Mae Pêl-droed Pump Bob Ochr Tŷ Hafan yn ôl ac yn dod â busnesau ynghyd ar gyfer gwledd o bêl-droed pump bob ochr a chodi arian ddydd Iau 26 Medi.
Cynhelir y twrnamaint un diwrnod eleni yn Gôl, Rhodfa Lawrenny, Caerdydd ac fe’i noddir gan V12 Retail Finance gan gynnig cynghrair lle bydd y timau yn chwarae ei gilydd yn eu tro i geisio am safle yng nghamau Cynghrair y Pencampwyr, Cynghrair Europa ac ECL i ddechrau. Yna mae’r twrnamaint yn symud ymlaen i rowndiau bwrw allan, lle bydd yr enillwyr yn mynd drwodd i’r rownd gynderfynol ac yna’r rownd derfynol.
Gall pob tîm fod ag uchafswm o wyth chwaraewr sy’n cynnwys gôl-geidwad, pedwar chwaraewr allfaes a thri eilydd ac mae mynediad yn costio £495 y tîm. Mae’r galw am leoedd wedi bod yn uchel a dim ond lle ar gyfer naw tîm arall sydd ar gael ar hyn o bryd.
Dywedodd Kelly Dibble, Rheolwr Codi Arian Corfforaethol ar gyfer Hosbis Plant Tŷ Hafan: “Mae Pêl-droed Pump Bob Ochr Tŷ Hafan yn canolbwyntio ar ddod â staff ynghyd a meithrin tîm. Rydyn ni’n gweithio mewn byd hybrid y dyddiau hyn ac mae Pêl-droed Pump Bob Ochr Tŷ Hafan yn cynnig cyfle i chi a’ch cydweithwyr gael diwrnod allan gwych a’r cyfan er budd achos teilwng iawn.”
Y llynedd cymerodd dros 20 o dimau o bob cwr o dde Cymru ran yn y gystadleuaeth, gan gynnwys timau o Gymdeithas Adeiladu Principality, Admiral a Hugh James gan godi £12,000 i Tŷ Hafan. Cafodd y cyfranogwyr gyfle i fwynhau pizza a diodydd ar ôl y twrnamaint ac ymunodd Joe Ledley, un o arwyr Cymru a Dinas Caerdydd ar gyfer sesiwn holi ac ateb ryngweithiol.
Dywedodd Sam Palmer o dîm buddugol 2023, Cymdeithas Adeiladu Principality, a welir yn y llun isod: “Mae digwyddiad Pêl-droed Pump Bob Ochr Tŷ Hafan yn ddiwrnod llawn mwynhad ar y cae ac oddi arno ac yn gyfle gwych i staff Principality gymysgu â phobl o fusnesau eraill i godi arian ar gyfer achos mor werth chweil gydag elfen gystadleuol gref!
“Mae Tŷ Hafan wedi bod yn un o’n partneriaid elusennol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’r digwyddiad yn gymorth mawr i godi ymwybyddiaeth.”
“Ar hyn o bryd, dim ond un o bob deg teulu sydd angen ein cefnogaeth y gallwn ni eu cefnogi,” ychwanega Kelly Dibble. “Pan fydd bywyd plentyn yn fyr, bydd Tŷ Hafan yn cerdded ochr yn ochr â’r teulu bob cam o’r ffordd, trwy fywyd, marwolaeth a thu hwnt.
“Bydd pob tîm sy’n ymuno â’n twrnamaint Pêl-droed Pump Bob Ochr yn ein helpu i gerdded ochr yn ochr â phob teulu sydd angen ein cefnogaeth.
“A pheidiwch â phoeni os nad ydych wedi trefnu eich tîm eto oherwydd byddwn yn casglu manylion yr holl chwaraewyr yn agosach at yr amser.”
Cliciwch yma i wybod mwy a chofrestru eich tîm.