Gwirfoddoli gyda Tŷ Hafan 

Yn Tŷ Hafan, mae llawer o ffyrdd y gallwch gefnogi ein gwasanaethau sy’n newid bywydau fel gwirfoddolwr. O weithio yn un o’n siopau, i ofalu am erddi ein hosbis, ac i helpu mewn digwyddiad Tŷ Hafan.  

Felly, dysgwch mwy am wirfoddoli i ni. Does dim angen unrhyw brofiad er mwyn cyflawni’r swyddogaeth y mae gennych ddiddordeb ynddi. Ac mae unrhyw amser y gallwch ei roi yn cael ei werthfawrogi’n fawr. 

Gwirfoddoli gyda Tŷ Hafan

500+

o wirfoddolwyr

Mae gennym dros 500 o wirfoddolwyr. Ein nod yw sicrhau y bydd pob un ohonyn nhw yn cael profiad gwerth chweil a phleserus gyda ni

96%

o foddhad

Fe wnaethom ni ofyn i’n gwirfoddolwyr sgorio eu profiad gwirfoddoli gyda ni. Dywedodd bron i 100% ei fod yn dda neu’n ardderchog.

£331,027

wedi’i arbed

Mae haelioni ein gwirfoddolwyr yn arbed dros tua £330,000 bob blwyddyn i ni. Arian y gallwn ei ddefnyddio i wella llawer mwy o fywydau.

Manteision bod yn wirfoddolwr 

Mae’r amser a’r egni yr ydych yn ei roi fel gwirfoddolwr wir yn helpu i roi gofal a chymorth i blant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd a’u teuluoedd 

Yn ogystal â hyn gallwch gael budd o’ch swyddogaeth wirfoddol yn y ffyrdd gwahanol hyn: 

Teimlo’n falch ynghylch gwneud bywyd byr yn fywyd llawn.

Datblygu sgiliau newydd a gwella rhai presennol. 

Cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd. 

Gwella eich hyder, eich llesiant a’ch hunan-barch. 

Mae gweithio yn Tŷ Hafan wedi bod o gymorth mawr o ran fy ngorbryder i’r graddau nad wyf angen cwnsela mwyach. Rwy’n gweithio gyda chriw gwych o bobl a wnaeth fy nerbyn i am bwy ydw i. Mae’r staff yr wyf wedi eu cyfarfod yn groesawgar ac mor gyfeillgar. Mae gwirfoddoli yn Tŷ Hafan mor heddychlon a thawel nes fy mod yn anghofio lle yr ydw i, ac mae’r adborth a gewch chi gan staff ac ymwelwyr yn aruthrol.

- Darren, Gwirfoddolwr Garddio

Sut i wirfoddoli 

Mae dod yn un o’n gwirfoddolwyr gwych yn hynod o syml ac nid yw’n cymryd llawer o amser o gwbl. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dilyn y pedwar cam canlynol. 

1

Dewch o hyd i swyddogaeth

Edrychwch ar ein swyddi gwag presennol a dewiswch swyddogaeth y mae gennych ddiddordeb ynddi. Cofiwch, cewch ddewis mwy nag un swyddogaeth, os dymunwch. 

2

Llenwch eich cais

Llenwch y ffurflen ar-lein sy’n gysylltiedig â’r swyddogaeth y mae gennych chi ddiddordeb ynddi. Fel arfer, dylai hyn gymryd tua phum munud ac mae’n rhwydd.

3

Cael sgwrs gyda ni

Ar ôl i ni edrych ar eich cais, byddwn yn cysylltu ac yn siarad yn fanylach am y swyddogaeth yr ydych chi wedi gwneud cais amdani ac unrhyw beth arall sydd ei angen arnoch chi.

4

Dechrau gwirfoddoli

Pan fyddwn yn fodlon ar unrhyw wybodaeth ychwanegol y gwnaethom ni ofyn amdani, ac rydych chi’n hapus i ddechrau eich swyddogaeth, gall eich taith wirfoddoli ddechrau. Hwre! 

Ffyrdd i wirfoddoli  

Mae amrywiaeth enfawr o ffyrdd y gallwch chi wirfoddoli gyda Tŷ Hafan i helpu i wneud bywyd byr yn fywyd llawn. Ac nid oes gwahaniaeth faint o amser yr ydych yn ei roi mewn gwirionedd. Mae pob awr yn werthfawr ac yn cael ei gwerthfawrogi  

Lawrlwytho ein llawlyfr gwirfoddolwr  

Mynnwch eich copi o’n llawlyfr ar gyfer gwirfoddolwyr Tŷ Hafan sydd wedi’i lunio’n ofalus. Mae’n cynnwys cyfoeth o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl o’ch swyddogaeth wirfoddoli, sut byddwn yn eich cefnogi, a pham y mae’r amser a roddwch mor bwysig i’r plant a’u teuluoedd yr ydym ni’n eu cefnogi. 

Lawrlwytho ein llawlyfr Gwirfoddoli yn Tŷ Hafan

Ein swyddi gwag gwirfoddol ar hyn o bryd  

Edrychwch ar y swyddogaethau gwirfoddoli gwych yr ydym yn gobeithio eu llenwi ar hyn o bryd yn Tŷ Hafan. 

Efallai y byddwch chi’n synnu at yr hyn sydd ar gael a chyn lleied o amser sydd angen i chi ei roi i fod yn un o’n gwirfoddolwyr gwych. 

Rhagor o wybodaeth

Cysylltwch â’n tîm Gwirfoddoli 

Mae ein tîm Gwirfoddoli yn cynnwys yr hyfryd Laura Terry a Deborah John. Mae ganddyn nhw lawer o brofiad o weithio gyda gwirfoddolwyr ac maen nhw’n barod i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.   

Cysylltwch â Laura a Debs drwy e-bost, volunteering@tyhafan.orgneu ffoniwch 029 2053 2254. Fe wnawn nhw gysylltu â chi cyn gynted ag y bo modd