Dewch i siopa gyda TÅ· Hafan

Rydym yn ymfalchïo mewn cynnig amrywiaeth eang o eitemau newydd ac ail-law o safon i chi, yn ein siopau lleol ac ar-lein. 

A’r peth gwirioneddol wych yw, bod bob tro y byddwch yn prynu eitem, byddwch yn ein helpu i gyrraedd a chefnogi hyd yn oed mwy o blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd yng Nghymru. 

Siop

Dewch o hyd i’r siop Tŷ Hafan agosaf

Ydych chi’n chwilio am eitem ail-law hyfryd? Dilledyn newydd efallai, rhywbeth ar gyfer eich cartref neu anrheg unigryw? 

Defnyddiwch ein hadnodd chwilio i ddod o hyd i’r siop Tŷ Hafan agosaf. Mae gennym 18 o siopau ledled de a gorllewin Cymru, a phob un ohonynt yn llawn amrywiaeth eang o eitemau o ansawdd.  

Bargeinion anhygoel y ffordd hyn!

Dewch i siopa gyda ni ar-lein

O gysur eich cartref eich hun, gallwch brynu ystod eang o eitemau gwych i chi’ch hun, eich anwyliaid a hyd yn oed eich anifeiliaid anwes.

O ddillad ac ategolion i nwyddau cartref a nwyddau wedi’u gwneud â llaw, mae gennym ni i gyd a llawer mwy.

Siopa gyda ni ar-lein

Ffyrdd o siopa ar-lein

Mae llawer o ffyrdd i’n cefnogi trwy ein siop ar-lein. Edrychwch ar dri o’n dewisiadau siopa ar-lein yma.

Dewch i Siopa gyda ni ar-lein

Yn ein siop ar-lein, mae casgliad gwych o eitemau ar gael sy’n helpu i gefnogi ein gwasanaethau sy’n newid bywydau. Mae’r rhain yn cynnwys cardiau cyfarch, anrhegion gwledd priodas a nwyddau Tŷ Hafan.

Gwnaed â Llaw gan Tŷ Hafan

Dewch i’n siop i bori drwy ein heitemau wedi’u hailwampio a’n cynhyrchion sydd newydd gael eu creu. Mae digonedd o fargeinion ar gael! 

Anrhegion Gofalgar

Rhowch rhodd ysbrydoledig a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau’r plant gwych rydym yn eu cefnogi

Cefnogwch ni heddiw, cyfrannwch nawr.

Drwy roi anrheg werthfawr heddiw, gallwch helpu i ddarparu gofal a chymorth arbenigol y mae teuluoedd eu hangen ar frys ar hyn o bryd.

£10 £40 £60
G Pay logo visa logo visa logo

Ffyrdd eraill o gefnogi ein gwaith hanfodol 

Codi arian hanfodol

Trefnwch eich digwyddiad eich hun neu rhowch gynnig ar un o’n heriau. Beth bynnag y byddwch yn dewis ei wneud, byddwn yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd.

Beth am chwarae ein loteri!

Mae ein loteri Crackerjackpot yn rhoi cyfle i chi ennill 81 o wobrau wythnosol ac ennill hyd at £12,000, sy’n swm enfawr. 

Beth am fod yn arwr gwirfoddoli!

Yn ogystal â gweithio mewn siop TÅ· Hafan, gallwch wirfoddoli yn ein hosbis neu yn y brif swyddfa, neu helpu gyda’n gwaith yn eich cymuned leol.