Heddiw, mae Tywysoges Cymru wedi dod yn Noddwr Hosbis Plant Tŷ Hafan, yr hosbis plant gyntaf yng Nghymru.

Mae Tŷ Hafan yn darparu gofal a chymorth am ddim i blant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd, yn yr hosbis ac mewn cartrefi a chymunedau yng Nghymru. Mae Tŷ Hafan yn cynnig achubiaeth hollbwysig drwy gydol bywyd plentyn, yn ogystal ag ar ddiwedd oes – drwy brofedigaeth a thu hwnt.

Wrth wraidd Tŷ Hafan mae ymrwymiad i ddarparu cefnogaeth gyfannol, gan ganolbwyntio ar anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol ac ysbrydol y plant sy’n cael gofal a’u teuluoedd. Mae’r sefydliad hefyd yn canolbwyntio ar feithrin cysylltiadau, gan greu teimlad o gymuned sy’n sicrhau bod plant a theuluoedd yn teimlo eu bod yn cael mwy o gefnogaeth drwy eu profiadau cyffredin.

Daw’r cyhoeddiad wrth i’r Dywysoges ymweld â hosbis Tŷ Hafan yn Sili, ger Caerdydd yn ne Cymru, lle treuliodd amser gyda phlant, teuluoedd a staff.

Dywedodd Irfon Rees, Prif Weithredwr Tŷ Hafan:

“Mae’n anrhydedd mawr i ni fod Ei Huchelder Brenhinol Tywysoges Cymru bellach yn Noddwr Tŷ Hafan ac roedd yn bleser llwyr ei chroesawu i’n hosbis am y tro cyntaf heddiw. Fel ein Noddwr, bydd Ei Huchelder Brenhinol yn ysbrydoliaeth i blant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd, ein staff a’n gwirfoddolwyr ymroddedig a phawb sydd mor hael yn ein cefnogi. Nid oes unrhyw riant byth yn dychmygu y bydd bywyd ei blentyn yn fyr. Yn anffodus, dyma’r realiti sy’n wynebu miloedd o deuluoedd yng Nghymru. Allwn ni ddim atal hyn rhag digwydd, ond gyda’n gilydd gallwn ni wneud yn siŵr nad oes neb yn byw bywyd byr ei blentyn ar ei ben ei hun.”

Mae llesiant plant a’u teuluoedd bob amser wedi bod yn agos at galon y Dywysoges. Y nawdd cyntaf yr ymgymerodd Ei Huchelder Brenhinol ag ef pan ddaeth yn Aelod o’r

Teulu Brenhinol oedd EACH (East Anglia’s Children’s Hospice) ac mae hi’n cynnal perthynas agos â’r sefydliad hyd heddiw. Mae’r Dywysoges yn edrych ymlaen at greu perthynas debyg gyda Tŷ Hafan a’r plant a’r teuluoedd y mae’n eu gwasanaethu yng Nghymru.