Mae gennym ni gyfle munud olaf i werthwr bwyd stryd ymuno â ni yn ein Diwrnod Hwyl i’r Teulu ddydd Sadwrn yma, 9 Medi.

Mae lle ar gael ar gyfer gwerthwr bwyd poeth ar dir Hosbis Plant Tŷ Hafan rhwng 10.30am a 5.30pm, a’r digwyddiad ei hun yn cael ei gynnal o ganol dydd tan 5pm.

Dywedodd Lucy Kettlety, Swyddog Gofal Cefnogwyr: “Rydyn ni’n chwilio’n benodol am werthwr bwyd stryd poeth blasus – efallai rhywun sy’n cynnig cebabs, bwyd Thai, cyri, tacos, bwyd Groegaidd, bwyd Tsieineaidd neu rywbeth tebyg. Os gallwch chi helpu, anfonwch e-bost at events@tyhafan.org.”

Mae disgwyl i gannoedd o bobl ddod i’r Diwrnod Hwyl i’r Teulu sydd â’r nod o godi arian ar gyfer gwaith hanfodol Tŷ Hafan gyda phlant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd yng Nghymru. Pris mynediad yw £2 y pen a phlant o dan 2 oed am ddim.

“Rydyn ni eisoes â digon sy’n cynnig pwdin, pizzas, byrgyrs, brecwast a sglodion,” ychwanegodd Lucy, “felly does dim angen i chi gysylltu eleni os ydych chi’n cynnig y pethau hynny.”