Gwnaed â Llaw gan Tŷ Hafan

Mae’r prosiect Gwnaed â Llaw yn uwchgylchu rhoddion ail law i greu anrhegion a chrefftau sydd ar werth ar-lein ac yn ein siopau dros dro.

Mae hyn yn golygu bob tro y byddwch yn prynu eitem Gwnaed â Llaw, byddwch yn cael eitem unigryw ac yn helpu i wneud bywyd byr yn fywyd llawn.

Gwnaed â Llaw gan Tŷ Hafan

Prynu cynhyrchion Gwnaed â Llaw

Drwy gydol y flwyddyn, mae ein gwirfoddolwyr Gwnaed â Llaw yn ailwampio dodrefn, bagiau, sgarffiau, rhoddion i anifeiliaid anwes, rhoddion tymhorol a llawer mwy o eitemau ymarferol ac addurnol.

Os ydych chi’n chwilio am rywbeth sy’n gwbl unigryw i chi eich hun, eich cartref neu rywun annwyl, ewch draw i’n siop ar-lein neu ein siop Etsy i weld ein casgliad. Cewch chi ddim eich siomi!

Ewch i’n siop Gwnaed â Llaw

Mae’r cynnyrch hardd sydd i’w weld yn y siop hon wedi’u gwneud â llaw yn gariadus gan staff a gwirfoddolwyr Tŷ Hafan, yr hosbis i blant yng Nghymru.

Tŷ Hafan - Etsy

Ewch i’n siop Gwnaed â Llaw

Mae ein heitemau hardd wedi’u gwneud â llaw hefyd ar gael ar ein siop ar-lein. Pob un wedi ei greu gan ein tîm gwych o wirfoddolwyr.

Siop
Gwnaed â Llaw gan Tŷ Hafan

Ymunwch â’n tîm Gwnaed â Llaw

Rydym bob amser yn chwilio am grefftwyr newydd a phrofiadol i ymuno â ni yn ein gweithdy cynhyrchion Gwnaed â Llaw, ac i fod yn greadigol i gefnogi ein gwaith sy’n newid bywydau.

Ar dir hardd ein hosbis, mae’r gweithdy yn lle arbennig lle gallwch ddatblygu a rhannu eich sgiliau, cwrdd â ffrindiau newydd ac ymlacio mewn lleoliad cyfeillgar.

I wybod mwy, ffoniwch Penny Collins, rheolwr prosiect Gwnaed â Llaw, ar 07787 296294 neu e-bostiwch penny.collins@tyhafan.org.

Rydym yn croesawu ymholiadau gan grwpiau a busnesau, yn ogystal ag unigolion, sy’n chwilio am brofiad gwirfoddoli gwerthfawr sydd o ddifrif yn helpu i drawsnewid bywydau.

Cymeradwyaeth gan rai o’n gwirfoddolwyr Gwnaed â Llaw

“Cawsom ddiwrnod gwych yn y gweithdy cynhyrchion Gwnaed â Llaw. Fel mam mewn profedigaeth, rwy’n dal i deimlo’n rhan fawr o Tŷ Hafan ac yn edrych ymlaen at y tro nesaf.”

“Diolch yn fawr am wneud i mi deimlo’n ddefnyddiol ac yn rhan o grŵp. Gwnes i fwynhau’r prynhawn yn fawr.”

“Roeddem wrth ein bodd i fod yn rhan ohono ac yn gwybod ein bod yn cyfrannu at Tŷ Hafan, ac yn newid bywydau plant a theuluoedd. Gadawon ni gan deimlo’n greadigol, wedi’n hysbrydoli ac wedi ymlacio. Roedd yn ddiwrnod gwych i ffwrdd o’r swyddfa.”

“Cefais lawer o hwyl. Roedd yn therapiwtig iawn. Rhoddodd y gweithdy amser i mi ymlacio a theimlo fy mod yn cyfrannu. Hir oes i hynny.”

“Cysyniad gwych. Dwi’n hoff iawn o agwedd therapiwtig y gweithdy Gwnaed â Llaw, a’r cyfle y mae’n ei roi i chi gwrdd â gwirfoddolwyr a staff eraill yn Tŷ Hafan. Diolch yn fawr.”

“Diwrnod hyfryd arall wedi’i dreulio yn yr ystafell grefftau. Mae hi bob amser yn bleser dod i mewn.”

“Cefais hwyl yn ystod y prynhawn crefft. Roedd yn dda gweithio gyda phobl eraill a gwneud rhywbeth i gyfrannu at yr elusen mewn ffordd wahanol.”