Pêl-droed Pump Bob Ochr i Tŷ Hafan

Mae’n ôl ar gyfer 2024! Dewch â’ch cydweithwyr ynghyd i gymryd rhan yn ein digwyddiad pêl-droed pump bob ochr, gan ddod â busnesau at ei gilydd i godi arian i Tŷ Hafan.

Pêl-droed Pump Bob Ochr

Dyddiad y digwyddiad

26.09.2024

Lleoliad

Gôl, Lawrenny Avenue, Caerdydd CF11 8BR

Ffi cystadlu

£495 fesul tîm

Maint y tîm

8 chwaraewr (3 eilydd)

Pêl-droed Pump Bob Ochr

Ynglŷn â’r gystadleuaeth

Os ydych chi eisiau dangos eich sgiliau ar y cae, gwneud cysylltiadau newydd a chael amser gwych gyda’ch cydweithwyr, yna byddwch chi’n dwlu ar Bêl-droed Pump Bob Ochr Tŷ Hafan. Y llynedd daeth mwy nag 20 o dimau o bob rhan o Gymru i gystadlu a chael amser da!

Mae’n gynghrair lle bydd y timau yn dechrau drwy chwarae am safle yn y camau Cynghrair y Cenhedloedd, Cynghrair Europa ac ECL. Yna, bydd y gystadleuaeth yn symud i gamau cyfle olaf, lle bydd yr enillwyr yn mynd trwodd i’r rownd gyn-derfynol ac yna’r rownd derfynol.

Bydd angen tîm o wyth o chwaraewyr arnoch. Un golwr, pedwar chwaraewr ar weddill y cae a thri eilydd. Caiff pob tîm fod ag uchafswm o wyth chwaraewr, yn cynnwys tri eilydd. Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi dîm eto, byddwn yn casglu manylion y chwaraewyr yn agosach at yr amser!

Bydd yn costio £495.00 fesul tîm i gystadlu a gallwch gofrestru trwy lenwi’r ffurflen isod.

Bydd eich tîm yn cael:

  • Cyfle i ddefnyddio gorsaf diodydd y chwaraewyr
  • Cyfle i rwydweithio gyda thimau eraill
  • Pizza a pheint/diod ar ôl y gystadleuaeth
  • O leiaf pump gêm deg munud o hyd
  • Cyflwyniad gwobrau a siaradwr gwadd.

Gwobrau

Bydd gwobrau ar gyfer y tîm sy’n ennill, yr ail safle a ‘seren y gêm’ yn y rownd derfynol, y sgoriwr uchaf, chwaraewr benywaidd gorau’r gystadleuaeth a’r codwyr arian gorau.

Amserlen y dydd

13:00: cofrestru a rhwydweithio

14:00: cyflwyniad a dechrau’r gystadleuaeth

17:00: diodydd, pizza a chyflwyno gwobrau.

 

 

 

Mae cyfyngiad ar nifer y timau, cofrestrwch eich diddordeb nawr!

Error: Contact form not found.

Pêl-droed Pump Bob Ochr

Yr ysgrifen fach

  1. Rhaid bod o leiaf pump chwaraewr ym mhob tîm, un golwr a phedwar chwaraewr arall ar weddill y cae
  2. Gall y sgwadiau gynnwys hyd at wyth chwaraewr, caniateir i’r eilyddion ddod ymlaen yn eu tro ym mhob gêm.
  3. Cost fesul tîm yw £495 a rhaid talu’r ffioedd cyn cymryd rhan.
  4. Bydd y gemau’n cael eu dyfarnu yn annibynnol yn unol â rheolau Pump Bob Ochr, mae polisi dim goddefgarwch am ddiffyg parch tuag at ddyfarnwyr
  5. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ym mhob digwyddiad a chaiff y timau eu dyrannu ar sail cyntaf i’r felin.
  6. Bydd yn ofynnol i chwaraewyr gofrestru a llofnodi hawlildiad am 2 pm ar ddiwrnod y digwyddiad
  7. Bydd rhai gemau yn cael eu ffilmio a’u rhannu ar gyfryngau cymdeithasol Business Fives – dylai chwaraewyr roi gwybod i Business Fives os nad ydynt yn dymuno cael eu ffilmio
  8. Bydd y gemau’n cael eu chwarae ar arwyneb 3G a bydd bŵts AstroTurf yn berffaith, gall chwaraewyr hefyd wisgo moldies a blades, ond ni chaniateir stydiau metel.

Rydyn ni bob amser yma i helpu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at events@tyhafan.org. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Noddir y digwyddiad hwn yn garedig gan

V12 Sponsor Ty Hafan

Daw’r digwyddiad hwn i chi gan

Digwyddiadau chwaraeon corfforaethol i elusennau.