Rhoi o’r gyflogres 

Mae Rhoi o’r Gyflogres yn ffordd syml, di-dreth o roi rhoddion rheolaidd i helpu i weddnewid bywydau plant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd.  

Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw cofrestru ar y cynllun a bydd eich rhodd fisol yn cael ei hanfon yn uniongyrchol i Tŷ Hafan o’ch cyflog.  

Rhoi o’r gyflogres

Sut mae rhoi o’r gyflogres yn gweithio?

Mae Rhoi o’r Gyflogres (a elwir hefyd yn Rhoi wrth Ennill a rhoi gweithle) yn gynllun a weithredir gan eich cyflogwr. Mae’n caniatáu i chi roi rhoddion rheolaidd i elusen fel Tŷ Hafan, trwy eich cyflog.

Mae’n ffordd boblogaidd o roi oherwydd mae eich roddion yn cael eich tynnu o’ch cyflog cyn i chi dalu treth gan ei gwneud yn effeithlon iawn o ran treth.

Er enghraifft, os ydych chi’n talu cyfradd dreth incwm sylfaenol o 20% ac yn addo rhoi £10, dim ond £8 fydd yn cael ei didynnu o’ch cyflog net (h.y. eich cyflog net ar ôl tynnu trethi ac unrhyw ddidyniadau eraill).  

Os ydych yn talu’r gyfradd dreth incwm uchel sef 40% ac yn addo rhoi £10, dim ond £6 a gaiff ei ddidynnu o’ch cyflog net. 

£10

Swm y byddwch yn ei roi i Tŷ Hafan bob diwrnod cyflog

£8

Cost i drethdalwr ar y gyfradd sylfaenol 20% 

£6

Cost i drethdalwr 40%

£5.50

Cost i drethdalwr 45%  

Sut ydw i’n cofrestru ar gyfer Rhoi o’r Gyflogres?

Os hoffech fwy o wybodaeth am Roi o’r Gyflogres a sut i gofrestru, cysylltwch â Lisa Williams ar 029 2053 2283 neu e-bost lisa.williams@tyhafan.org 

Gallwch hefyd gysylltu â Lisa os ydych chi’n sefydliad sy’n ystyried sefydlu cynllun Rhoi o’r Gyflogres ac yn dymuno cefnogi Tŷ Hafan. 

Beth yw’r buddion i mi?

Mae’n hynod o syml

Mae Rhoi o’r Gyflogres yn hawdd i’w sefydlu a chaiff eich rhodd ei dynnu’n awtomatig bob mis. 

Talu llai i roi mwy

Dyma’r unig ffordd o roi sy’n rhoi rhyddhad treth llawn ar yr holl roddion. 

Rydych chi’n newid bywydau

Mae eich rhoddion yn rhoi cymorth ddibynadwy i ni a ddefnyddir i ariannu ein gwasanaethau.

Beth yw’r buddion i Tŷ Hafan 

Mae’n incwm dibynadwy

Mae Rhoi o’r Gyflogres yn rhoi incwm rheolaidd i ni sy’n caniatáu i ni gynllunio a chyllidebu ar gyfer y dyfodol. 

Dyblu rhoddion

Weithiau bydd cyflogwyr yn penderfynu rhoi arian sy’n cyfatebol i’r hyn y mae eu cyflogeion yn ei roi sy’n golygu y byddwn yn cael mwy eto. 

Beth os byddaf yn newid swydd neu’n ymddeol?

Os byddwch yn newid swydd, bydd eich cynllun Rhoi o’r Gyflogres yn dod i ben yn awtomatig. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn i’ch cyflogwr newydd os oes ganddynt gynllun ar waith er mwyn i chi barhau i gefnogi ein gwasanaethau sy’n newid bywydau. 

Os ydych chi’n bwriadu ymddeol, siaradwch â’ch cyflogwr am Roi o’r Gyflogres. Mae rhai cyflogwyr yn gweithredu’r cynllun drwy bensiynau, gan ganiatáu i bobl barhau i gefnogi elusen yn y modd hwn ar ôl ymddeol. 

Sut ydym ni’n helpu

Yn Tŷ Hafan, rydym yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau arbenigol i blant a phobl ifanc sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u hanwyliaid. Gofal a chymorth arbenigol sy’n gwella bywydau yn aruthrol ac sy’n helpu teuluoedd i gael llawer o adegau hapus gyda’i gilydd. 

I wybod mwy

Sut gallwch chi ein cefnogi ni 

O roi rhodd, i drefnu digwyddiad codi arian, i wirfoddoli, mae llawer o ffyrdd o gefnogi ein gwaith hanfodol. Felly, gwnewch wahaniaeth heddiw. Beth bynnag y byddwch yn dewis ei wneud fe fydd yn gwneud bywyd byr yn fywyd llawn. 

I wybod mwy