Heddiw, ddydd Mawrth (18 Mehefin), dwy hosbis plant Cymru wedi datgelu iâr fach yr haf enfawr, wedi’i chreu yn rhannol gan y plant y maen nhw’n gofalu amdanynt, ar risiau’r Senedd wrth iddyn nhw alw eto ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gyllid cynaliadwy ar eu cyfer. 

Mae’r gwaith celf iâr fach yr haf 8 metr gan 6 metr #CyrraeddPobPlentyn yn cynnwys 3,655 o ieir bach yr haf bach, sy’n cynrychioli nifer y plant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd yng Nghymru ac sydd wedi’i greu gan blant y mae hosbisau, staff a gwirfoddolwyr yn eu cefnogi ar hyn o bryd.

Ar hyn o bryd mae Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith yn cefnogi un o bob 10 plentyn ledled Cymru sydd wedi cael diagnosis o gyflwr sy’n byrhau bywyd. Arddangos eu iâr fach yr haf #CyrraeddPobPlentyn ar risiau’r Senedd yw’r cam diweddaraf yn eu hymgyrch pum mlynedd i gael Llywodraeth Cymru i ymrwymo i ariannu 21% o’u costau gofal blynyddol. Ar hyn o bryd mae hosbisau plant yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn derbyn rhwng 30% a 50% o’u costau gofal blynyddol gan eu llywodraethau priodol.

Ar hyn o bryd dim ond 12% o’u costau gofal blynyddol y mae Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith, ar y cyd, yn ei dderbyn yn rheolaidd gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Irfon Rees, Prif Weithredwr Tŷ Hafan: “Yn 2021/22 fe wnaeth Llywodraeth Cymru ateb ein cais i ariannu 21% o’n costau gofal ar gyfer hosbisau plant Cymru. Fodd bynnag, mewn termau real, mae’r cyllid rheolaidd hwn erbyn hyn wedi gostwng i ychydig llai na 12% o gostau gofal yr hosbisau.

“Yn 2023 fe wnaethom ni lansio adroddiad ‘Tueddiadau o ran y Nifer o Achosion a’r Cymhlethdod’. Dangosodd yr adroddiad hwnnw fod 3,655 o blant yng Nghymru â chyflwr sy’n byrhau bywyd. Mae’r nifer wedi bod yn cynyddu ers blynyddoedd ac mae’n parhau ar drywydd ar i fyny.

“Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru arnom ni i ymdopi â’r angen am ein gwasanaethau, a chostau, ein gwasanaethau.”

Dywedodd Andy Goldsmith, Prif Weithredwr Tŷ Gobaith: “Rydyn ni’n gwybod y gallwn ni wneud mwy. Rydyn ni’n gwybod bod yn rhaid i ni wneud mwy i gyrraedd y 3,655 o deuluoedd sydd wedi gorfod cael y sgwrs nad ydych chi byth eisiau ei chael ac sy’n chwilio’n daer am gefnogaeth.

“Rydyn ni’n gwybod y gallwn ni ddarparu cefnogaeth, gwasanaethau a gwên i fwy o’r 3,655 o deuluoedd sy’n ofnus, yn ynysig, wedi’u llethu ac sy’n wynebu bob dydd gan ofni y gallai fod yn ddiwrnod olaf eu plentyn, gwasanaethau y mae teuluoedd yn eu galw’n achubiaeth.

“Yn ystod Wythnos Hosbisau Plant, rydyn ni’n galw ar y Llywodraeth i roi’r cymorth, yr help a’r arian i ni fel y byddwn ni yma ar gyfer pob plentyn a theulu sy’n troi atom. I gyflawni’r addewid hwnnw. I roi’r cyllid cynaliadwy a’r dyfodol diogel i ni gefnogi pob plentyn a theulu sydd ein hangen ni, heddiw ac yn y dyfodol.”

Anfonwyd llythyr yn galw unwaith eto am gyllid cynaliadwy ar gyfer Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith wedi’i lofnodi gan Irfon Rees ac Andy Goldsmith at y Prif Weinidog Vaughan Gething ac Eluned Morgan, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Fehefin 5.

Cafodd Daniel, mab Jonanthan Bugg, o’r Barri, ddiagnosis o ganser ddwy flynedd yn ôl a fis Awst diwethaf, cafodd wybod ei fod yn angheuol. Bu farw yn Nhŷ Hafan ar Fawrth y cyntaf eleni yn 16 oed.

