“Ganwyd fy mhlentyn canol, Darcy, gyda Syndrom Wolf-Hirschhorn,” meddai Matt Evans, sy’n dad i dri.

“Mae hyn yn golygu bod ganddi oedi datblygiadol. Mae Darcy yn bump oed ond mae hi yr un maint â phlentyn 18 mis oed. Cafodd ei geni gyda gwefus a thaflod hollt sydd wedi’i gywiro. Bu’n rhaid iddi gael llawdriniaeth ar y galon. Mae ganddi barlys yr ymennydd. Mae ganddi glefyd yr arennau Cam 2. Mae’n cael ffitiau sy’n cael eu rheoli gan feddyginiaeth. Mae ganddi adlifiad difrifol.”

“Mae gan Darcy gryn dipyn i ymdopi ag ef.”

Mae Matt, hyfforddwr cerbydau ar gyfer y DVLA yn byw yn Abertawe gyda’i wraig Fiona, Aubree, 7 oed, Darcy ac Oakley, 3 oed.

“Fel teulu mae cyflwr Darcy yn effeithio arnom yn fawr. Allwn ni ddim gwneud y pethau arferol o ddydd i ddydd y mae teulu cyffredin yn eu cymryd yn ganiataol yn hawdd,” meddai.

“Er enghraifft, dydy diwrnod ar y traeth i ni ddim yn golygu pacio ychydig o dyweli, bwcedi a rhawiau. I ni, mae’n golygu mynd â bygi Darcy, ei chwistrellau, ei bwyd, a’i holl feddyginiaethau y mae angen i ni eu rhoi iddi trwy gydol y dydd. Gallwn wneud pethau, yn sicr, ond nid yw teithiau allan mor syml i ni ag y maent i lawer o bobl eraill.

“Ni allaf gofio pwy awgrymodd Tŷ Hafan i ni. Rwy’n credu mai un o’r nyrsys cymunedol wnaeth. Wnes i erioed feddwl y bydden ni’n gallu ei ddefnyddio gan nad oedden ni’n meddwl y byddai Darcy yn gymwys.

“Ond fel mae’n digwydd, mi roedd hi. Aethom yno ar gyfer ein hymweliad cyntaf yn 2019, arhosodd y pump ohonom yno fel teulu.

“Roeddem wrth ein boddau. Mae’n teimlo fel cartref oddi cartref. Rydyn ni’n teimlo’n ‘normal’ yn Tŷ Hafan. Mae’n teimlo fel bod Darcy yn perthyn yno a’n bod ni’n perthyn yno fel teulu. Mae mor groesawgar. Ar ein hymweliad cyntaf, siaradodd Dave, y cogydd, â ni fel pe baem wedi bod yn mynd yno ers blynyddoedd. Pan gyrhaeddon ni adref doeddem ni ddim yn gallu aros i fynd yn ôl!’

“Pan fyddwn yn aros yn yr hosbis mae’n ein helpu ni i gyd gymaint gan fod Darcy yn cael gofal unigol. I rieni fel ni, mae’n help mawr gan ein bod ni’n gallu cael ychydig mwy o orffwys.

“Gallwn ni hefyd dreulio amser gyda’n plant eraill, Aubree ac Oakley. Mae chwarae meddal, pwll dŵr, parc y tu allan. Mae fel gwyliau bach i ni.”

Roedd Matt yn un o grŵp o dadau Tŷ Hafan a gododd bron i £50,000 i’r elusen yn ddiweddar trwy ddringo 10 mynydd a beicio rhan o Lwybr Taf mewn 55 awr.

Dywed Matt iddo gael ei ysbrydoli’n arbennig i ymgymryd â’r her #10nTaff anodd gan y gefnogaeth y mae ef a’i gyd-dadau Tŷ Hafan yn ei gael gan yr hosbis yn ogystal ag oddi wrth ei gilydd.

“I mi, nid dim ond yr hyn mae Darcy yn ei gael gan Tŷ Hafan yw e,” meddai. “Mae am beth rydyn ni i gyd yn ei gael, gan gynnwys fi.

Rwy’n cael cymaint o fudd o allu cael sgyrsiau gyda thadau eraill. Gallwn ni rannu ein profiadau. Mae hyn yn rhywbeth yr oeddwn i’n meddwl y byddai byth ei angen arnaf, ac dydw i ddim yn siarad â ffrindiau eraill am y math hwn o beth oherwydd nad ydyn nhw’n gallu uniaethu ag ef.

“Dwi’n meddwl ein bod ni wedi dod yn bell nawr – mae mwy o ddynion yn siarad am eu teimladau. Dwi’n casáu’r ymadrodd ‘man-up’.

“Cymerodd Gary Speed ei fywyd ei hun. Rwy’n credu, pe bai wedi teimlo bod ganddo un person i allu siarad â nhw am unrhyw beth, efallai na fyddai wedi teimlo mai dyna’r unig opsiwn iddo.

“I ni dadau Tŷ Hafan, gallwn siarad am bopeth!”