2146739

Rhowch rodd arbennig

I gannoedd o deuluoedd yng Nghymru, mae Tŷ Hafan yn achubiaeth pan nad oes ganddyn nhw neb arall i droi ato. Rydym yn darparu gofal a chefnogaeth arbenigol y mae gwir eu hangen arnyn nhw i ddechrau byw bywyd eto.

Drwy gynnwys rhoddion gwerthfawr yn eich ewyllys i Tŷ Hafan, gallwch sicrhau bod llawer mwy o deuluoedd yn elwa ar ein gwasanaethau sy’n newid bywydau ymhell i’r dyfodol.

Rhowch rodd arbennig

Angen cynyddol am eich cefnogaeth

Eisoes, mae rhoddion mewn ewyllysiau yn gwbl hanfodol i’n gwasanaethau. Maen nhw’n ariannu 25% o’r gofal rydym yn ei ddarparu i blant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywydau 

Ond wrth edrych i’r dyfodol, mae’r rhoddion arbennig hyn yn mynd i ddod yn fwy hanfodol byth i ni a’r teuluoedd rydym yn eu helpu. Mae hynny oherwydd datblygiadau mewn triniaeth a gofal, rydym yn disgwyl i fwy o blant sy’n cael eu geni â chyflwr sy’n byrhau bywyd, neu sy’n datblygu cyflwr o’r fath, fyw’n hirach a bod angen ein cefnogaeth arbenigol.  

Felly, ystyriwch gynnwys rhodd yn eich ewyllys i Tŷ Hafan. Mae wir yn ffordd werth chweil o gefnogi plant a theuluoedd yn ein hosbis, 10, 20, hyd yn oed 50 mlynedd o nawr. 

Stori Ollie

Cyfle i weld sut mae rhoddion mewn ewyllysiau yn helpu Tŷ Hafan i fod yn achubiaeth i deuluoedd fel un Ollie, a sicrhau eu bod nhw’n mwynhau adegau amhrisiadwy gyda’i gilydd. 

Y gwahaniaeth y gall eich rhodd ei wneud

Ar ôl darparu ar gyfer eich anwyliaid, mae amrywiaeth o ffyrdd y gallwch chi ddewis gadael rhodd i elusen yn eich Ewyllys.

Cyfran o’ch ystad

Caiff hon hefyd ei galw’n ‘rhodd weddilliol’ ac mae’n ganran o’ch ystad, sy’n cynnwys unrhyw beth sy’n eiddo i chi. Mae rhodd weddilliol yn golygu bod y swm sy’n cael ei roi i elusen yn cael ei ddiogelu rhag chwyddiant.

Rhodd arian

Caiff hon hefyd ei galw’n ‘rhodd ariannol’ ac mae’n swm penodedig o arian.

Rhodd benodol

Mae hwn yn eitem wedi’i enwi fel tŷ, gemwaith, hen bethau neu gyfranddaliadau.

Gallai 1% o werth cyfartalog ystad dalu am dros ddwy flynedd o’r cyflenwad ocsigen sy’n cael ei ddefnyddio yn yr hosbis.

Gallai 2.5% o werth cyfartalog ystad dalu am got arbenigol wedi’i addasu sy’n cadw plant yn ddiogel ac yn gyfforddus, gan ddarparu ar gyfer peiriannau cymorth anadlu a thiwbiau bwydo.

Gallai 3% o werth cyfartalog yr ystâd dalu am ddiwrnod cyfan o ofal a chymorth meddygol arbenigol yn ein hosbis i sawl teulu.

Gallai 5% o werth cyfartalog ystad dalu am ddiwrnod a hanner o ofal a chymorth meddygol arbenigol yn ein hosbis. Mae hyn yn cynnwys yr holl gyflenwadau meddygol, cyfarpar, staff arbenigol a chostau therapi yn yr hosbis a’r gymuned.

Gallai 10% o werth cyfartalog ystad* dalu am nyrs Tŷ Hafan i roi gofal lliniarol pediatrig arbenigol i deulu am flwyddyn gyfan.

*Yn seiliedig ar werth cyfartalog ystadau yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Smee & Ford Legacy Insight Analysists yn 2023.

Yn ddiweddar, newidiais fy ewyllys ac roedd Tŷ Hafan yn ddewis pendant i’w gynnwys. Rwy’n gwybod bod rhoddion drwy ewyllysiau yn bwysig i elusennau, ac rwy’n falch o allu teimlo y gallaf adael gwaddol i Tŷ Hafan. Daliwch ati i wneud y gwaith gwych!

- Elisabeth Wheeler

Sut i gynnwys rhodd  

Gallwch weld pa mor syml yw cynnwys rhodd yn eich ewyllys i Tŷ Hafan gyda’n canllaw hawdd ei ddilyn. Mae’n sôn am dreth etifeddiaeth a’r mathau o roddion y gallwch eu rhoi. 

Cynnig ewyllys rhad ac am ddim

Gallwch gwrdd wyneb yn wyneb â chyfreithiwr drwy ein partneriaeth gyda’r National Free Wills Network. 

Canllaw i roddion mewn ewyllys

Dechreuwch ddarllen ein canllaw hawdd ei ddilyn heddiw. Mae’n llawn cyngor ac arweiniad defnyddiol. 

Oes gennych gwestiwn?

Rydym wedi ateb llawer o gwestiynau y mae pobl yn eu gofyn yn aml am gynnwys rhodd mewn ewyllys.

 

 

Y gwahaniaeth y gallai eich rhodd ei wneud 

Faint bynnag o rodd y gallwch chi ei roi yn eich ewyllys, bydd yn helpu i wneud bywyd byr yn fywyd llawn. 

How To Leave A Gift