Sut ydym ni’n ariannu ein gofal hanfodol

Bob blwyddyn mae’n costio dros £6 miliwn i ni ddarparu ein gofal a chymorth arbenigol i blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd.

Rydym yn dibynnu ar haelioni ein cefnogwyr a’n codwyr arian am dros 85% o’r cyllid hwn oherwydd dim ond 12.4% o’n cyllid sy’n dod o ffynonellau statudol.

Ein Cyllid

Ein gofal mewn niferoedd 

369 o blant

Yn 2024 fe wnaethom gefnogi 369 o blant a’u teuluoedd a mwy na 400 o deuluoedd mewn profedigaeth.

1 o bob 10 o blant

Dim ond 1 o bob 10 plentyn â chyflwr sy’n byrhau bywyd yng Nghymru sy’n cael eu cefnogi gan Hosbis Plant.

12.4%

Dim ond 12.4% o’n cyllid a gawn o Ffynonellau Statudol.

Ein hincwm

Trwy gydol y flwyddyn, rydym yn creu ac yn derbyn arian mewn sawl ffordd:

Ein hincwm

Codi arian gan unigolion, ysgolion, eglwysi, grwpiau cymunedol a busnesau

Rhoddion

Rhoddion untro, rheolaidd a misol gan unigolion

Anrhegion

Rhoddion mawr gan ddyngarwyr, ymddiriedolaethau a sefydliadau

Ein siopau

Gwerthu eitemau wedi eu rhoi yn ein 19 o siopau elusen

Handcrafted

Gwerthu eitemau wedi’u huwchgylchu a chynhyrchion newydd fel rhan o’n prosiect Gwnaed â Llaw

Digwyddiadau

Ein digwyddiadau codi arian

Crackerjackpot

Ein loteri Crackerjackpot, sydd â mwy na 27,000 o aelodau ac sy’n tyfu

Rhodd yn ewyllys

Cefnogwyr yn gadael rhoddion yn eu hewyllysiau i TÅ· Hafan

Bwrdd Iechyd Lleol

Cyllid gofynnol gan fyrddau iechyd lleol

our-story

Ein stori

Dysgwch am wreiddiau Tŷ Hafan, a’n cysylltiad â’r Dywysoges Diana a sut mae ein helusen a’n gwasanaethau wedi parhau i ddatblygu ers i ni agor yn 1999.

Sut yr ydym yn helpu

Yn Tŷ Hafan, rydym yn darparu ystod eang o wasanaethau i blant a phobl ifanc sydd â chyflyrau sy’n byrhau eu bywydau a’u hanwyliaid.