Stori Violet

“Roedd Tŷ Hafan yno i ni pan oedd Violet yn marw, roedden nhw yna i ni pan fu hi farw ac maen nhw wedi bod yno i ni bob amser ers hynny.”
Rhowch heddiw

Violet and Family

“Cafodd fy ngŵr James un cwtsh olaf hir gyda hi ac yna cefais i un. Bu farw Violet yn dawel wrth i mi ei magu hi yn fy mreichiau.”

Rhowch heddiw

“Mae curiad calon Violet yn arafu. Bydd yn digwydd cyn hir. Rhowch gwtsh iddi nawr.” Dywedodd Adrian, ein Nyrs, wrthym ni. Cafodd fy ngŵr James un cwtsh olaf hir gyda hi ac yna fe gefais i un. Bu farw Violet yn dawel wrth i mi ei magu yn fy mreichiau.

Violet oedd ein trydydd plentyn a’n merch gyntaf. Tra’r oeddwn i’n feichiog gyda hi, dangosodd sgan rai annormaleddau ond dywedwyd nad oeddynt yn rhai difrifol, a cheisiais beidio â phoeni. Pan gafodd ei geni, dywedwyd wrthym ei bod hi’n iawn ac am y mis cyntaf, fe roedd hi.

Roeddwn i’n bryderus iawn drwy’r amser

Wrth i’r amser fynd heibio, roeddwn i’n teimlo nad oedd hi’n datblygu yn yr un ffordd ag y gwnaeth ei brodyr hŷn. Er gwaethaf nifer o ymweliadau â’r ysbyty, dywedwyd wrthyf yn barhaus ei bod hi’n iawn a chafodd ei hanfon adref, ond roeddwn i’n gwybod yn fy nghalon fod rhywbeth difrifol o’i le.

Roeddwn i’n teimlo’n ofnadwy ac roeddwn i’n bryderus iawn drwy’r amser. Byddwn i’n chwilio ar y we tan oriau mân y bore, eisiau gwybod beth oedd yn digwydd i fy merch fach.

Rhowch heddiw

Y newyddion mwyaf trychinebus

Wyth mis yn ddiweddarach cawsom y newyddion mwyaf trychinebus. Roedd gan Violet anhwylder genetig prin iawn – syndrom TBCK ac y byddai ei bywyd yn fyr.

Roeddwn i wedi fy syfrdanu. Oedd, roedd hi’n sâl yn aml, ond roedd hi mor fodlon, ni fyddech yn credu bod unrhyw beth o’i le arni.

Roeddd Violet yn caru ei brodyr mawr Theo, 7 oed a Logan, 5 oed, ac roedden nhw’n dotio arni hi. Bydd pobl feddygol bob amser yn sôn am yr hyn na allai Violet ei wneud, ond doedd y bechgyn ddim yn gweld salwch – iddyn nhw roedd hi’n berffaith, yn union fel yr oedd hi. Dywedwyd wrthym na fyddai hi byth yn cerdded nac yn siarad, ond doedden nhw ddim yn poeni, Violet oedd hi iddyn nhw.

Rhowch Heddiw

Dim mwy o boen, dim mwy o ymladd, dim ond heddwch ac amser gwerthfawr gyda’n gilydd

Roedd Violet yn 11 mis oed pan ddaethon ni i Tŷ Hafan ar gyfer ei gofal diwedd oes. Roedd hi wedi bod yn yr ysbyty ers misoedd, felly roedd gallu mynd â hi tu allan yn yr awyr iach, gyda’r haul ar ei hwyneb a synau’r tonnau yn atgof mor werthfawr. Dywedodd Violet wrthym yn ei ffordd ei hun mai dyma lle roedd hi eisiau bod. Fe wnaeth hi bwffian chwerthin am y tro cyntaf ers misoedd ac roedd ei gwên yn gyson. Doedd dim mwy o boen, dim mwy o ymladd, dim ond heddwch ac amser gwerthfawr gyda’n gilydd. Does dim geiriau i gyfleu beth mae hynny’n ei olygu i ni.

Roedd Tŷ Hafan yno i ni pan oedd Violet yn marw, roedden nhw yno i ni pan fu farw ac maen nhw wedi bod yno i ni ers hynny. Dyna sydd ei angen ar bob rhiant pan fydd yn colli plentyn ac mae fy nghalon yn torri o wybod nad yw pob teulu yn cael hynny.

Rhowch Heddiw

Clywch gan deuluoedd eraill

Yn rhan o’n hymgyrch, rydym yn falch o rannu straeon o’r galon gan dri teulu anhygoel sydd wedi’u heffeithio gan gefnogaeth Tŷ Hafan. Mae pob stori yn fodd pwerus o atgoffa o rôl allweddol eich cyfraniadau wrth roi gofal a chefnogaeth i deuluoedd fel y rhain.

Rhowch heddiw

Clywch gan deuluoedd eraill

Yn rhan o’n hymgyrch, rydym yn falch o rannu straeon o’r galon gan dri teulu anhygoel sydd wedi’u heffeithio gan gefnogaeth Tŷ Hafan. Mae pob stori yn fodd pwerus o atgoffa o rôl allweddol eich cyfraniadau wrth roi gofal a chefnogaeth i deuluoedd fel y rhain.

Stori Fynley

I ddechrau, doeddwn i ddim eisiau mynd yno, roeddem ni’n meddwl mai rhywle yr oedd plant yn mynd i farw ydoedd, ond roeddem ni’n gwbl anghywir. Pan aethom ni yno i edrych o gwmpas, cefais fy syfrdanu. Doedd e ddim yn drist nac yn morbid; mae’n lle hyfryd. Yr adegau y casom ni gyda’n gilydd yn Tŷ Hafan oedd y mwyaf gwerthfawr. Rwy’n trysori’r atgofion hynny.

Stori Winnie

Roedd ein profiad ni yn Tŷ Hafan yn anhygoel. Gadawom yr hosbis ar ôl i Winnie farw yn teimlo’n ysgafnach, ond roedd ein bywydau wedi troi ar yn ôl a doeddem ni ddim yn gallu gweld y llwybr o’n blaenau. Ond beth bynnag fydd ein llwybr o hyn ymlaen, rydyn ni wedi cael ein cefnogi, ac yn dal i gael ein cefnogi, gan Tŷ Hafan ar y llwybr hwn.

Stori Zach

Roedd Tŷ Hafan yn dawel ac yn heddychlon, felly dyna ble y treuliodd  Zach ei ddiwrnodau olaf. Roedd yn ôl mewn amgylchedd digyffro heb yr holl archwiliadau, profion a nodwyddau parhaus. Cafodd le i ymlacio.