Collodd Andrew a Catherine Jeans eu merch annwyl, Rose, i Diwmor Rhabdoid Teratoid Annodweddiadol ychydig ddyddiau ar ôl ei phen-blwydd cyntaf. Dyma stori eu teulu.

“Ganwyd ein merch, Rose, ar 11 Chwefror 2019. Roedd hi’n berffaith ac yn am chwaer fach hir disgwyliedig i’n mab Oliver, oedd yn saith oed ar y pryd,” meddai Andrew.

“Roedd Rose yn wych gyda mi. Ond cyn gynted ag yr oedd Catherine yn dod i mewn i’r ystafell, wel, dyna ni! Doedd Rose ddim eisiau ei thad bellach, mam oedd rhif un – dim ond Catherine oedd hi ei heisiau ac, yn wir, fyddai hi’n rhoi gwybod hynny i chi!”

“Roedd hi’n hyfryd, y babi perffaith. Roedd Rose yn chwifio, yn ceisio siarad, cropian. Roedd ganddi ddau ddant ac roedd hi’n dechrau stopio bwydo ar y fron. Yn wyth mis, roedd popeth yn iawn,” cofia Catherine.

Doedd hi ddim yn hir nes i Andrew a Catherine sylwi bod pothelli ar ben ôl Rose. Rhoddodd y meddyg teulu ryw eli iddi ac fe wnaeth hynny ei leddfu ychydig, ond roedd Rose yn dal i fod yn anghysurus a gwaethygodd ei chyflwr.

“Ym mis Tachwedd, gwelsom waed ym mhŵ Rose ac roedd yn rhydd iawn trwy’r amser. Cafodd Rose ei derbyn i Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tydfil am noson lle mai’r awgrym oedd y gallai fod yn anoddefgarwch llaeth,” eglura Catherine.

“Felly, gwnaethom roi’r gorau i brynu unrhyw fwydydd wedi’u prosesu o gwbl iddi. Fe wnes i bopeth iddi hi fy hun.

“Roedd Rose yn iawn dros y Nadolig, ac roeddwn i’n meddwl ein bod ni wedi ei ddatrys gyda’r newid llaeth. Cawsom Nadolig hyfryd. Ond ar Nos Galan 2019, newidiodd pethau am byth.”

Yna daeth y sgrechian.

“Roedd yn frawychus ac mor, mor ddryslyd.”

Mae Catherine yn disgrifio’r diwrnod dychrynllyd y dirywiodd iechyd Rose yn gyflym: “Roedd fy mam wedi bod yn gwarchod Rose tra roedd Oliver a minnau allan. Ffoniodd hi fi a dweud: ‘Dewch adref, dydy rhywbeth ddim yn iawn gyda Rose.’

“Roedd mwy o waed yn ei chewyn, ac roedd hi’n straenio ac yn sgrechian mewn poen. Roedd yn ofnadwy.

“Aethon ni yn ôl i Ysbyty’r Tywysog Siarl ar Nos Galan 2019, ac fe welon nhw Rose yn sgrechian am y tro cyntaf. Fe ddechreuon nhw gynnal profion ar unwaith.”

Ar ôl archwiliad uwchsain yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, dywedwyd wrth Andrew a Catherine fod meddygon wedi dod o hyd i rywbeth yng ngholuddyn Rose a allai orfod gael ei dynnu’n llawfeddygol.

“Cafodd Rose ei chludo mewn ambiwlans i Ysbyty Arch Noa yng Nghaerdydd, ond erbyn i ni gyrraedd yno, roedd Rose wedi stopio sgrechian. Yn ddryslyd, fe wnaeth y meddygon ei harchwilio a’i rhyddhau,” cofiodd Andrew.

“Doedden ni ddim yn gallu credu’r peth, felly fe wnaethon ni ffonio Ysbyty Tywysog Siarl a mynd yn syth yn ôl yno. Ar ôl tipyn o drafod, dywedon nhw wrthym ni am fynd adref am y penwythnos a dod â Rose yn ôl ar y bore Llun. Felly, dyna beth wnaethon ni.”

