Gwneud atgyfeiriad

Gall unrhyw un atgyfeirio plentyn neu berson ifanc â salwch sy’n byrhau bywyd i Tŷ Hafan, gan gynnwys gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, gweithwr gofal cymdeithasol, rhiant neu aelod arall o’r teulu.

Ond mae’n rhaid i riant neu warcheidwad y plentyn roi ei ganiatâd, a phan fo hynny’n bosibl, mae’n bwysig cael caniatâd y plentyn neu’r person ifanc hefyd.

 

 

Gwneud atgyfeiriad

Atgyfeiriad rheolaidd

Gellir atgyfeirio plant a phobl ifanc ag ystod eang o gyflyrau atom, ni waeth pryd cawsant ddiagnosis na faint y mae’r cyflwr wedi datblygu.  

Ar ôl i ni gael atgyfeiriad, bydd ein panel o uwch-swyddogion proffesiynol yn Tŷ Hafan yn penderfynu a allwn dderbyn plentyn.  

Yn bennaf, bydd angen iddynt wybod y canlynol: 

  • Bydd bywyd y plentyn yn cael ei fyrhau gan ei gyflwr, neu glwstwr o symptomau, ac nad oes gobaith rhesymol o wella.  
  • Mae posibilrwydd cryf y bydd y plentyn yn marw cyn iddo droi’n 18 oed. 

Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi y gallwn hefyd dderbyn plant a phobl ifanc ag anghenion iechyd cymhleth a achosir gan gyflwr heb ddiagnosis.  

Cysylltwch â ni

Os hoffech wneud atgyfeiriad rheolaidd neu os hoffech holi cwestiwn, cysylltwch â’n nyrsys clinigol arbenigol drwy e-bostio clinicalnursespecialists@tyhafan.org neu ffonio 02920 532200. Maent ar gael rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. 

Hefyd, os ydych yn ansicr a yw eich plentyn yn bodloni ein meini prawf, defnyddiwch yr un manylion cyswllt. Rydym yn fodlon trafod achosion cyn atgyfeirio, ac yn cefnogi trafodaethau cychwynnol am Tŷ Hafan gyda theuluoedd. 

Atgyfeiriad brys  

Mewn rhai amgylchiadau, gallwn ddarparu gofal brys i faban, plentyn neu berson ifanc â salwch sy’n byrhau bywyd er mwyn sicrhau ei fod yn cael y cymorth sydd ei angen yn gyflym.  

Mae hyn yn digwydd yn aml pan fydd plentyn yn nesáu at ddiwedd ei oes neu pan fydd mater sy’n effeithio ar iechyd plentyn wedi datblygu’n gyflym. 

Os hoffech wneud atgyfeiriad brys, cysylltwch â’n hosbis ar unrhyw adeg drwy ffonio 029 2053 2200 gan nodi’n glir eich bod yn galw am atgyfeiriad brys. 

Yna, bydd ein nyrsys clinigol arbenigol yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl i ddeall anghenion y plentyn a sicrhau ei fod yn cael ei dderbyn yn gyflym. 

Gofal i blant

Rydym yn darparu gofal rhagorol i blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd, i ddiwallu eu hanghenion unigol a’u helpu i gael ansawdd bywyd da. Darperir y gofal hanfodol hwn yn ein hosbis gynnes a chroesawgar, mewn cymunedau ledled Cymru, mewn cartrefi teuluol ac ysbytai lleol. 

Cymorth i deuluoedd

Gwyddom y gall gofalu am blentyn â salwch sy’n byrhau bywyd fod yn anodd iawn i rieni, brodyr a chwiorydd ac aelodau eraill o’r teulu. Ond, nid yw teuluoedd yng Nghymru ar eu pen eu hunain. Rydym yn cynnig cymorth emosiynol ac ymarferol hanfodol i leddfu pryderon a gwneud bywyd yn well.