Y bore yma (dydd Mercher 26 Mehefin) mae naw tad, ewythr a chyfaill gyda chefnogaeth Hosbis Plant Tŷ Hafan wedi cychwyn taith i Gonwy yng ngogledd Cymru wrth iddynt baratoi i ymgymryd â’u her codi arian eithafol ddiweddaraf.
Bydd Paul Fears, Dan Forbes, Ryan Tomlinson, Chris Thomas, James Meacham, Lee Morgan ac Anthony Boggis, sy’n dadau Tŷ Hafan, yn ymuno â Laurence Morgan, brawd Lee, a Jason Foster, Cyfarwyddwr Cyllid Tŷ Hafan ar gyfer yr her #BikeBoatBoot epig dros gyfnod o bedwar diwrnod.
Gan ddechrau yfory a gorffen ddydd Sul, bydd y tîm yn beicio oddi ar y ffordd, yn cerdded milltiroedd o lwybrau mynydd ac yn caiacio hyd Llyn Tegid. Mae’r pellter amcangyfrifedig dros 200 milltir a bydd y tîm yn dringo bron i 28,000 troedfedd a’r cyfan mewn ymgais i godi £50,000 i’r hosbis plant. I weld y llwybr ewch i: Ty Hafan BBB FULL ROUTE (osmaps.com)
Hyd yn hyn, mae’r tîm wedi codi mwy na £35,000 ac maent yn gobeithio torri eu targed erbyn diwedd y penwythnos: Bike Boat Boot Challenge for Tŷ Hafan – JustGiving.
Dywedodd Lee, o Fynydd Cynffig: “Dim ond saith wythnos oed oedd fy mab Ezra pan fu farw o gyflwr genetig o’r enw SMA Math 1 nad oeddem ni’n ymwybodol ohono nes iddo fynd yn sâl ym mis Mawrth 2015.
“Ar y pryd roedd Bailey, chwaer Ezra, yn ddwy oed. Fel y gallwch chi ddychmygu roedd yn gyfnod gofidus iawn i ni fel teulu. Roedd Tŷ Hafan yn gwbl anhygoel gan ein gwneud i ni deimlo’n gwbl gartrefol! Doedd dim byd yn ormod, fe wnaethon nhw i’r atgofion olaf gyfri! Maen nhw’n dal i’n cefnogi ni nawr.
“Rwy’n mynd yn fwy nerfus ac yn gyffrous wrth i’r her agosáu ac yn gweddïo am dywydd braf.”
Cafodd Rhys, mab Anthony Boggis o Aberdâr, ddiagnosis mai ef oedd y person cyntaf yn y byd gyda chyflwr iechyd a achoswyd gan ddileu genynnau mewn un cromosom ac roedd Tŷ Hafan yn gofalu amdano.
“Dim ond 16 oed oedd Rhys pan fu farw ar 12 Gorffennaf 2019. Brwydrodd Rhys bob dydd am 16 mlynedd ac rwy’n ymgymryd â’r her hon er cof amdano. Ar ben hynny, dyma fy ffordd i o ddiolch i Tŷ Hafan am y gefnogaeth a roddwyd i Rhys a’r gefnogaeth y maen nhw’n dal i’w rhoi i fy nheulu ac yn arbennig i Carys, chwaer Rhys,” meddai Anthony.
“Mae gen i gymysgedd o emosiynau o deimlo’n gyffrous ac yn edrych ymlaen at yr her, y cyfeillgarwch rhyngom ni i gyd, i deimlo’n dorcalonnus ac yn bryderus am faint yr her.
“Yna mae’r teimlad o fod yn benderfynol o gwblhau’r dasg o ystyried yr hyn y gwnaeth Rhys frwydro drwyddo yn ddyddiol a bod yn benderfynol o wneud Rhys a fy nheulu yn falch er cof amdano.”
