Cynnal te parti Tŷ Hafan
Beth am gymryd rhan yn ymgyrch Te i Tŷ Hafan fis Mehefin!
Gall eich te parti fod yn syml neu yn ogoneddus a bydd faint bynnag y byddwch yn ei godi – bach neu fawr – yn mynd yn uniongyrchol i gefnogi plant yng Nghymru sydd â chyflyrau sy’n byrhau eu bywydau.
Chi sy’n dewis y lleoliad. Dyma rai syniadau rydym ni’n hoff ohonynt:
- Eich cartref neu eich gardd
- Eich stryd
- Eich neuadd bentref
- Eich ysgol, coleg neu brifysgol
- Eich man gwaith.
Pan fyddwch yn cofrestru, byddwn yn anfon pecyn te parti atoch yn y post yn llawn nwyddau Tŷ Hafan i chi a’ch gwesteion.
Os na fedrwch gynnal eich te parti ym mis Mehefin, peidiwch â phoeni! Rhowch wybod i ni pryd yr hoffech ei gynnal, ac fe wnawn ni yn siŵr bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch i wneud eich parti yn llwyddiant.
Cofrestrwch heddiw i gael eich pecyn te parti