Therapi a chymorth chwarae synhwyraidd

Mae ein therapïau a’n gweithwyr gofal proffesiynol yn canolbwyntio ar annog eich plentyn i ddarganfod a datblygu sgiliau, gan bwysleisio yr hyn y mae’n gallu ei wneud nid yr hyn na all ei wneud. 

Drwy dechnegau arbenigol, cyfleusterau amlsynnwyr a thechnoleg, gallwn helpu’ch plentyn i gyfathrebu, cael hwyl ac ymgysylltu â’r byd o gwmpas.  

Therapi a chymorth chwarae synhwyraidd

Ein therapïau

Rydym yn cynnig amrywiaeth o therapïau y gellir eu teilwra i anghenion eich plentyn. Byddwn hefyd yn gwneud yn siŵr bod aelodau o’ch teulu yn cymryd rhan yn y therapïau mewn ffordd sy’n iawn iddyn nhw. 

 

Ffisiotherapi

Bydd ein ffisiotherapydd yn asesu anghenion eich plentyn yn ein hosbis ac yn rhoi arweiniad a chefnogaeth werthfawr i chi a'ch teulu. Byddant yn gweithio'n agos gyda thîm ffisiotherapi cymunedol eich plentyn hefyd.

Therapi galwedigaethol

Trwy weithgareddau, ymarferion a defnyddio offer, gall ein therapydd galwedigaethol helpu i gynyddu annibyniaeth eich plentyn a gwella ei sgiliau echddygol, cydsymud llaw a llygad, lleoli a llawer mwy.

Therapïau cyflenwol

Mewn cartrefi, yn ein hosbis ac yn y gymuned, rydym yn cynnig therapïau cyflenwol i'r plant yn ein gofal ac aelodau o'u teulu. Mae'r rhain yn cynnwys tylino, adweitheg ac aromatherapi.

Therapi cerdd

Rydym yn defnyddio rhinweddau unigryw cerddoriaeth a rhythm i hybu datblygiad eich plentyn a gwella ansawdd ei fywyd. Rydym yn cynnig therapi cerdd yn ein hosbis ac yn y gymuned.

Chwarae arbenigol

Rydym yn defnyddio chwarae arbenigol mewn amryw o amgylchiadau, gan gynnwys paratoi plant ar gyfer triniaethau ysbyty. Rydym yn cynnig y cymorth hwn mewn cartrefi, yn ein hosbis, mewn ysbytai ac yn y gymuned.

Therapi chwarae

Rydym yn darparu therapi chwarae i blant sydd â salwch sy'n byrhau bywyd ac i frodyr a chwiorydd sy'n cael anawsterau ac sydd angen cymorth emosiynol dwys. Yn bennaf rydym yn cynnig y cymorth hwn mewn ysgolion, yn ein hosbis ac mewn lleoliadau cymunedol sy'n briodol.

Hwyl a gweithgareddau

Gall cael hwyl a chwarae arwain at fanteision enfawr i blant ac mae'n wych ar gyfer creu atgofion hefyd. Gallwn hefyd ddarparu cyfleoedd chwarae o fewn y cartref, ac yn yr ysbyty. I blant hŷn, mae gennym ein Den, sydd â pharth gemau ac ystafell sinema.

Technoleg gynorthwyol

Mae gennym amrywiaeth o dechnoleg o'r radd flaenaf sy'n helpu plentyn i gyfathrebu a datblygu mewn sawl ffordd arall. Gall ein technoleg a'n cyfarpar wneud yr amhosibl yn bosibl i blant ag anghenion cymhleth.

Yma i helpu

Os hoffech drafod neu gael mynediad at unrhyw un o’n therapïau, cysylltwch â’n tîm chwarae a therapïau ar 02920 532200 neu drwy playandtherapiesteam@tyhafan.org.

Roedd gweld Jacob yn chwerthin wrth hedfan drwy’r awyr ar siglen yn gwneud i ni sylweddoli cymaint y bu ar ei golled. Roeddem ar bigau’r drain, ond roedd wrth ei fodd.

- Sally

Mae’r pwll hydrotherapi yn cynnig lle perffaith i Rhys ymlacio go iawn. Ry’n ni’n mynd â Carys i nofio yn aml, ond dydyn ni ddim wedi gallu nofio gyda’n gilydd, fel teulu, tan nawr.

- Natalie

Mae Mason wrth ei fodd â therapi cerdd. Mae’n aml yn lleisio ac yn canu pan fydd Diane yn chwarae’r piano neu’r ffliwt. Mae ganddo’r wên fwyaf ar ei wyneb, ac mae wir yn ei helpu i ymlacio.

- Mam-gu Mason

Cymorth emosiynol heddiw

Os hoffech siarad â rhywun ynghylch sut yr ydych chi’n teimlo, gan gynnwys unrhyw ofnau a phryderon y gallech fod yn eu profi, gallwn helpu.  

Mae gennym ymarferwyr cymorth i deuluoedd sydd wedi’u hyfforddi at safon uchel ac sydd â llawer o brofiad o wrando ar rieni plant sydd â salwch sy’n byrhau bywyd.  

Ffoniwch 02920 532200 neu anfonwch neges e-bost; familysupport@tyhafan.org i drefnu sgwrs ag ymarferydd cymorth i deuluoedd heddiw. 

Other ways we support families

Arhosiadau seibiant mewn argyfwng

Efallai y bydd adegau pan fydd anghenion gofal eich plentyn yn fwy cymhleth a beichus neu efallai bod sefyllfa deuluol yn golygu bod angen rhywfaint o gymorth ychwanegol arnoch. Os yw hyn yn wir, fe wnawn ein gorau i gynnig seibiant byr i chi.

Rheoli symptomau

Mae ein gweithwyr gofal proffesiynol yn brofiadol iawn yn rheoli poen a symptomau eraill mae plant a phobl ifanc yn eu profi. 

Ty Hafan - Home Page
Cefnogaeth ymarferol ac eiriolaeth

We can provide you with expert practical support and advocacy to make things simpler and improve your family’s quality of life.  

Cymorth profedigaeth

Rydym yn cynnig cymorth profedigaeth wedi’i deilwra cyhyd â bod ei angen. Rydym ni’n deall bod galar yn wahanol i bawb a gallwn weithio gydag aelodau eich teulu i roi’r cymorth cywir iddyn nhw.Â