Dywedodd James Meacham, o Bontllanfraith: “Mae gen i deimlad o gyffro nerfus, os oes y fath beth. Rydyn ni’n gwybod y bydd hi’n anodd, ond rydyn ni i gyd wedi hyfforddi’n galed a’r grŵp hwn yw’r bobl fwyaf cryf yn feddyliol rwy’n eu hadnabod.
“Byddwn ni’n cael ein gilydd drwyddo, oherwydd rydyn ni’n gwybod faint mae Tŷ Hafan yn ei olygu ond hefyd oherwydd ei fod yn gyfle enfawr i fod yn agored a siarad â phobl mewn demograffig bach iawn (rhieni mewn profedigaeth neu rieni plant â salwch terfynol) ac mae hynny’n amhrisiadwy.”
Ychwanegodd James: “Dim ond naw oed oedd fy mab Thomas pan fu farw ar 2 Mehefin 2019. Dydw i ddim yn gwybod ble fydden ni heb Tŷ Hafan ac mae gwneud yr her yma yn un ffordd y gallaf roi yn ôl.”
Cafodd Scarlett, merch Chris Thomas o Gaerffili, ddiagnosis o gyflwr cromosomaidd mor brin fel nad oedd ganddo enw. Yn saith mis oed, dechreuodd Scarlett, ei mam Clair a Chris gael cefnogaeth gan hosbis Tŷ Hafan. Bu farw Scarlett ym mis Medi 2018 yn ddim ond pedair oed.
“Dim ond taith feic, padlo a cherdded gyda’r bechgyn am, sori, pa mor bell? 200 milltir a mwy!” chwarddodd Chris. “Dwi’n edrych ymlaen ato, ond mae’n mynd i fod yn anodd yn gorfforol ac yn feddyliol!
“Yn gorfforol rydyn ni i gyd wedi treulio oriau yn paratoi cymaint â phosib – a chwarae teg i’r holl wragedd a’r cariadon am dderbyn hyn.
“Ond yn feddyliol, mae hynny’n dod gan gefnogaeth ein tîm ar y diwrnod – mae’r dynion hyn yn anhygoel, peidiwch â dweud wrthyn nhw fy mod wedi dweud hynny!
“Mae Tŷ Hafan fel teulu neu glwb cefnogol, ond hoffwn pe na bai’n rhaid i neb ymuno ag ef. Ond mae’n gwbl hanfodol ei fod yno. Mae meddwl am rywun yn gorfod mynd trwy’r profiad gwaethaf mewn bywyd heb y gefnogaeth hon yn codi ofn arna i.
“Rydyn ni’n gwneud yr heriau hyn i helpu i sicrhau bod rhywun yno pan fydd eich byd chi’n chwalu o’ch cwmpas. Tŷ Hafan yw hwnnw. Ond mae’n fwy na hynny, cewch gyfle i fwynhau amser gyda’ch gilydd a chreu atgofion a fydd yn para am oes
“Weithiau atgofion yw’r cyfan sydd gennych i chi ddal gafael arnyn nhw. Mae’r amseroedd hapus maen nhw’n eu creu yr un mor bwysig â’r gefnogaeth.”
Dywedodd Dan Forbes, o Lanilltud Fawr: “Rwy’n teimlo cymysgedd o gyffro a dychryn. Yn gyffrous i fynd i ddechrau arni, mynd amdani ac anghofio bywyd bob dydd am ychydig. Edrych ymlaen at gael chwerthin a gweld y bechgyn. Y sgyrsiau sy’n dod o’r heriau hyn yw’r uchafbwynt i mi bob amser.”
Mae mab Dan, Felix, sy’n 12 oed, yn cael ei gefnogi gan Tŷ Hafan ers pan oedd yn dri mis oed pan gafodd ddiagnosis o gyflwr genetig prin o’r enw Lissencephaly gyda Syndrom Miller-Dieker.
“Yn amlwg mae rhywfaint o bryder oherwydd anferthedd yr her ond rwy’n gwybod, wrth i ni fynd drwy’r adegau anodd anochel fel unigolion, y bydd pŵer y grŵp yn cofleidio y person yna, yn drosiadol ac yn gorfforol, ac yn ei ysgogi i fynd ymlaen,” ychwanegodd Dan.
