Mae Tom Martin, 29 oed, yn byw yng Nghaerdydd ac fe gafodd ei gyfeirio at Tŷ Hafan am y tro cyntaf yn 2002 pan oedd yn naw oed. Yn gefnogwr brwd o glwb pêl-droed Dinas Caerdydd, yn aelod o garfan Boccia Cenedlaethol Cymru ac yn Bencampwr Cenedlaethol Cymru BC4, mae Tom yn byw gyda chyflwr niwrogyhyrol prin gyda phrognosis ansicr – Intermediate Non Kinesigenic Paroxysmal Dystonic Choreoathetosis. Mae hyn yn golygu bod Tom yn gorfod delio â sbasmau cyhyrau cyson a gwanychol.

Dywedodd ei fam, Deb: “Mae Tom yn ddyn ifanc anhygoel ac mae’n ysbrydoliaeth i ni. Dydy e erioed wedi gadael i’w gyflwr ei atal rhag cyflawni unrhyw beth. Mae e a’i dad Phil yn gefnogwyr brwd o dîm pêl-droed Dinas Caerdydd. Maen nhw wedi bod â thocynnau tymor ers blynyddoedd ac yn mynd i’r holl gemau cartref.

“Pan gafodd ei eni, hyd y gwyddom ni, roedd popeth yn iawn ond pan gafodd ei archwiliad chwe wythnos roedd y meddyg teulu yn poeni bod cylchedd ei ben yn fwy nag y dylai fod. Cawsom ein gweld yn Ysbyty Athrofaol Cymru o fewn 24 awr a dywedwyd wrthym fod gan Tomas hydrocephalus.

“Yn wyth wythnos oed, roedd yn rhaid iddo gael dyfais o’r enw siynt wedi’i osod i leddfu’r gwasgedd a oedd wedi cronni. Hwn oedd y cyntaf o lawer o siyntau.”

Parhaodd Deb: “Roedd Tomas fel petai’n datblygu’n iawn ac roedd ar ei draed erbyn tua 18 mis ond yna pan oedd tua dwy oed, dechreuodd ddangos rhai arwyddion nad oedd popeth yn hollol iawn. Roedd wedi dechrau cael sbasmau am ddim rheswm o gwbl.

“Cafodd lawer o wahanol brofion. Roedd y meddyg ymgynghorol yn yr ysbyty yn sicr bod Tomas yn dangos arwyddion o ddioddef o anhwylder symud niwrogyhyrol o’r enw Intermediate Non Kinesigenic Paroxysmal Dystonic Choreoathetosis, ac mai dyna oedd yn achosi’r sbasmau cyhyrol yr oedd Tomas yn eu dioddef bob dydd.

“Rydym wedi rhoi cynnig ar sawl triniaeth wahanol i helpu Tomas gyda’r sbasmau hyn, a all ddigwydd unrhyw bryd ddydd neu nos. Mae wedi cael llawer o sganiau gwahanol a sawl ymchwiliad yn Ysbyty Great Ormond Street, ynghyd â rhestr hir o feddyginiaeth dros y blynyddoedd.

“Mae wedi bod angen gwiail asgwrn y cefn oherwydd sgoliosis, mae wedi cael llawdriniaeth ar y glun i gywiro dadleoliad, ond y mwyaf anodd a difrifol oedd llawdriniaeth arloesol ar yr ymennydd i osod dyfais electronig o’r enw ysgogydd ymennydd dwfn, a wnaed yn Ysbyty Frenchay, Bryste.

“Ond mae Tom yn ddyn ifanc penderfynol sydd wrth ei fodd â chwaraeon, a hefyd yn dwlu ar gomedi, mae ganddo synnwyr digrifwch drygionus a phersonoliaeth wych yr ydym ni i gyd yn ei hoffi’n fawr. Mae’n hoffi cadw i fyny â’r tueddiadau, mae e’n ysbrydoliaeth i ni fel teulu.”

Mae Tom, a raddiodd o Brifysgol De Cymru yn 2022 gyda BSc mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon erbyn hyn yn gweithio fel Cydlynydd Boccia ar gyfer Chwaraeon Anabledd Cymru. Mae hefyd yn aelod o The Squad Tŷ Hafan – grŵp o bobl ifanc sydd, diolch i ddatblygiadau mewn meddygaeth a gofal rhagorol, wedi byw i fod yn oedolion.

Meddai Tom: “Yr awyr fydd y terfyn os byddwch chi ond yn cyfyngu eich hun i’r awyr!”

Mae Tom yn dal i ymwneud yn fawr â Tŷ Hafan ac yn ogystal â chodi arian ar gyfer yr hosbis, yn ddiweddar mae wedi dechrau cyflwyno rhai sesiynau Boccia i blant a gefnogir gan Tŷ Hafan.

Cliciwch yma i ddilyn Tom ar Twitter.

Tom Martin at Ty Hafan