Trefnu eich digwyddiad eich hun 

Mae rhywbeth arbennig am drefnu digwyddiad codi arian i TÅ· Hafan.

Yn ogystal â chodi arian ar gyfer ein gwasanaethau hollbwysig, gallwch ddatblygu sgiliau newydd, cwrdd pobl fydd yn eich ysbrydoli a theimlo boddhad mawr o fod wedi cyflawni rhywbeth anhygoel.    

Trefnu eich digwyddiad eich hun

Ydych chi’n gwybod yn barod beth yw eich digwyddiad codi arian?

Defnyddiwch y  ffurflen ar waelod y dudalen i ddweud wrthym amdano.

See form

Digwyddiadau sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol 

Dyma restr o ddigwyddiadau y mae pobl wedi’u trefnu yn y gorffennol i godi arian i Tŷ Hafan. Ond mae croeso i chi fod yn greadigol a gwneud rhywbeth cwbl wahanol.  

Digwyddiadau epig 

  • Naid parasiwt 
  • Her Gwifren Wib 
  • Dawnsio 
  • Ceisio torri record y byd 
  • Nofio yn y môr 

Digwyddiadau chwaraeon 

  • Diwrnod golff 
  • Gêm rygbi 
  • Twrnamaint pêl-droed 
  • Ras hwyl 
  • Mabolgampau 

Digwyddiadau cymunedol 

  • Marchnadoedd tymhorol 
  • Sêl cist car 
  • Noson cwis 
  • Bore coffi 
  • Gwerthu cacennau 

Digwyddiadau rhithiol 

  • Marathon gemau 
  • Ocsiwn rithiol 
  • Ffrydio tiwtorial 
  • Cyngerdd ar-lein 
  • Her ffitrwydd gartref 

Digwyddiadau syml 

  • Noson ffilmiau 
  • Noswaith bampro 
  • Golchi ceir 
  • Eillio pen 
  • Sêl cist car 

Digwyddiadau i’r teulu 

  • Noswaith gemau bwrdd 
  • Coginio pryd bwyd  
  • Cystadleuaeth Carioci 
  • Her ddarllen 
  • Helfa wyau Pasg 
Trefnu eich digwyddiad eich hun

Sut i godi cymaint o arian a phosibl  

Yn Tŷ Hafan, rydym wedi dysgu llawer dros y blynyddoedd am sut i wneud codi arian yn llwyddiant mawr.  

Rydym eisiau i bawb sy’n codi arian i ni elwa ar ein holl arbenigedd. Felly rydym wedi nodi ein pum awgrym gorau ar gyfer codi cymaint o arian â phosibl.  

Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol

fel Facebook, i ledaenu’r wybodaeth am eich digwyddiad.

Creu tudalen rhoi ar-lein

sy’n ei gwneud yn hawdd i bobl eich cefnogi.

Gofyn am rai o ddeunyddiau hyrwyddo TÅ· Hafan

a’u defnyddio yn eich cymuned.

Cysylltu a’ch cyfryngau lleol

a dweud wrthynt eich bod yn codi arian.

Gofyn i’ch cyflogwr am eu polisi arian cyfatebol

i ddyblu eich cyfanswm.

Eich cefnogi chi  

Os ydych yn hen law ar godi arian neu’n ystyried trefnu eich digwyddiad cyntaf, mae ein tîm codi arian arbenigol yma i’ch helpu. 

Gallant ateb eich holl gwestiynau, rhoi hwb i chi pan fydd ei angen, a gwneud codi arian i Tŷ Hafan yn llawer haws. 

Cysylltwch â nhw ar supportercare@tyhafan.org neu ar 029 2053 2255. Bydden nhw’n dwlu clywed gennych chi.

organise-your-own-event

Adnoddau am ddim i chi

Rydym wedi creu canllaw codi arian gwych sy’n berffaith ar eich cyfer chi. Mae’n llawn cyngor gwych, awgrymiadau ymarferol a syniadau codi arian.   

Mae gennym hefyd bosteri, sticeri, balŵns a deunydd hyrwyddo arall gwych y gallwch eu cael am ddim. Maent yn berffaith ar gyfer denu sylw at eich digwyddiad codi arian a’i wneud yn llwyddiant mawr.  

donate-in-memory

Derbyn rhoddion ar-lein

Mae creu eich tudalen codi arian eich hun ar-lein drwy wefan fel JustGiving yn ffordd wych o godi ymwybyddiaeth am eich ymdrechion codi arian a dweud pam eich bod yn cefnogi Tŷ Hafan. 

Yn bwysig, mae hefyd yn rhoi ffordd hawdd i deulu, ffrindiau a chydweithwyr roi arian. Ond gan fod cymaint o bobl yn codi arian ar gyfer cymaint o wahanol elusennau y dyddiau hyn, cofiwch wneud eich tudalen yn drawiadol a rhowch eich stori bersonol, lluniau a’r newyddion diweddaraf yn rheolaidd. 

    Manylion y digwyddiad

    Your name
    Your email address
    Tell us what you intend to do
    Your event's name
    Date of your event
    Event finish date(optional)
    How much is your group aiming to raise? (optional)
    Why are you raising money for TÅ· Hafan?
    Further information (optional)


    Please tick here to confirm that you are aged 18 or over. If you are under 18, please contact our Supporter Care team on 029 2053 2255 to register your event.