Ein gwaith gyda gwleidyddion a phobl sy’n gwneud penderfyniadau

our-political-work

Mae Tŷ Hafan yn dod â llais plant a phobl ifanc sydd â chyflyrau sy’n byrhau eu bywydau a’u teuluoedd i Lywodraeth Cymru, aelodau’r Senedd a phobl eraill allweddol sy’n gwneud penderfyniadau.  

Ein nod yw tynnu sylw at y trafferthion sylweddol y maent yn eu hwynebu bob dydd a’r angen am weithredu lleol a chenedlaethol, er mwyn iddynt allu cael yr holl gymorth a’r gefnogaeth y mae eu hangen arnynt, heddiw ac yn hir i’r dyfodol.

Sut ydym ni’n cefnogi Aelodau’r Senedd

Mae ein tîm Materion Cyhoeddus yn cefnogi ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Aelodau’r Senedd a phobl eraill allweddol sy’n gwneud penderfyniadau i wneud yn siŵr  bod rhagor o blant sydd â chyflyrau sy’n byrhau eu bywydau a’u hanwyliaid yn cael y gofal a’r gefnogaeth arbenigol y mae eu hangen arnynt. 

Os ydych chi’n AS neu’n unigolyn sy’n gwneud penderfyniadau allweddol yng Nghymru sydd â diddordeb yn ein gwaith sy’n newid bywydau, gallwn eich helpu drwy wneud y canlynol:

rhoi briff manwl i chi am ein gwaith

trefnu ymweliadau â’n hosbis

trefnu ymweliadau â gwasanaethau Tŷ Hafan yn eich etholaeth neu ardal leol

rhoi cyngor ar waith achos etholaeth perthnasol

darparu astudiaethau achos, briffiau ac ystadegau ar gyfer dadleuon ac areithiau.

I gael mwy o wybodaeth am sut y gallwn weithio gyda chi, cysylltwch â Matt Greenough, Public Affairs Consultant, matthew.greenough@tyhafan.org.

Gwaith Gwleidyddol

Llwyddiant diweddar  

Sicrhau cyllid statudol ychwanegol

Ym mis Ionawr 2022, roeddem wrth ein boddau bod Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi y byddai Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith (yr hosbis blant yn y gogledd) yn derbyn £440,000 yr un mewn cyllid statudol ychwanegol bob blwyddyn, am o leiaf cyfnod y Chweched Senedd. 

Roedd y cam cyntaf cadarnhaol hwn tuag at ddatrysiad ariannu mwy cynaliadwy ar gyfer y ddwy hosbis yn bennaf yn sgil cyhoeddi ein adroddiad Lleisiau ein Teuluoedd yn 2020.  

Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth gefnogi’r ymgyrch hon. Bydd y cyllid ychwanegol y gwnaethoch chi helpu i’w gael yn rhoi llawer iawn mwy o sicrwydd ariannol i ni ac yn ein helpu i wneud hyd yn oed yn fwy i’r plant a’r teuluoedd yr ydym yn gofalu amdanynt.  

Rydym yn edrych ymlaen yn awr at barhau i weithio gyda’r Senedd i sicrhau bod gan Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith ran ganolog yn y gwaith o ddatblygu llwybr gofal diwedd oes sydd 100% yn iawn ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. 

Michael Sheen meets Seth – TyÌ‚ Hafan’s first member of the Welsh Youth Parliament

Adnoddau defnyddiol 

Gallwch ddarllen neu lawrlwytho ystod o adnoddau Tŷ Hafan i ddysgu mwy am ein gwasanaethau hollbwysig a’r gwahaniaeth yr ydym yn ei wneud i gannoedd o fywydau bob blwyddyn. 

Briff TÅ· Hafan a TÅ· Gobaith: Cronfa Achubiaeth i Gymru

Yn dilyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021, cynyddodd TÅ· Hafan a TÅ· Gobaith eu hymdrechion i eirioli dros gynnydd mewn cyllid statudol. (…)

Darllen yr adroddiad

Briff TÅ· Hafan a TÅ· Gobaith: Cronfa Achubiaeth i Gymru

Yn dilyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021, cynyddodd TÅ· Hafan a TÅ· Gobaith eu hymdrechion i eirioli dros gynnydd mewn cyllid statudol. (…)

Darllen y ddogfen friffio

Briff TÅ· Hafan a TÅ· Gobaith: Cefnogi Teuluoedd Plentyn mewn Profedigaeth

Mae ein dogfen friffio, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2021, yn rhoi golwg gyffredinol ar wasanaethau profedigaeth TÅ· Hafan (…)

Darllen y ddogfen friffio

Briff TÅ· Hafan a TÅ· Gobaith: Cefnogi Mynediad i Wasanaethau Seibiant Byr yng Nghymru, Ebrill 2022

Datgelodd ein hadroddiad Lleisiau ein Teuluoedd bod tua hanner y teuluoedd yr ydym yn eu cefnogi eisiau mwy (…)

Darllen y ddogfen friffio

Dogfennau briffio Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith – Wythnos Hosbisau Plant 2022, Mehefin 2022

I nodi Wythnos Hosbisau Plant 2022, cynhaliodd TÅ· Hafan a TÅ· Gobaith ddigwyddiad arbennig yn y Senedd. (…)

Darllen y ddogfen