Nid yw’r un rhiant yn dychmygu y bydd ei blentyn yn marw’n ifanc. Ond dyna’r realiti na ellir ei ddychmygu y mae’n rhaid i filoedd o bobl yng Nghymru ymdopi ag ef bob dydd.

Y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi ymchwil a oedd yn dangos bod nifer y teuluoedd yng Nghymru sydd â phlentyn a fydd yn byw bywyd byr wedi codi i ychydig o dan 4,000 erbyn 2019.

Yn aml, mae’r teuluoedd hynny yn ymdopi ag ofn, ansicrwydd a blinder llethol wrth ofalu am blentyn sy’n ddifrifol wael heb unrhyw ofal na chefnogaeth. Yn rhy aml mae teuluoedd ar eu pennau eu hunain, yn ofnus ac yn ynysig.

Pan allai pob diwrnod fod yr un olaf i’w plentyn, dylai teuluoedd fod yn gwneud atgofion gyda’i gilydd yn hytrach na wynebu pob dydd mewn ofn.

Yn Tŷ Hafan, rydym ni’n benderfynol o roi diwedd ar hyn. Rydym ni’n credu, pan fydd bywyd plentyn yn un byr, ni ddylai’r un teulu orfod ei fyw ar eu pennau eu hunain.

Rydym yn dychmygu Cymru lle gall pob plentyn gael y gwasanaethau y mae eu hangen arnynt. Cymru lle mae gan bob teulu ddewis am y gofal y maent yn ei gael. Cymru lle nad yw’r un teulu yn wynebu marwolaeth eu plentyn ar eu pennau eu hunain.

Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr i wneud yn siŵr eich bod bob amser yn cael y newyddion diweddaraf am sut rydych chi’n gwneud yn siŵr nad yw’r un teulu yn wynebu bywyd byr eu plentyn ar eu pennau eu hunain.

Sut gallwch chi helpu

Rydym ni’n siŵr y byddwch yn cytuno na ddylai’r un teulu wynebu bywyd byr eu plentyn ar eu pennau eu hunain, ond ar hyn o bryd dim ond 1 o bob 10 teulu sydd angen ein cymorth y gallwn ni eu cyrraedd. Gallwch chi wneud yn siŵr ein bod ni bob amser yno i gerdded gyda phob teulu sydd ein hangen ni.

Rhoi

Drwy roi rhodd gwerthfawr heddiw, byddwch yn helpu i roi gofal a chefnogaeth arbenigol i deuluoedd yng Nghymru sydd eu hangen ar frys.

Ffyrdd eraill o gymryd rhan

Mae eich rhoddion, yr arian rydych yn ei godi a’r amser rydych chi’n ei wirfoddoli i gyd yn pweru ein gofal a’n cefnogaeth arbenigol i blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd.

Stori Alfi

Bu farw Alfi yn heddlychlon yn mreichiau ei dad ar Fawrth y cyntaf 2015, Dydd Gŵyl Dewi ac yn drist iawn, pen-blwydd priodas Sara a Jason.

“Ers ei farwolaeth, mae Tŷ Hafan wedi bod yn gefnogaeth enfawr i ni. Rydyn ni’n dal i gael cefnogaeth gan ein Gweithiwr Cymorth Teulu ac rydym yn gwybod bod Tŷ Hafan yno i ni pryd bynnag a sut bynnag y byddwn ni eu hangen nhw,” meddai Sara.

“Rydyn ni’n mynd i Tŷ Hafan yn rheolaidd. Ni allaf ddechrau disgrifio’r hyn mae Tŷ Hafan yn ei olygu i ni fel teulu, ond un peth rwyf yn ei wybod yw y byddaf yn ddiolchgar am byth am yr atgofion y maen nhw wedi rhoi cyfle i ni eu creu ac rydym ni’n dal i’w creu hyd heddiw.”

Ein newyddion diweddaraf

Y newyddion diweddaraf am ein holl wasanaethau, ymgyrchoedd, digwyddiadau, y plant a’r teuluoedd hyfryd yr ydym yn eu cefnogi a’n cefnogwyr anhygoel.

Darllenwch ein newyddion diweddaraf
04.09.2025

Tal yn siarad dros iechyd plant

Ddydd Mercher, 2 Gorffennaf, gwahoddwyd Cadeirydd y Bwrdd Ieuenctid, Taliesin Skone, i siarad yn lan
04.09.2025

Clwb Ieuenctid yn cael ymweliad gan Chwaraeon Anabledd Cymru

Yr wythnos diwethaf, roeddem yn ddigon ffodus i groesawu Leif Thobroe, Uwch Swyddog Partneriaeth Ran
Cameron Spring Appeal
14.08.2025

Stori Cameron

Pan oedd ond dau ddiwrnod oed, cafodd Cameron ei frysio i ofal arbennig. Ar un adeg stopiodd anadlu.
Johnny a Michele
08.07.2025

Gwaddol llawn cariad: Rhodd Johnny a Michele i Tŷ Hafan

Dywedodd Johnny a Michele wrthym ychydig yn ôl eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad arbennig i gyn
08.07.2025

‘Amdanaf fi’ gan Theo

“Helo, fy enw i yw Theo, rwy’n 16 oed ac rwy’n byw gyda fy mam, fy nhad a fy nau frawd, Rowan