“Cafodd Max ei eni ar 17 Ionawr 2016,” meddai Martina Harding. “Roedd e’n berffaith ac yn frawd bach hyfryd i’n merch, Mila. Ond yn fuan iawn fe wnaethon ni sylwi bod pethau’n wahanol i Max.”

O fewn naw wythnos i enedigaeth eu mab, roedd Martina a’i gŵr, Glyn, wedi cael gwybod bod gan Max Atroffi Cyhyrol yr Asgwrn Cefn (SMA) math 1, cyflwr genetig prin sy’n golygu bod gan blentyn â’r diagnosis hwn hyd oes cyfartalog o ddwy flynedd neu lai.

Bu farw Max yn heddychlon gartref gyda’i deulu yng Nghaer-went ar 16 Mai 2016 yn ddim ond pedwar mis oed.

“Pan rydych chi’n cael y newyddion eich bod chi’n mynd i golli plentyn rydych chi yno ond dydych chi ddim yn gwybod beth i’w wneud,” meddai’r tad, Glyn.

“Mae fel eich bod chi mewn gwactod. Mae popeth yn digwydd o’ch cwmpas chi, ond mae’n fyd gwahanol i’r un rydych chi ynddo.

“Dydych chi ddim yn gwybod beth i’w wneud a’r gefnogaeth a gawsom gan Tŷ Hafan oedd yr unig beth yr oeddwn i’n ei chlywed bryd hynny.

“Roeddwn i wedi gwneud taith feicio elusennol i godi arian ar gyfer Tŷ Hafan rai blynyddoedd cyn i mi ddefnyddio ei wasanaethau fy hun. Dydych chi byth yn breuddwydio mai chi fydd yn y sefyllfa honno. A dydych chi ddim yn dod i wybod pa mor bwysig yw’r hyn y mae’n ei gynnig mewn gwirionedd nes bod ei angen arnoch chi’ch hun a’ch bod chi’n profi’r hyn y mae’n ei gynnig.

“Roedd angen help arnom ac fe wnaethon ni gydio yn yr hyn roedd Tŷ Hafan yn ei gynnig gyda dwy law.

“Gyda Tŷ Hafan, maen nhw’n siarad â chi’n blaen. Maen nhw’n dweud wrthych chi na allan nhw wella’ch plentyn. Ond fe allan nhw eich helpu chi drwyddo.”

“Mae Tŷ Hafan yn cymryd cymaint o bwysau oddi arnoch chi,” meddai’r fam, Martina. “Maen nhw’n helpu i sortio’r holl stwff o’ch cwmpas – ac fe wnaeth hyn olygu fy mod i’n gallu treulio amser gyda Max, Glyn a Mila. Yr holl eiliadau gwerthfawr hynny y gwnaeth Tŷ Hafan eu rhoi i ni. Roedden ni’n gallu camu’n ôl o’r pryderon hynny a phwysau bywyd bob dydd a chanolbwyntio arnom ni fel teulu.

“Dydy e ddim yn amgylchedd nawddoglyd – mae Tŷ Hafan yn glir gyda chi bod yr hyn sy’n digwydd, yn digwydd, dydyn nhw ddim yn osgoi pethau.

“Maen nhw’n helpu i’ch tywys drwy’r dyddiau hynny pan rydych chi ar eich isaf. Maen nhw’n dangos i chi ei bod hi’n iawn i grio. Mae’r gofal a’r cariad rydym wedi’u cael gan Tŷ Hafan, ac rydym yn dal i’w cael ganddyn nhw, heb ei ail.

“Fydden ni ddim fel rydyn ni heddiw oni bai am Tŷ Hafan .”
Roedd Mila yn ddwy a hanner pan gafodd Max ei eni. Ar ôl ei ddiagnosis cafodd y teulu eu cyfeirio yn syth at Tŷ Hafan.

“Gyda diagnosis Max roedd y prognosis yn golygu nad oedden ni’n gwybod a fyddai hyd yn oed yn para’r daith ambiwlans i Tŷ Hafan ,” meddai Glyn. “Fe lwyddodd i wneud hynny ac arhoson ni tua phythefnos a hanner yn yr hosbis. Fe gawson ni hyfforddiant ar sut i fwydo Max trwy diwb ac fe aethon ni ag ef allan gydag Adrian y nyrs.”

“Fe ddaethon ni i adnabod y lle’n gyflym oherwydd doedd Max ddim yn dda,” meddai Martina. “Pe na bai Tŷ Hafan ar gael, bydden ni wedi bod yn yr ysbyty neu ar ein pennau ein hunain yn y tŷ.”

“Mae pobl yn ymdopi pan mae dy blentyn di mor wael,” meddai Glyn. “Ond y profiad o sut rydych chi’n ymdopi â hyn, dyna lle mae Tŷ Hafan yn helpu. Yn ystod salwch eich plentyn ac ar ôl hynny. Dyna pam rydyn ni eisiau helpu nawr – rydyn ni eisiau rhoi cymaint yn ôl.

