Gwnaeth dwy hosbis plant Cymru ddatgelu iar fach yr haf enfawr, wedi’i gwneud yn rhannol gan y plant y maent yn gofalu amdanynt, ar risiau’r Senedd wrth iddyn nhw alw unwaith eto ar i Lywodraeth Cymru ymrwymo i’w hariannu’n gynaliadwy.
Gwnaed y gwaith celf iar fach yr haf #CyrraeddPobPlentyn gan ddefnyddio 3,655 o ieir bach yr haf bach, i gynrychioli nifer y plant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd yng Nghymru ac mae wedi’i greu gan blant sy’n cael cefnogaeth gan y ddwy hosbis, y staff a’r gwirfoddolwyr.
Hoffai’r hosbisau ddiolch i’r 14 AS a gefnogodd Wythnos Hosbis Plant, gan gynnwys Eluned Morgan, Dawn Bowden, Natasha Ashgar, Tom Giffard, Altaf Hussain, Heledd Fychan, Rhys ab Owen, John Griffiths a Sarah Murphy o’r de a’r gorllewin.
Yr ASau o’r gogledd a’r gorllewin a ddangosodd eu cefnogaeth oedd: Sam Rowlands, Janet Finch-Saunders, Gareth Davies, Russell George a Rhun ap Iorwerth.
Ar hyn o bryd, mae Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith yn cefnogi 1 o bob 10 o blant sy’n cael diagnosis o gyflwr sy’n byrhau bywyd ledled Cymru. Arddangos yr iar fach yr haf #CyrraeddPobPlentyn ar risiau’r Senedd oedd y cam diweddaraf yn eu hymgyrch dros gyfnod o bum mlynedd i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ariannu 21% o’u costau gofal blynyddol.
Mae hosbisau yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn derbyn rhwng 30% a 50% o’u costau gofal blynyddol gan eu llywodraethau nhw.
Dim ond 12% o’u costau gofal blynyddol ar y cyd y mae Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith yn ei dderbyn ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru.
Eluned Morgan, AS Canolbarth a Gorllewin Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn siarad gyda thîm ymgyrchu #CyrraeddPobPlentyn ar risiau’r Senedd yn ystod Wythnos Hosbis Plant 2024
Dywedodd Irfon Rees, Prif Weithredwr Tŷ Hafan: “Yn 2021/22 cytunodd Llywodraeth Cymru i’n cais i ariannu 21% o’n costau gofal ar gyfer dwy hosbis plant Cymru. Fodd bynnag, mewn termau real, mae’r cyllid rheolaidd wedi gostwng ers hynny i lai na 2% o gostau gofal y ddwy hosbis.
“Yn 2023 lansiwyd ‘Adroddiad Tueddiadau o ran y Nifer o Achosion a’r Cymhlethdodau’. Roedd yr adroddiad yn dangos bod 3,655 o blant yng Nghymru sydd â chyflwr sy’n byrhau bywyd ac mae’r nifer hwnnw wedi bod yn cynyddu dros y blynyddoedd ac mae’n parhau i gynyddu.
“Mae angen i gyllid Llywodraeth Cymru barhau i ddiwallu’r angen am ein gwasanaethau, a’u cost.”
Dywedodd Andy Goldsmith, Prif Weithredwr Tŷ Gobaith: “Rydyn ni’n gwybod y gallwn ni wneud mwy. Rydyn ni’n gwybod bod yn rhaid i ni wneud mwy i gyrraedd y 3,655 o deuluoedd sydd wedi gorfod cael y sgwrs dydych chi byth eisiau ei chael ac sy’n chwilio’n daer am gymorth.
“Rydyn ni’n gwybod y gallwn ni ddarparu cefnogaeth, gwasanaethau a hapusrwydd i fwy o’r 3,655 o deuluoedd sy’n ofnus, yn ynysig, wedi’u llethu ac sy’n wynebu pob dydd yn ofni mai hwn fydd diwrnod olaf eu plentyn, gwasanaethau y mae teuluoedd yn eu galw’n achubiaeth.
“Dyna pam rydyn ni’n galw ar y Llywodraeth i roi’r gefnogaeth, yr help a’r cyllid i ni fel y gallwn ni fod yma ar gyfer pob plentyn a theulu sy’n troi atom. I gyflawni’r addewid hwn. I roi’r cyllid cynaliadwy i ni i sicrhau dyfodol diogel i gefnogi pob plentyn a theulu sydd ein hangen ni, heddiw ac yn y dyfodol.”
Cafodd Daniel, mab Jonathan Bugg o’r Barri, ddiagnosis o ganser dwy flynedd yn ôl a fis Awst diwethaf cafodd wybod ei bod yn derfynol. Bu fawr yn hosbis Tŷ Hafan ar Fawrth y Cyntaf eleni yn 16 oed.
“Dydy marw ddim yn urddasol. Ond rhoddodd Tŷ Hafan urddas i Daniel,” meddai tad Daniel, Jonathan, cyn reolwr ym Maes Awyr Caerdydd a gweinidog y Bedyddwyr.
“Rhoddodd Tŷ Hafan amser iddo gyda’i deulu ac roedd modd i fy ngwraig Catherine a minnau fod yn fam a thad iddo, yn hytrach na’i ofalwyr. Mae ysbytai yn gallu bod yn eithaf amhersonol – ond gwnaeth Tŷ Hafan sicrhau mai Daniel oedd e hyd y diwedd.
“Fyddwn i ddim yn dymuno ein profiad ni ar neb. Ond i unrhyw un sy’n gorfod mynd trwy ein profiad ni, gobeithio y bydd ganddyn nhw Tŷ Hafan i’w helpu nhw.”
Mae llythyr yn galw unwaith eto am gyllid cynaliadwy ar gyfer Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith ac wedi’i lofnodi gan Irfon Rees ac Andy Goldsmith wedi’i anfon at y Prif Weinidog Vaughan Gething ac Eluned Morgan, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cymerodd hi dair wythnos i greu’r iar fach yr haf #CyrraeddPobPlentyn ac mae’n cynnwys 404 o ieir bach yr haf lliwgar, pob un wedi’i addurno yn unigryw gan y plant sy’n cael gofal ar hyn o bryd yn hosbis Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith.
Mae gweddill y 3,251 o ieir bach yr haf, sy’n cynrychioli’r plant hynny â chyflyrau sy’n byrhau bywyd yng Nghymru nad yw Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith yn gallu eu cyrraedd ar hyn o bryd, wedi’u paentio’n llwyd gan wirfoddolwyr o amrywiaeth o gwmnïau sy’n cefnogi hosbisau plant.
Prif Weithredwr Tŷ Hafan, Irfon Rees yn sgwrsio gyda Rhun ap Iorwerth, AS Ynys Môn ac Arweinydd Plaid Cymru
Cliciwch yma i’n helpu ni i allu #CyrraeddPobPlentyn