“Dydy marw ddim yn urddasol. Ond fe roddodd Tŷ Hafan urddas i Daniel,” meddai tad Daniel, Jonathan, cyn-reolwr Maes Awyr Cymru Caerdydd. “Rhoddodd Tŷ Hafan amser iddo gyda’i deulu ac roedd modd i fy ngwraig Catherine a minnau fod yn fam a thad iddo, nid ei ofalwyr. Mae ysbytai yn gallu bod yn eithaf amhersonol – ond fe wnaeth Tŷ Hafan sicrhau bod Daniel yn fe ei hun tan y diwedd.

“Fyddwn i ddim yn dymuno ein profiad ni ar unrhyw un. Ond i unrhyw un sydd yn gorfod mynd drwy ein profiad ni, byddwn i’n dymuno iddynt gael gwasanaethau Tŷ Hafan.”

Un o’r plant sy’n dibynnu ar ofal hosbis yn Nhŷ Gobaith yw Bedwyr Davies, sy’n naw oed ac o Lanrwst.

Cafodd Bedwyr ddiagnosis o’r cyflwr genetig syndrom Coffin-Siris, cyflwr sy’n achosi anabledd dysgu sylweddol. Mae hefyd yn cael ei fwydo gan diwb, mae ganddo broblemau anadlu ac nid yw’n gallu siarad.

Mae ei fam Nerys Davies yn dweud: “Mae bod yn rhieni i blentyn ag anghenion cymhleth yn anodd. Mae’n newid bywyd mewn gwirionedd.

“Mae’r dyddiau pan oeddwn i’n gallu picio draw i’r siop am laeth wedi hen fynd, gan fod angen trefnu tripiau. Caiff swper ei ruthro er mwyn i chi allu rhoi meddyginiaethau, gwylio drosto neu wneud ei ofal personol. Mae cwsg yn aflonydd ac mae’r nosweithiau’n hir ac yn frawychus pan fydd yn sâl.

“Mae gofal seibiant yn ein galluogi i wneud pethau heb lawer o rybudd! Mynd am dro yn y goedwig, i siopa, cwrdd â theulu a ffrindiau am ginio. Mae gofal seibiant yn rhoi cyfle i ni gael pryd poeth heb unrhyw darfu, noson dda o gwsg gan wybod bod staff Tŷ Gobaith yno yn gofalu am eich plentyn a’r cyfle i ailwefru eich batris gan nad ydych chi byth yn gwybod beth sy’n mynd i’ch wynebu.

“Pan mae ein plant yn sâl mae’r gofal yr ydyn ni’n ei roi gartref neu hyd yn oed yn yr ysbyty yn aruthrol. Mae angen seibiant arnon ni i sicrhau ein bod ni’n gallu bod yno i’n plant yn gorfforol ac yn feddyliol. Heb seibiant byddai llawer o deuluoedd yn wynebu argyfwng.

“Fy nymuniad i fyddai bod pob teulu sydd mewn sefyllfa debyg yn cael cefnogaeth eu hosbis plant, gan ei fod wir yn gwneud gwahaniaeth i bob un ohonon ni.”

Cymerodd yr arwyddlun iâr fach yr haf #CyrraeddPobPlentyn dair wythnos i’w wneud ac mae’n cynnwys 404 o ieir bach yr haf ffabrig lliw, pob un wedi’i addurno’n unigryw gan blant sy’n cael gofal gan Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith ar hyn o bryd.

Mae’r 3,251 o’r ieir bach yr haf sy’n weddill, sy’n cynrychioli’r plant hynny yng Nghymru sydd â chyflwr sy’n byrhau bywyd nad yw Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith yn gallu eu cyrraedd ar hyn o bryd, wedi’i lliwio’n ofalus â phaent llwyd gan wirfoddolwyr o amrywiaeth o gwmnïau sy’n cefnogi’r hosbisau plant.

Mae cynrychiolwyr y ddwy hosbis i blant gan gynnwys Irfon Rees, Andy Goldsmith a Jonathan a Catherine Bugg wedi arddangos iâr fach yr haf #CyrraeddPobPlentyn ar risiau’r Senedd ym Mae Caerdydd o 10.30am tan 1.30pm.