“Fe safodd Tŷ Hafan wrth ein hymyl ni a’n tywys ni – dydyn nhw ddim yn delio gyda phobl yn marw yno yn unig. Mae’r staff yno mor wybodus am yr hyn i’w wneud i’r teulu cyfan. Mae’r gefnogaeth y mae Tŷ Hafan yn ei rhoi yn amhrisiadwy.

“Fe wnaethon ni atgofion yno fel teulu, yn yr amgylchedd hardd hwnnw, yn yr ystafell grefft, yn y gegin, ac er bod bywyd Max yn fyr, mae’r atgofion hynny’n para am byth.”

“A beth bynnag roeddem wedi ei wynebu’r diwrnod hwnnw, roedd pryd o fwyd blasus ar y bwrdd i ni yn Tŷ Hafan bob amser ,” meddai Martina. “Mae hynny mor bwysig.”

“Gallwn ni fynd yn ôl o hyd – i siarad â phobl sy’n cofio am Max, y bachgen hoffus. Mae hi mor braf gallu mynd i rywle fel yna.”

Yn ogystal â rhoi hafan ddiogel a chefnogol i’r teulu yn y dyddiau cynnar iawn ar ôl diagnosis Max, rhoddodd Tŷ Hafan hyder sy’n newid bywyd i’r teulu y gallen nhw ofalu am Max eu hunain gartref.

“Fe roddodd Tŷ Hafan yr hyder yna i ni,” meddai Martina. “Gallem fynd adref a gofalu am Max ein hunain, gan wybod bod Tŷ Hafan yno i ni ddydd a nos pe bai angen help neu sicrwydd arnom ni.

“Fe ddaethon ni adref am ychydig wythnosau. Wedyn fe aethon ni nôl lawr i Tŷ Hafan a threulio wythnos arall yno.

“Yna cawson ni bythefnos gartref. Hyd yn oed ar y diwrnod y bu farw Max, yn fuan ar ôl iddo farw roedd Pat a Kirsty yma i’n helpu drwy’r diwrnod hwnnw. Roedd yn rhaid i ni aros i feddyg ddod i gadarnhau’r farwolaeth. Weithiau, y pethau syml sy’n gwneud y mwyaf o wahaniaeth. Wrth i ni aros am y doctor rhoddodd Pat y tegell ymlaen a chwaraeodd Kirsty gyda Mila.”

“Fe aethon ni â chorff Max i Tŷ Hafan ,” meddai Glyn. “Fe wnaethon nhw baratoi ei ystafell iddo ac yno roedden ni’n gallu ffarwelio ag ef. Fe ddarllenodd y tîm straeon iddo gyda’r nos. Yna roedden nhw i gyd yno i’w weld am y tro olaf.

“Mae staff Tŷ Hafan yn ddiffuant ac yn onest. Maen nhw yno gyda chi ac rydyn ni wedi gwneud ffrindiau oes yno.”

Bob blwyddyn mae Tŷ Hafan yn cynnal dau wasanaeth coffa i rieni mewn profedigaeth, gwasanaeth gaeaf wrth olau cannwyll, a gwasanaeth coffa yn yr haf. Mae’r teulu Harding yn cael cysur yn y gwasanaethau hyn ac maen nhw hefyd yn ymweld â’r hosbis a’i gardd goffa yn rheolaidd yn ogystal â chefnogi gweithgareddau codi arian yr elusen.”

“Rydyn ni’n mynd yn ôl i Tŷ Hafan yn rheolaidd i ddangos parch i Max,” meddai Martina. “Rydyn ni’n mynd i’r gwasanaethau profedigaeth, rydyn ni’n mwynhau’r diwrnod hwyl blynyddol, ac unwaith y flwyddyn rydyn ni’n ceisio gwneud rhywbeth i godi arian ar gyfer Tŷ Hafan hefyd.

“Eleni, fe gymerais i ran yn her Mamau v Mynyddoedd. Rydyn ni’n dal i gerdded gyda’n gilydd nawr ac yn dal i fyny ac rydyn ni wedi gwneud ffrindiau oes. Mae rhai ohonon ni wedi colli ein plant, mae rhai o’n plant gyda ni o hyd.

“Rydyn ni i gyd yn gwybod am yr emosiynau rydyn ni’n mynd drwyddyn nhw. Byddai colli Max wedi bod yn daith llawer anoddach heb Tŷ Hafan. Mae cael y gefnogaeth honno wrth eich ochr chi wir yn anhygoel.”

“Yn anffodus bydd wastad teuluoedd sydd angen Tŷ Hafan yn y dyfodol ac rydyn ni eisiau iddyn nhw gael y gefnogaeth honno,” meddai Glyn. “Mae Tŷ Hafan yn hosbis – ond dydy hi ddim yn ymwneud â marw yn unig, mae cymaint mwy rydych chi’n ei wneud ac mae Tŷ Hafan yn ei roi i chi. Does neb ei heisiau yn eu bywydau – ond diolch byth ei bod yno.”

Glyn and Max Harding in Ty Hafan's pool

 

Mila, Martina, Glyn and Bow Harding