Cyflwynir pob cais trwy ein tudalen we gyrfaoedd gan ddefnyddio’r botwm ‘ymgeisio nawr’ ar hysbyseb y swydd wag. Bydd yr hysbyseb yn cynnwys swydd ddisgrifiad a manyleb person, gan fanylu ar y rôl a gofynion ymgeiswyr.  

Ar ôl i’r swydd wag gau, bydd pob cais yn cael ei adolygu a’i sgorio gan ddefnyddio meini prawf y fanyleb person.  Rydym yn defnyddio techneg o’r enw ‘rhestr fer ddall’ i sicrhau nad ydym yn gwneud unrhyw ragdybiaethau nac yn ffurfio unrhyw duedd anymwybodol ynghylch ceisiadau. 

Ar ôl cyrraedd y rhestr fer, byddwn mewn cysylltiad i roi gwybod i chi os ydych chi wedi bod yn llwyddiannus neu beidio o ran cael cyfweliad. Fel arfer byddwn yn cysylltu gyda chi drwy e-bost.