ni gefnogi mwy o deuluoedd yn agosach at eu cartrefi, fel nad oes rhaid iddynt deithio’n bell i gael mynediad at y gofal a’r cymorth arbenigol sydd eu hangen arnynt. Rhaid i ni sicrhau bod gan deuluoedd fwy o ddewis ynghylch ble mae eu plentyn yn marw, gan gynnwys gartref, a gweithio’n agos gydag eraill fel bod teuluoedd yn cael y gefnogaeth sy’n gywir iddyn nhw.

Nid yw’n mynd i fod yn hawdd, ond gyda’n gilydd gallwn wneud i hyn ddigwydd.

25 mlynedd yn ôl, roedd Suzanne Goodall yn gwybod na fyddai’n hawdd adeiladu hosbis plant gyntaf Cymru. Ond diolch i’w gweledigaeth a’i dyfalbarhad – a chefnogaeth pobl Cymru – fe wnaeth iddo ddigwydd.

Dychmygwch Gymru lle mae gan bob plentyn fynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw, lle mae eu hangen nhw, a phryd y mae eu hangen nhw. Cymru lle mae gan deuluoedd ddewis am y gofal maen nhw’n ei gael. Cymru lle nad oes unrhyw deulu yn wynebu marwolaeth eu plentyn ar eu pennau eu hunain.

Nid dim ond dychmygu’r Gymru hon ydym ni; rydyn ni’n credu ynddi.