Cofrestrwch i fod yn Hyrwyddwr Apêl nawr yn www.charityextra.com/whenyourworldstops 

Mae Hosbis Plant Tŷ Hafan yn paratoi ar gyfer apêl codi arian fwyaf y flwyddyn gyda’r nod o godi £350,000 mewn dim ond 60 awr!

Bydd Apêl Pan Fydd Eich Byd yn Stopio yn cynnwys Sara a Jason Morris o Rydaman a’u hefeilliaid Alfi-Jay a Besi-Jane. Yn drasig, yn fuan ar ôl cael ei eni, cafodd Alfi ddiagnosis o’r cyflwr genetig prin Syndrom Marfan Newydd-anedig.

Mae Tŷ Hafan wedi cefnogi’r teulu o pan oedd yr efeilliaid yn naw mis oed, trwy farwolaeth Alfi ychydig cyn ei ail ben-blwydd, ac mae’r gefnogaeth yn parhau hyd heddiw.

“Mae’r gefnogaeth maen nhw wedi’i rhoi i ni wedi bod yn anhygoel. Roedd adegau pan gafodd Alfi ei ruthro i’r ysbyty ac roedd staff Tŷ Hafan yno yn aros amdanom, yn sicrhau bod gennym wely a phopeth yr oedd ei angen arnom. Nhw oedd ein achubiaeth,” meddai Sara.

“Bu farw Alfi yn heddychlon ym mreichiau ei dad ar 1 Mawrth, Dydd Gŵyl Dewi a’n pen-blwydd priodas ni.

“Yn Nhŷ Hafan, does dim rhaid i chi geisio ymddangos fel eich bod chi’n ddewr. Does dim rhaid i chi esgus bod popeth yn iawn, oherwydd mae pob teulu [Tŷ Hafan] yn deall sut rydych chi’n teimlo.”

Bydd yr Apêl Pan fydd Eich Byd yn Stopio yn dechrau am 10am ddydd Sul, 26 Tachwedd ac yn dod i ben am 10pm ddydd Mawrth, 28 Tachwedd. Bydd yr elusen yn cael arian cyfatebol am bob ceiniog y bydd yn ei derbyn o fewn y cyfnod hwnnw o 60 awr sy’n golygu y bydd y symiau y bydd pobl yn eu rhoi yn cael eu dyblu.

Dywedodd John Lowes, Pennaeth Codi Arian Tŷ Hafan: “Ein nod yw codi £350,000 i helpu Tŷ Hafan i barhau i ddarparu gofal a chymorth hanfodol i blant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd yng Nghymru.

“Er mwyn ein helpu ni i wneud hyn, rydyn ni nawr yn recriwtio Hyrwyddwyr Apêl. Mae Hyrwyddwr Apêl yn estyn allan ac yn gofyn i bobl y maen nhw’n eu hadnabod gyfrannu at yr apêl. Gallai hyn fod drwy rwydwaith neu gymuned, cydweithwyr, rhieni yn yr ysgol neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

“Gallwch hefyd gynnal digwyddiad codi arian tuag adeg yr apêl ac ychwanegu eich rhodd at eich tudalen. Bydd yr elusen yn cael arian cyfatebol am bob rhodd i’r apêl, drwy eich cefnogaeth chi, ac felly yn dyblu mewn gwerth.

“Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cofrestru i fod yn Hyrwyddwr Apêl yn barod, oherwydd diolch i bawb sy’n cofrestru, byddwn yn gallu cyrraedd hyd yn oed mwy o bobl a chodi hyd yn oed mwy o arian fel y gallwn barhau i helpu hyd yn oed mwy o deuluoedd fel Sara, Jason, Besi ac Alfi

I fod yn Hyrwyddwr Apêl ewch i: www.charityextra.com/whenyourworldstops