Siawns y byddai llawer o bobl sy’n nesáu at eu pen-blwydd yn 90 oed yn cynllunio diwrnod tawel gydag ambell i ddathliad bach efallai. Ond nid Colin Evans o Benarth! 

Mae Colin, a fydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed ar Fai 14, yn bwriadu nodi’r garreg filltir hon drwy nofio milltir mewn llai nag awr i Hosbis Plant Tŷ Hafan.

“Fy merch Jill wnaeth sôn wrthyf i am Tŷ Hafan,” meddai Colin, cyn-bennaeth Ysgol Syr Thomas Picton yn Hwlffordd, a gafodd OBE am ei wasanaethau i addysg yn 1989.

“Mae hi’n byw yn yr Unol Daleithiau ond pan fydd hi’n ymweld â ni, mae hi bob amser yn treulio ychydig o amser yn gwirfoddoli yn Nhŷ Hafan.

“Mae fy ngwraig, Audrie, a minnau wedi’n bendithio ag wyth o wyrion ac erbyn hyn rydyn ni’n hen dad-cu a mam-gu.

“Maen nhw i gyd yn iach. Roedd fy nhad, Emlyn, yn arfer dweud wrtha i: ‘Colin, mae gen ti ddigon o allu – paid â’i wastraffu.’

“Wn i ddim sut y byddwn i’n ymdopi pe bawn i’n cael gwybod nad oedd plentyn i mi’n  mynd i fyw.

“Felly ar fy mhen-blwydd yn 90 oed rydw i wedi penderfynu nofio milltir gyda gwên, a gobeithio ei chwblhau mewn dim ond awr.”

Mae Colin yn dweud ei fod bob amser wedi credu bod ffitrwydd corfforol yn bwysig. Cafodd ei eni yng ngorllewin Cymru i deulu Cymraeg, ac astudiodd Ddaearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn cael comisiwn dwy flynedd yn yr RAF.

Ar ôl gorffen ei Wasanaeth Cenedlaethol, bu Colin yn athro Daearyddiaeth yn Ysgol Ramadeg Aberteifi, gan chwarae rygbi i Glwb Rygbi Gorseinon gyda Malcolm Halfpenny, tad-cu Leigh Halfpenny, sy’n Llysgennad Tŷ Hafan ac yn gyn chwaraewr rygbi rhyngwladol i Gymru.

Yn y llun tîm hwn mae Colin yn sefyll yn bumed o’r chwith tra bod Malcolm Halfpenny yn eistedd ymhell i’r chwith.

Colin Evans lines up alongside Malcolm Halfpenny, Leigh Halfpenny's grandfather

Ar ôl symud i Ysgol Bishop Wordsworth yn Salisbury, gwnaeth Colin chwarae fel prop i Glwb Pêl-droed Rygbi Caerfaddon rhwng 1962 a 1965. 

“Ro’n i wrth fy modd yn chwarae rygbi, ond dydw i byth yn cofio cael fy nysgu i nofio,” meddai Colin. “Wrth dyfu i fyny yn Wdig ar yr arfordir, roedd yn rhywbeth yr o’n i’n gallu’i wneud erioed. Rwyf i bob amser wedi nofio’n rheolaidd. Ond yn fwy diweddar rydw i wedi lleihau fy amserlen i ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener.” 

Ymddeolodd Colin, cyn Swyddog Addysg Ardal Sir Benfro, yn 1989 ar ôl un ar ddeg mlynedd yn Bennaeth ar Ysgol Syr Thomas Picton yn Hwlffordd. Mae bellach yn aelod rheolaidd yn Eglwys Fethodistaidd Penarth, ac er bod ei bwll nofio lleol yng Nghogan wedi bod ar gau am chwe mis ar gyfer gwaith adnewyddu, mae Colin wedi llwyddo i oresgyn hynny ac mae’n barod iawn i ymgymryd â’r her. 

“Fe wnes i nofio am y tro cyntaf mewn chwe mis y diwrnod o’r blaen,” meddai. “Doeddwn i ddim yn siŵr sut o’n i’n mynd i wneud ond rwy’n falch o ddweud fy mod i wedi llwyddo i nofio hyd y pwll 50 gwaith mewn awr, felly dim yn rhy ddrwg o gwbl. 

“Ar ddiwrnod fy mhen-blwydd rwy’n bwriadu nofio hyd y pwll 64 gwaith mewn awr a gan fod hyd y pwll yn 25 metr, fydd hynny’n cyfateb â milltir. 

“Roedd gen i rieni gwych,” meddai Colin, “priodais i â menyw fendigedig a ches i blant hyfryd. Mae cymaint o blant sydd angen help. Nawr rydw i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl.” 

Os hoffech chi noddi Colin ewch i: https://www.justgiving.com/page/bronwen-swain-1713085320522 

Yn y llun isod, Colin yn ymlacio yn ei gartref ym Mhenarth,  ym Mhalas Buckingham ar ôl derbyn ei OBE am wasanaeth i addysg ym 1989, ac, yn ymladd dros Glwb Rygbi Caerfaddon yn 1962.

Colin Evans aged 89 contemplating his fundraising swim for Ty Hafan Colin Evans with his OBE in 1989Colin Evans playing prop for Bath RFC in 1962