Yn disgwyl am ganlyniadau profion gastro, dechreuodd Rose wrthod bwyd a chysgu am gyfnodau hirach a hirach o amser, dim ond i ddeffro, poeni, crafu mewn darn penodol ar ei thalcen a thynnu ei gwallt yng nghefn ei phen.

“Wna i byth anghofio. Roeddwn i’n cwtsio Rose pan fyrstiodd meddyg ymgynghorol drwy’r drws a dweud wrthym eu bod wedi dod o hyd i saith neu wyth waedlyn ar ymennydd Rose. Roedd yn frawychus ac mor, mor ddryslyd.”

Dangosodd sgan MRI fod Rose nid yn unig yn gwaedu yn ei hymennydd, ond roedd yn gwaedu o’i hasgwrn cefn hefyd. Ychydig cyn ei phen-blwydd cyntaf, cafodd Rose ddiagnosis o Diwmor Rhabdoid Teratoid Annodweddiadol (ATRT).

“Y diwrnod ar ôl iddyn nhw ei chychwyn hi ar y steroidau y dywedodd y meddyg ymgynghorol wrthym ei fod yn ganser. Roedd Rose yn dal yn yr uned gofal dwys, ac roeddem yn meddwl mai dyna oedd ei dyddiau olaf. Ond cawsom obaith wrth iddi gael cynnig chemo – roedden ni’n meddwl y byddai’r chemo yn helpu.

“Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, dywedodd y meddygon wrthym fod y math hwn o ganser yn un o’r rhai mwyaf ymledol ac nad oedd Rose yn ddigon cryf i gael hyd yn oed un dos arall o chemo. Roedd eisoes wedi mynd yn rhy bell. A dywedwyd wrthym mai mater o wythnosau yn unig oedd hi. Rwy’n ei gofio mor glir.”

“Mae’n amgylchedd cartref oddi cartref, lle mae pawb yn bwysig.”

Er gwaethaf cymhlethdodau, roedd Andrew a Catherine yn benderfynol o symud Rose i Tŷ Hafan ar gyfer ei munudau olaf.

“Oherwydd bod gan Rose ddraen wedi’i osod i ddelio â’r haint, ni allai ddod i Tŷ Hafan. Felly, roedd yn rhaid i ni wneud y penderfyniad i gael gwared ar y draen er mwyn iddi ddod i’r hosbis, a gwnaethom hynny.

“Cafodd Rose ei phwmpio yn llawn gwrthfiotigau, fe wnaethon ni fendith yn yr ystafell gynadledda yn Arch Noa, ac wedyn roedden ni’n gallu trosglwyddo Rose i Tŷ Hafan.

“Cyrhaeddom Tŷ Hafan ar 10 Chwefror. Cafodd Rose ei phen-blwydd cyntaf – a’r unig un – yn yr hosbis ac yna fe gollon ni hi.”

“Pe na bai Tŷ Hafan yma, dwi ddim yn gwybod beth fydden ni wedi ei wneud. Galluogodd Tŷ Hafan i’n teulu fod o’n cwmpas wrth ddarparu preifatrwydd i ni ar yr un pryd. Mae’n amgylchedd cartref oddi cartref, lle mae pawb yn bwysig,” meddai Catherine.

“Fe dreulion ni bedwar diwrnod yn hosbis Tŷ Hafan. Roedd yn amhrisiadwy. Roedd popeth yn cael ei wneud i ni sy’n golygu ein bod ni’n gallu canolbwyntio ar fod yn deulu. Mae Tŷ Hafan yn rhoi normalrwydd i chi ar yr adegau anoddaf.

“Mae Tŷ Hafan yn rhwyd ddiogelwch. Dim ond bod mewn ystafell gyda phobl eraill sydd wedi colli plant – mae ‘na ymdeimlad o berthyn. Nid oes unrhyw beth byth yn cael ei orfodi arnoch. Mae yno os oes ei angen. Gallwch fynd i mewn ac allan pryd bynnag y byddwch chi’n teimlo’n barod. Dydych chi ddim yn cael eich anghofio, ac mae gennych eu cefnogaeth ddiddiwedd. ”

Tŷ Hafan. Bob amser yno.