Mae Ryan Tomlinson o Rhymni yn ymgymryd â’r her #BikeBoatBoot wedi’i ysbrydoli gan ei fab blwydd oed, Talis, a gafodd ddiagnosis o syndrom Leigh, cyflwr mitocondria prin, yn saith mis oed.
“Mae maint yr her yn rhywbeth na feddyliais i erioed y byddwn i’n gallu ei wneud. Dwi’n teimlo cymysgedd o emosiynau! Rwy’n nerfus fy mod yn gadael fy nheulu ond hefyd yn gyffrous i gymryd rhan yn y genhadaeth hon i feicio, rhwyfo a cherdded ledled Cymru,” meddai.
“Byddaf yn cadw fy mab mewn cof wrth wneud hynny, bydd ei gryfder i barhau i ymladd bob dydd yn fy ngwneud yn benderfynol o barhau i wthio drwyddo os bydd yn anodd. Bydd yr arian a godir, heb os, yn sylweddol i Dŷ Hafan. Nid hosbis yn unig yw Tŷ Hafan. Mae Tŷ Hafan yn rhoi ystyr newydd i ‘teulu’.”
Yn olaf, dywedodd Paul Fears, o Bentre’r Eglwys ac arweinydd y grŵp: “Fe gollon ni ein mab Greg ar 14 Chwefror 2023 pan oedd yn 31 oed. Cafodd ei eni gyda chyflwr ysgyfaint a chalon sy’n byrhau bywyd, a dywedwyd wrthym ni i ddechrau mai dim ond pum mlynedd oedd ei ddisgwyliad oes. Yng nghanol ei arddegau, aeth Greg yn sâl iawn a chawsom ein hatgyfeirio i Tŷ Hafan, lle cafodd ein teulu ofal a chefnogaeth anhygoel am flynyddoedd lawer. Mewn gwirionedd, rydym wedi bod yn rhan o deulu Tŷ Hafan byth ers hynny, hyd yn oed pan gyrhaeddodd Greg 19 oed ac na allai aros yn yr hosbis mwyach. Mae ymgymryd â’r her er cof am Greg yn rhoi cyfle i mi ddiolch i Tŷ Hafan a threulio amser gwerthfawr gyda thadau eraill. Bydd cerdded, beicio a chaiacio ar hyd Cymru yn heriol dros ben, ond nid yw’n ddim o’i gymharu â’r hyn sy’n wynebu Greg a phlant eraill Tŷ Hafan yn ddyddiol. Greg oedd y person dewraf i mi ei adnabod erioed. Fe yw fy ysbrydoliaeth ac rwy’n ei golli’n fawr.”
Dywedodd James Davies-Hale, Pennaeth Codi Arian Tŷ Hafan: “Pan fydd bywyd plentyn yn un byr, ni ddylai unrhyw deulu orfod ei wynebu ar eu pen eu hun. Mae mwy na 3,000 o blant yng Nghymru â chyflyrau sy’n byrhau bywyd ar hyn o bryd a dim ond un o bob deg o’r teuluoedd hynny y gallwn ni eu cefnogi.
“Rydyn ni mor ddiolchgar i’r tîm #BikeBoatBoot am bopeth maen nhw’n ei wneud, nid yn unig o ran yr holl arian maen nhw’n ei godi i ni, ond am sut maen nhw mor ddewr yn rhannu eu straeon eu hunain am sut rydyn ni wedi gallu eu cefnogi.
“Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn eu cefnogi wrth iddyn nhw wynebu’r her epig hon, yn eu helpu i dorri eu targed codi arian o £50,000 a’u bod yn cael pedwar diwrnod diogel a llwyddiannus.”
I wybod mwy ac i gefnogi’r tîm, ewch i: Bike Boat Boot Challenge for Tŷ Hafan – JustGiving
Gallwch ddilyn eu taith ar:
Facebook – https://www.facebook.com/5in55
X – #BikeBoatBoot (@5in55) / X