10k, Hanner Marathon a Marathon ABP Casnewydd, Cymru

Marathon cenedlaethol ar gyfer Cymru, ar lwybr cyflym â golygfeydd anhygoel – un o farathonau mwyaf gwastad y DU, gwych i gael amser gorau personol!

Dewiswch bellter eich ras
Newport 10k, Half Marathon and Marathon Ty Hafan

Dyddiad

13fed Ebrill 2025

Lleoliad

Casnewydd

Nawdd

£150, £250 neu £500

Ffi cofrestru

TBC

Bydd Marathon ABP Casnewydd, Cymru yn dychwelyd yn 2024 ddydd Sul 13 Ebrill. Mae’r digwyddiad wedi ehangu i fod yn ŵyl rhedeg gyda dewis o farathon, hanner marathon, 10K a rasys iau.

Dewiswch bellter eich ras

10k

Cofrestrwch eich diddordeb trwy ein ffurflen ar-lein.

Hanner Marathon

Cofrestrwch eich diddordeb trwy ein ffurflen ar-lein.

Marathon

Cofrestrwch eich diddordeb trwy ein ffurflen ar-lein.

Cymerwch ran yn y Ras Hwyl 1 filltir

Amser: 12:45

Beth sydd dan sylw: Ras 1 filltir llawn hwyl i’r teulu cyfan, heb unrhyw bwysau ar osod amseroedd cyflym na rhedeg yr holl ffordd o gwmpas. Croeso i oedolion sy’n dod gyda nhw! (ac yn ofynnol i redeg gyda phob plentyn dan 8 oed)

Beth sydd wedi’i gynnwys: Amser sglodion a medal gorffenwyr.

Mae mynediad am ddim i’r digwyddiad a gofynnwn i chi godi arian.

Cofrestrwch eich diddordeb

Pam rhedeg yng Nghasnewydd?

Mae’r ras boblogaidd yn un o’r ffefrynnau yng nghalendr rhedeg Cymru, gan ei bod yn un o’r cyrsiau marathon mwyaf gwastad yn Ewrop. Mae dros 70% o’r holl rai sy’n ei gorffen wedi cyflawni amser gorau personol ar lwybr sy’n mynd heibio tirnodau eiconig, er enghraifft Pont Gludo y ddinas a golygfeydd trawiadol Gwastadeddau Gwent – a’r pentrefi canoloesol prydferth a’r bywyd gwyllt arfordirol. I’r rhai hynny sy’n awyddus i wella eu hamser dros 26.2 o filltiroedd, mae’r cwrs wedi’i enwi ar restr o’r ‘10 marathon cyflymaf yn y byd’ gan Runners World.

Mae’r rasys 10K a hanner marathon cyflym a llawn hwyl yn rhoi cyfle i redwyr o bob gallu brofi awyrgylch marathon, heb ymrwymo i gyflawni’r pellter heriol o 26.2 o filltiroedd.

Beth am greu eich tudalen Just Giving a dechrau codi arian heddiw ?

 

JustGiving

 

Dechrau codi arian

Dewiswch bellter eich ras

10k

Cofrestrwch eich diddordeb trwy ein ffurflen ar-lein.

Hanner Marathon

Cofrestrwch eich diddordeb trwy ein ffurflen ar-lein.

Marathon

Cofrestrwch eich diddordeb trwy ein ffurflen ar-lein.